Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027

Strategaeth Hygyrchedd - Adran 3: Cyd-Destun Abertawe

Mae gan Abertawe ystod eang o ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY ac anableddau. Mae'r awdurdod lleol yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i sicrhau bod y ddarpariaeth yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion. Bydd anghenion y mwyafrif o blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd. I'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol, gall darpariaeth arbenigol prif ffrwd helpu.

Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAA) / Ysgolion Arbennig

Mae gan nifer o ysgolion prif ffrwd gyfleusterau, adnoddau a staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ddarparu ar gyfer anghenion plant ag anawsterau dysgu penodol. Mae CAA fel arfer yn faes o fewn ysgol lle mae nifer fach o ddysgwyr ag anghenion uchel neu arwyddocaol yn cael eu haddysgu ar wahân. Mae'r rhan fwyaf o CAA yn rhoi cyfle i ddysgwyr fynychu rhai dosbarthiadau prif ffrwd, gyda chymorth priodol.

Mae gan Abertawe 34 CAA ar draws y cyfnodau cynradd ac uwchradd sy'n cwmpasu ystod o anghenion dysgu ychwanegol. Mae dwy ysgol arbennig, un ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog a'r llall ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu cymedrol i ddifrifol a disgyblion ag awtistiaeth.

Ar adeg drafftio'r strategaeth hon, mae Cyngor Abertawe'n cynnal adolygiad cynhwysfawr ac yn ailosod cyfleusterau addysgu arbenigol i sicrhau mynediad i ddysgwyr yn eu cymunedau eu hunain lle bynnag y bo modd. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn ymgynghori ar gynnig i gyfuno'r ddwy ysgol arbennig ar 1 Medi 2025 ar y safleoedd presennol. Yna adleolir i'r ysgol bwrpasol newydd ar 1 Ebrill 2025 - bydd hyn hefyd yn rhoi 100 yn ychwanegol o leoedd cynlluniedig.

Timau arbenigol

Mae gan y Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol nifer o dimau o weithwyr proffesiynol sydd naill ai'n gweithio gyda dysgwyr anabl neu'n cynghori ac yn arwain ysgolion, neu'r ddau:

  • Tîm Cefnogi Ymddygiad
  • Tîm Anghenion Corfforol a Chymhleth
  • Tîm Anghenion Synhwyraidd
  • Tîm Anawsterau Dysgu Cymhleth
  • Tîm Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu
  • Tîm Seicoleg Addysg

Data ar Ddysgwyr Anabl

Nid yw'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn casglu data ar ddysgwyr anabl fel y cyfryw; fodd bynnag, mae data ar anghenion ADY ar gael.

Nododd PLASC 2024 y canlynol
AngenCyfanswm
Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd237
Anhwylderau Sbectrwm Awtistig1187
Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol1428
Dyscalcwlia10
Dyslecsia280
Dyspracsia31
Anawsterau Dysgu Cyffredinol0
Nam ar y Clyw109
Anawserau Dysgu Cymedrol1731
Nam Aml-Synhwyraidd30
Anawsterau Corfforol a Meddygol348
Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog84
Anawserau Dysgu Difrifol167
Anawsterau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu1941
Nam ar y Golwg65
Cyfanswm*7648

*Dyma gyfanswm yr anghenion nid dysgwyr. Cyfanswm y dysgwyr ag ADY yn PLASC 2024 oedd 5,602 (15.4%).

Mae Atodiad 1 yn cynnwys data cenedlaethol ar anabledd. Yn cynnwys data cenedlaethol ar anabledd. Yn 2021 / 2022, cofnodwyd bod tua 11% o blant yn anabl ac mae'r ffigwr hwn bron wedi dyblu dros ddegawd. Mae hanner y plant anabl yn adrodd am nam cymdeithasol neu ymddygiadol.

Hygyrchedd Ysgolion

Mae llawer o'r 93 o adeiladau ysgol yn Abertawe yn rhagflaenu'r gofyniad i fod yn hygyrch Mae rhaglen gynlluniedig ar gyfer adeiladau newydd ac ailfodelu o fewn y degawd diwethaf wedi sicrhau bod rhai ysgolion naill ai'n gwbl hygyrch neu mai cyfyngedig yn unig yw eu problemau mynediad, lle na chafodd rhannau o adeiladau eu hailfodelu. Mae 11 ysgol gynradd a 6 ysgol uwchradd yn disgyn i'r categori hwn.

O ran yr ysgolion sy'n weddill, mae'r wybodaeth sydd gan yr awdurdod lleol ar hyn o bryd yn dangos bod 35 o ysgolion eraill yn rhannol hygyrch a bod gan y gweddill fwy o broblemau mynediad.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu