Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027

Strategaeth Hygyrchedd - Adran 5: Blaenoriaethau, cynllunio gweithredu a monitro

Crynodeb o flaenoriaethau

  1. Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: ffocysu ar y model cymdeithasol o anabledd; cadarnhau'r diffiniad o anabledd a'r cwmpas eang y mae hyn yn ei gwmpasu; yn amlinellu'n glir gyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant, yn enwedig y CCUHP, yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn yr unigolion hynny sydd â phrofiad o fyw.
  2. Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid / uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.
  3. Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asesdau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.
  4. Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'amrywiaeth hil cyrff llywodraethu' i gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.
  5. Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr a cyrff perthnasol wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.
  6. Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i pob aelod o staff, sicrhau ei fod yn gwella dealltwriaeth o: cwmpas eang anableddau; y model cymdeithasol o anabledd; addysgeg addysgu effeithiol ac yn gynhwysol gyda enghreifftiau o arfer.
  7. Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a teithiau preswyl.
  8. Hyrwyddo mynediad pellach i chwaraeon / addysg gorfforol gan gynnwys nofio. Datblygu canllawiau ar Addysg Gorfforol / chwaraeon cynhwysol i ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da. Cynnwys dysgwyr anabl wrth ddatblygu'r canllawiau.
  9. Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol.
  10. Datblygu awdit i bob ysgol ei defnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol ar gyfer pob anabledd.
  11. Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.
  12. Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.
  13. Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd.
  14. Ystyried ymgorffori ystorfa offer arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio / ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.

Yn seiliedig ar effaith, cost ac adnoddau / gwaith sydd ei angen, mae'r blaenoriaethau wedi'u categoreiddio fel rhai:

  • Tymor Byr - i gael sylw o fewn blwyddyn gyntaf y strategaeth.
  • Tymor Canolig - i'w cychwyn neu i gael sylw o fewn y strategaeth gyfredol.
  • Tymor Hir - i'w cychwyn o fewn y strategaeth gyfredol ond yn barhaus.

 

BlaenoriaethEffaithCostAdnodd / baich gwaithTymor
1.Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: ffocysu ar y model cymdeithasol o anabledd; cadarnhau'r diffiniad o anabledd a'r cwmpas eang y mae hyn yn ei gwmpasu; yn amlinellu'n glir gyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant, yn enwedig y CCUHP, yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn yr unigolion hynny  sydd â phrofiad o fyw.UchelIselCanoligByr
2.Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.CanoligIselCanoligCanolig
3.Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.CanoligIselCanoligCanolig
4.Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'amrywiaeth hil cyrff llywodraethu' i gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.IselIselIselCanolig
5.Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr a cyrff perthnasol wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.UchelIselIselHir
6.Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i pob aelod o staff, sicrhau ei fod yn gwella dealltwriaeth o: cwmpas eang anableddau; y model cymdeithasol o anabledd; addysgeg addysgu effeithiol ac yn gynhwysol gyda enghreifftiau o arfer.CanoligIselUchelCanolig
7.Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a teithiau preswyl.CanoligIselIselHir
8.Hyrwyddo mynediad pellach i chwaraeon/ addysg gorfforol gan gynnwys nofio. Datblygu canllawiau ar Addysg Gorfforol/chwaraeon cynhwysol i ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da. Cynnwys dysgwyr anabl wrth ddatblygu'r canllawiau.IselIselIselCanolig
9.Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol.CanoligIselIselCanolig
10.

Datblygu awdit i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol ar gyfer pob anabledd.

HirIselIselByr
11.Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.CanoligIselCanoligCanolig
12.Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.IselAnhysbysIselCanolig
13.Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd.UchelUchelUchelHir
14.Ystyried ymgorffori ystorfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiolIselUchelCanoligHir

Gweler y cynllun gweithredu yn Atodiad 3.

Bydd monitro cynnydd Cynllun Gweithredu yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.

Bwrdd Arweinwyr Strategol y Gyfadran Addysg fydd yn goruchwylio'r monitro.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu