Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027

Strategaeth Hygyrchedd - Adran 4: Strategaeth Hygyrchedd Abertawe

Sefydlwyd grŵp craidd o swyddogion addysg i gynllunio a datblygu'r strategaeth a hysbyswyd gan ganlyniad ymarfer cwmpasu cychwynnol. Diben yr ymarfer cwmpasu oedd nodi barn, materion a rhwystrau gan amrywiaeth o randdeiliaid allweddol er mwyn nodi meysydd i'w gwella. Mae barn dysgwyr anabl a rhieni sy'n ofalwyr wedi bod yn ganolog i lunio'r strategaeth derfynol.

Yn yr ymarfer cwmpasu casglwyd gwybodaeth oddi wrth:

  • ysgolion drwy gyflwyno eu cynllun hygyrchedd cyfredol neu gwblau holiadur;
  • dysgwyr anabl trwy lenwi holiadur Word neu Microsoft Forms naill ai'n annibynnol neu gyda chymorth, ee. gan Gydlynydd ADY;
  • rhieni dysgwyr anabl trwy'r fforwm Rhieni sy'n Ofalwyr trwy grŵp ffocws bach a chwblhau holidaur Word neu Microsoft Forms;
  • swyddogion addysg drwy lenwi holiadur Word neu Microsoft Forms a thrwy drafodaeth fwy anffurfiol.

 

Ysgolion43 o ymatebwyr: cyflwynodd 25 gynlluniau hygyrchedd, 18 yn cwblhau holiadur
Dysgwyr63 o ymatebwyr
Rhieni / Gofalwyr28 o ymatebwyr, a grŵp ffocws oedd yn cynnwys arweinwyr y fforwm rhieni / gofalwyr
Swyddogion awdurdod lleolSwyddogion Addysg - grŵp cynllunio strategaeth
Swyddogion yn y Tîm Cymorth Dysgu

Amlinellir canfyddiadau sy'n gysylltiedig yn benodol â'r tair dyletswydd gynllunio yn yr adrannau perthnasol isod. Fodd bynnag, nodwyd rhai materion cyffredinol / meysydd i'w gwella hefyd, yn ymwneud yn bennaf â chydymffurfiaeth, gan gynnwys sut mae barn rhanddeiliaid perthnasol wedi hysbysu y blaenoriaethau ychwanegol.

Ar ôl cwblhau'r strategaeth ddrafft cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus saith wythnos. Roedd fersiwn Hawdd ei Darllen ar gael yn ogystal â fersiwn symlach wedi'i chyfieithu i 14 iaith gymunedol. Roedd sawl ffordd wahanol o ymateb. Rhoddwyd cyhoeddustrwydd i'r ymghynghoriad drwy: Cylchlythyr wythnosol yr Ysgolion; yn uniongyrchol i ALNCOs; drwy'r Fforwm Cyswllt Anabledd; drwy'r cyfryngau cymdeithasol; drwy'r Fforwm Rhieni a Gofalwyr a thrwy'r gyfathrebiad wythnosol Cydlyniant Cymunedol. Yn ogystal, cynhaliwyd Sgwrs Fawr i ddysgwyr.

Ymatebodd 26 o unigolion i'r ymgynghoriad cyhoeddus. Casglwyd adborth pellach gan gynrychiolwyr y fforwm rhieni gofalwyr a chymerodd 67 o ddysgwyr (19 oed uwchradd a 48 oed cynradd) ran yn y gweithdy Sgwrs Fawr.

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn teimlo bod y strategaeth yn hawdd ei darllen, yn hawdd ei deall ac yn addysgiadol. Yn gyffredinol, cafwyd ymatebion cadarnhaol i'r strategaeth a'r blaenoriaethau a nodwyd. Mae'r cynlluniau hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir a gallant helpu cynwysoldeb (dysgwr). 'cryf' (fforwm Rhiant-ofalwr). Mae'r themâu cyffredin yn yr ymatebion yn cyd-fynd yn fawr â'r hyn a welwyd yn yr ymarfer cwmpasu cychwynnol (ehangu dealltwriaeth ac ystyriaeth o bob math o anabledd; newidiadau mewn agweddau a dealltwriaeth o'r model cymdeithasol o anabledd sydd ei angen; hyfforddiant i athrawon; mynediad at Addysg Gorfforol a chwaraeon; llais y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn feirniadol wrth lunio cynlluniau; dealltwriaeth glir o gynhwysiant a'r hyn y mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd; pryderon ynghylch cyllid).

Blaenoriaethau ar gyfer gwella:

  • Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: ffocysu ar y model cymdeithasol o anabledd; cadarnhau'r diffiniad o anabledd a'r cwmpas eang y mae hyn yn ei gwmpasu; yn amlinellu'n glir gyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant, yn enwedig y CCUHP, yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn yr unigolion hynny sydd â phrofiad o fyw.
  • Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.
  • Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.
  • Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'amrywiaeth hil cyrff llywodraethu' i gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.
  • Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr a cyrff perthnasol wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.

Y tair dyletswydd gynllunio

Mae'r adrannau a ganlyn yn amlinellu'r tair dyletswydd gynllunio, yn nodi cyfrifoldebau cyffredinol yr awdurdod lleol ac ysgolion yn ogystal ag amlinellu'r canlyniadau a'r blaenoriaethau a nodwyd o'r ymarfer cwmpasu.

Y tair dyletswydd gynllunio yw:

  • cynyddu'r graddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol;
  • gwella amgylchedd ffisegol ysgolion; a
  • gwella'r modd y cyflwynir gwybodaeth ysgrifenedig i ddisgyblion anabl.

Dyletswydd Gynllunio 1

Cynyddu'r graddau y gall disgyblion anabl gymryd rhan yng nghwricwlwm yr ysgol

Mae gan ddysgwyr anabl union yr un hawliau cwricwlwm â'u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Dylai ymyrraeth gynnar ac atal alluogi mwy o blant i gael diwallu eu hanghenion mewn ffordd fwy cynhwysol trwy wasanaethau cyffredinol. Nid yw Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio'r hyn a olygir gan y cwricwlwm. Fodd bynnag, dylid ei gydnabod fel yr holl brofiadau a gynllunir ar gyfer plant a phobl ifanc trwy eu haddysg, lle bynnag y cânt eu haddysgu. Mae'r cyfanrwydd hwn yn cynnwys ethos a bywyd yr ysgol fel cymuned, meysydd cwricwlwm a phynciau, dysgu rhyngddisgyblaethol a chyfleoedd i gyflawni. (Cynllunio i gynyddu mynediad i ysgolion ar gyfer dysgwyr anabl 2018).

Noda'r Cwricwlwm i Gymru (https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales/humanities/statements-of-what-matters/) bod cwricwlwm ysgol yn bopeth y mae dysgwr yn ei brofi er mwyn cyflawni'r pedwar diben:

  • dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu hoes;
  • cyfranwyr mentrus, creadigol, sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd; ac
  • unigolion iach, hyderus, sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Dylai cwricwlwm ysgol godi dyheadau pob dysgwr. Dylai ystyried sut y caiff pob dysgwr ei gefnogi i wireddu'r pedwar diben ac i wneud cynnydd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr chwarae rhan weithredol yn eu cymuned a'r gymdeithas ehangach, a ffynnu mewn byd cynyddol gymhleth. Dylai ysgolion fod yn ymwybodol o anghenion ac amgylchiadau eu holl ddysgwyr wrth ddylunio eu cwricwlwm eu hunain, ystyried cyfle cyfartal wrth roi cymorth ac ymyriadau ar waith, neu wneud addasiadau rhesymol. 

Cwricwlwm i Gymru

Wrth ystyried sut y gellir gwella mynediad dysgwyr anabl i'r cwricwlwm, ni ddylid canolbwyntio yn unig ar feysydd dysgu a phrofiad penodol neu bynciau unigol ond ar pob agwedd o'r cwricwlwm, gan gynnwys gofal a gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol. Dylai cynllunio gynnwys mentrau i oresgyn unrhyw rwystrau sy'n atal, neu'n ei gwneud yn anodd, i blant ac oedolion ifanc anabl gymryd rhan lawn mewn teithiau ysgol a gweithgareddau fel chwarae ysgol, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau cymorth astudio. Felly, mae'r ddyletswydd gynllunio hon yn gofyn am ddull eang sy'n ceisio gwella mynediad y tu allan yn ogystal ag o fewn ysgolion e.e. sicrhau bod cludiant a ddefnyddir ar gyfer teithiau ysgol yn hygyrch i ddysgwyr anabl.

Mae'r ddyletswydd gynllunio hon hefyd yn cynnwys darparu cymhorthion, offer arbenigol a thechnoleg gynorthwyol ar gyfer dysgwyr unigol. Yn ogystal, mae'n cynnwys nodi a diwallu anghenion hyfforddi staff.

Cyfrifoldebau Cyffredinol

Bydd yr awdurdod lleol yn parhau i gefnogi ysgolion drwy:

  • Ddarparu dewislen gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol i ysgolion.
  • Mynediad at yr ystod lawn o wasanaethau arbenigol a all ddarparu cyngor ac ymgynghori, gan gynnwys drwy'r timau a restrir ar dudalen 14.
  • Hwyluso adnabod a rhannu arfer effeithiol.

Bydd ysgolion yn:

  • Nodi'r holl ddysgwyr a darpar-ddysgwyr anabl hysbys sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu a chyfranogiad llawn yn y cwricwlwm a datblygu a gweithredu rhaglenni a strategaethau addysgu hygyrch yn seiliedig ar gyngor arbenigol lle bo'n berthnasol.
  • Ystyried anghenion asesedig dysgwyr a gweithredu unrhyw addasiadau rhesymol a all fod yn angenrheidiol i alluogi cyfranogiad.
  • Sicrhau bod dysgwyr anabl yn cael y cymhorthion angenrheidiol a thechnoleg gynorthwyol yn ôl yr angen. Disgwylir i ysgolion ariannu unrhyw offer hyd at gost o £250 y dysgwr.
  • Parhau i ddatblygu a gwreiddio dulliau o wahaniaethu'r cwricwlwm i alluogi mwy o fynediad i ddysgwyr anabl.
  • Monitro a gwerthuso cyfranogiad a chynnydd yn y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr anabl a nodi unrhyw welliannau angenrheidiol.
  • Archwilio anghenion hyfforddi staff, gan gynnwys staff sydd newydd gymhwyso neu staff sydd newydd eu penodi, mewn perthynas â chynyddu cyfranogiad yn y cwricwlwm i ddysgwyr anabl a nodi a gweithredu cynlluniau i fodloni'r rhain.
  • Archwilio anghenion dysgwyr a darpar-ddysgwyr mewn perthynas â darpariaeth ehangach yr ysgol, gan gynnwys clybiau brecwast / ar ôl ysgol; gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol; a theithiau ysgol a chyfnodau preswyl a datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â rhwystrau a scirhau cyfranogiad.
  • Ystyried lleoli ystafelloedd dosbarth sy'n ymroddedig i feysydd cwricwlaidd penodol megis cerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf mewn ardaloedd o'r ysgol sy'n gwbl hygyrch, e.e. ar y llawr gwaelod.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella:

  • Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i pob aelod o staff, sicrhau ei fod yn gwella dealltwriaeth o: cwmpas eang anableddau; y model cymdeithasol o anabledd; addysgeg addysgu effeithiol ac yn gynhwysol gyda enghreifftiau o arfer da.
  • Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a phreswyl.
  • Mynediad pellach i chwaraeon/addysg gorfforol gan gynnwys nofio. Datblygu canllawiau ar Addysg Gorfforol/chwaraeon cynhwysol i ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da. Cynnwys dysgwyr anabl wrth ddatblygu'r canllawiau.
  • Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol.

Dyletswydd Gynllunio 2

Gwella amgylchedd ffisegol ysgolion i ddysgwyr anabl

Mae'r ddyletswyd gynllunio yn cynnwys gwelliannau, a sut y gwneir y rhain dros amser i amgylchedd ffisegol yr ysgol a darparu cymhorthion corfforol i gael mynediad at addysg. Mae angen i welliannau ystyried: mynediad corfforol; mynediad i ddysgwyr â nam ar eu golwg; mynediad i ddysgwr â nam ar eu clyw a mynediad i ddysgwyr â namau synhwyraidd. Mae'r ddyletswydd gynllunio hefyd yn cynnwys mynediad i gludiant ysgol.

Mae cymorthion ffisegol i gael mynediad at addysg yn cynnwys cymhorthion neu addasiadau a ddarperir o dan y ddyletswydd gynllunio sy'n ymwneud â phoblogaeth dysgwyr yr ysgol (a'r boblogaeth honno yn y dyfodol) yn hytrach na chymhorthion unigol / technoleg gynorthwyol a ddarperir ar sail unigol.

Mae'r amgylchedd ffisegol yn cynnwys:

  • dosbarthiadau
  • neuaddau / mannau cymunedol
  • coridorau
  • stepiau
  • grisiau
  • cyrbau
  • arwynebau allanol a phalmentydd
  • meysydd parcio
  • adeiladau mynedfeydd ac allanfeydd (gan gynnwys llwybrau dianc brys)
  • drysau mewnol ac allanol
  • giatiau
  • toiledau a chyfleusterau ymolchi
  • goleuo
  • gwresogi
  • awyru
  • lifftiaugorchuddion llawr
  • arwyddion
  • arwynebau mewnol
  • addurniadau ystafell / coridor a dodrefn.

Gall gwelliannau i fynediad corfforol gynnwys:

► gosod

  • rampiau
  • canllawiau
  • drysau wedi'u lledu
  • lifftiau
  • drysau awtomatig
  • toiledau, cawodydd ac ardaloedd newid hygyrch
  • dodrefn ac offer addasadwy

► sicrhau digon o le ar gyfer symud a storio offer

► gorchuddion llawr

► gweithdrefnau gwacáu

Gall gwelliannau i fynediad i ddysgwyr â nam ar eu golwg gynnwys:

► arwyddion

► systemau dod o gyd i lwybrau sy'n galluogi dysgwyr i ddod o hyd i'w ffordd o amgylch ysgol yn hawdd

► lliw sy'n cyferbynnu ar gyfer handlenni fframiau drysau ac i gamau i alluogi disgyblion i wneud y defnydd gorau o'u gweledigaeth weddilliol

► goleuadau addasadwy

► llenni

► palmant cyffyrddol y tu allan i'r ysgol

► gweithdrefnau gwacáu

Gall gwelliannau i fynediad i ddysgwyr â nam ar eu clyw gynnwys:

► dolenni sefydlu / systemau radio / systemau is-goch

► goleuadau addasadwy

► inswleiddio sain ar gyfer waliau, lloriau a nenfydau

► gweithdrefnau gwacáu

► gorchuddion llawr a dodrefn meddal

Gall gwelliannau i fynediad i ddysgwyr ag anableddau eraill gynnwys:

► gofynion ar gyfer gofod

► darparu canolfannau cymorth i ddysgwyr

► ystafelloedd tawel

► ystafelloedd synhwyraidd / mannau chwarae

► ystafelloedd therapi

► ffyrdd o ddod o hyd i systemau

Pan fydd unrhyw welliannau yn cael eu gwneud, rhagwelir y cymerir gofal i sicrhau cyfatebiaeth ofalus rhwng swyddogaeth / diben yr ardal a'i chynllun ffisegol.

Cyfrifodebau

Bydd yr awdurdod lleol yn:

  • adolygu ac asesu gwybodaeth a ddarperir trwy archwiliadau mynediad gan ysgolion i helpu i lywio'r cynllunio a'r blaenoriaethau;
  • hyrwyddo'r cysyniad o ddylunio cynhwysol a disgwyl y bydd cynllunio yn ystyried egwyddorion dylunio cynhwysol;
  • blaenoriaethu buddsoddiad mewn adeiladau ysgol yn unol â chwmpas ac amcanion y QEd - Cymunedau Cynaliadwyr ar gyfer Dysgu a'r datblygiad arfaethedig o ddarpariaeth ADY;
  • gwella hygyrchedd ffisegol pan ymgymerir ag ailfodelu ac adnewyddu adeiladau ysgol, a mynd i'r afael yn llawn â gofynion hygyrchedd pob anabledd ar gyfer pob adeilad newydd;
  • cynyddu'n raddol nifer yr ysgolion hygyrch gyda'r nod o gynnal plant a phobl ifanc, lle bo hynny'n bosibl, yn eu hysgolion lleol;
  • rhoi cyngor i lywodraethwyr, uwch arweinwyr a rheolwyr safle, ynghylch gwelliannau i amgylchedd ffisegol ysgolion yn ôl yr angen;
  • darparu cyngor i ysgolion fesul achos mewn perthynas â chynllunio ar gyfer gwelliannau i'r amgylchedd ffisegol i ddysgwyr unigol trwy gyfeirio at y Tîm Cymorth Dysgu;
  • ariannu pryniant cymhorthion / offer arbenigol dros £250;
  • ariannu gwelliannau hygyrchedd drwy'r rhaglen cynnal a chadw cyfalaf ar sail blaenoriaeth ac arian cyfatebol yn unol â'r Is-adran Cyfrifoldeb gydag ysgolion cynradd yn cyfrannu'r £5k cyntaf ac ysgolion uwchradd y £10k cyntaf;
  • gwneud defnydd ystyriol o grantiau ADY achlysurol a lle bo'n briodol defnyddio hyn i gefnogi gwelliannau hygyrchedd mewn ysgolion.

Bydd ysgolion yn:

  • cymryd agwedd strategol a rhagweithiol at hygyrchedd ffisegol trwy gwblhau archwiliad mynediad i nodi'r holl welliannau, ar gyfer yr ystod llawn o anableddau, sydd angen eu gwneud, a cheisio blaenoriaethu'r rhain dros amser;
  • cynnwys mân waith adeiladu neu ddatblygiadau i wella hygyrchedd, fel y nodwyd trwy'r awdit mynediad, yn y cynllun gwella ysgol yn flynyddol;
  • trefnu unrhyw addasiadau ffisegol sydd eu hangen, a bod yn gyfrifol am gost yr addasiadau fel y nodir yn yr Is-adran Cyfrifoldeb gydag ysgolion cynradd yn cyfrannu'r £5k cyntaf ac ysgolion uwchradd y £10k cyntaf;
  • darparu / gosod cymhorthion / offer arbenigol i gefnogi hygyrchedd ac ariannu hyn hyd at £1500;
  • cynnal a gwasanaethu adeiladau ac offer;
  • ystyried, ar sail gynlluniedig, sut i wella hygyrchedd drwy ad-drefnu neu aildrefnu agweddau ar amgylchedd yr ysgol nad oes angen eu haddasu'n ffisegol neu wneud gwaith adeiladu drwy:
    • aildrefnu gofod yr ystafell,
    • cael gwared ar rwystrau o goridorau a rhodfeydd,
    • newid cynllun ystafelloedd dosbarth,
    • darparu lle storio dynodedig,
    • adleoli ystafelloedd ar gyfer arbenigeddau pwnc penodol dros dro neu'n barhaol.

Blaenoriaethau ar gyfer Gwelliant:

  • Datblygu offeryn archwilio hawdd ei ddefnyddio i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol ar gyfer gwella'r amgylchedd ffisegol ar gyfer pob anabledd.
  • Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.
  • Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.
  • Adeiladu ysgol arbennig newydd gyda chyfleusterau arbenigol yr 21ain ganrif, gwell amgylcheddau dysgu a mwy o leoedd.
  • Ystyried ymgorffori storfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig newydd sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.

Dyletswydd Gynllunio 3

Gwella mynediad i wybodaeth ysgrifenedig a ddarperir gan yr ysgol i ddysgwyr anabl

Mae'r adran hon yn ymdrin â chynllunio i wneud gwybodaeth ysgrifenedig a ddarperir fel arfer gan yr ysgol i'w dysgwyr yn hygyrch i ddysgwyr anabl. Gall gwybodaeth gynnwys eitemau fel taflenni, amserlenni, gwerslyfrau neu wybodaeth am ddigwyddiadau ysgol. Gallai fformatau amgen ar gyfer darparu gwybodaeth gynnwys: print bras, tâp sain, Braille, system symbolau gydnabyddedig, y defydd o TGCh ar darparu gwybodaeth ar lafar, trwy siarad gwefusau, neu mewn iaith arwyddion.

Rhaid darparu gwybodaeth o fewn amser rhesymol, ee. amserlen resymol ar gyfer darparu taflen sydd ei hangen yn ystod gwers fyddai ar ddechrau'r wers.

Yn ymarferol, rhagwelir y bydd anghenion y mwyafrif o ddysgwyr sydd angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol eisoes wedi cael eu nodi drwy brosesau adnabod ADY.

Cyfrifoldebau

Bydd yr awdurdod lleol yn:

  • Sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r ystod lawn o wasanaethau cymorth sydd ar gael i roi cyngor, arweiniad a chynorthwyo'n uniongyrchol i drosi gwybodaeth i fformatau amgen.
  • Adolygu'n rheolaidd ei drefniadau ar gyfer darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen i sicrhau bod ganddo gapasiti digonol yn yr achos hwn.
  • Darparu cyngor arbenigol i ysgolion mewn perthynas â nam ar eu golwg.
  • Annog ysgolion, gan gynnwys ysgolion arbennig, i rannu syniadau a chasglu a choladu enghreifftiau o arfer da i'w lledaenu.

Bydd ysgolion yn:

  • Sicrhau eu bod yn darparu gwybodaeth yn y ffordd orau bosibl i bob dysgwr anabl gan ddefnyddio offer a thechnegau amrywiol.
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith staff o'r gofyniad i ddarparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, os oes angen.
  • Cynnal y wybodaeth ddiweddaraf am anghenion dysgwyr o ran darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen a sicrhau ei bod yn cael ei rhannu ymhlith staff.
  • Casglu a rhannu enghreifftiau o arfer da ymhlith staff.
  • Adolygu ac archwilio'n rheolaidd ddull yr ysgol o ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig yn gyffredinol i weld a oes modd gwella'r fformat yn rheolaidd ac yn gyffredinol er mwyn gwella hygyrchedd.
  • Ceisio cyngor a chefnogaeth arbenigol yn yr achosion hynny sydd y tu hwnt i arbenigedd uniongyrchol yr ysgol.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella yn y maes hwn:

Yn y bôn, mae'r materion allweddol a nodwyd yn dynodi angen am hyfforddiant pellach i athrawon, sydd wedi'i nodi fel blaenoriaeth o dan ddyletswydd gynllunio 1.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu