Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027
Strategaeth Hygyrchedd - Adran 5: Blaenoriaethau, cynllunio gweithredu a monitro
Crynodeb o flaenoriaethau
- Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: ffocysu ar y model cymdeithasol o anabledd; cadarnhau'r diffiniad o anabledd a'r cwmpas eang y mae hyn yn ei gwmpasu; yn amlinellu'n glir gyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant, yn enwedig y CCUHP, yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn yr unigolion hynny sydd â phrofiad o fyw.
- Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid / uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod.
- Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asesdau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl.
- Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'amrywiaeth hil cyrff llywodraethu' i gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl.
- Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr a cyrff perthnasol wrth lunio gwelliannau hygyrchedd.
- Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i pob aelod o staff, sicrhau ei fod yn gwella dealltwriaeth o: cwmpas eang anableddau; y model cymdeithasol o anabledd; addysgeg addysgu effeithiol ac yn gynhwysol gyda enghreifftiau o arfer.
- Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a teithiau preswyl.
- Hyrwyddo mynediad pellach i chwaraeon / addysg gorfforol gan gynnwys nofio. Datblygu canllawiau ar Addysg Gorfforol / chwaraeon cynhwysol i ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da. Cynnwys dysgwyr anabl wrth ddatblygu'r canllawiau.
- Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol.
- Datblygu awdit i bob ysgol ei defnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol ar gyfer pob anabledd.
- Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai.
- Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd.
- Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd.
- Ystyried ymgorffori ystorfa offer arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio / ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol.
Yn seiliedig ar effaith, cost ac adnoddau / gwaith sydd ei angen, mae'r blaenoriaethau wedi'u categoreiddio fel rhai:
- Tymor Byr - i gael sylw o fewn blwyddyn gyntaf y strategaeth.
- Tymor Canolig - i'w cychwyn neu i gael sylw o fewn y strategaeth gyfredol.
- Tymor Hir - i'w cychwyn o fewn y strategaeth gyfredol ond yn barhaus.
Blaenoriaeth | Effaith | Cost | Adnodd / baich gwaith | Tymor | |
---|---|---|---|---|---|
1. | Cynhyrchu canllawiau cynhwysfawr i ysgolion ar ddatblygu cynlluniau hygyrchedd sy'n: ffocysu ar y model cymdeithasol o anabledd; cadarnhau'r diffiniad o anabledd a'r cwmpas eang y mae hyn yn ei gwmpasu; yn amlinellu'n glir gyfrifoldebau statudol; yn rhoi hawliau plant, yn enwedig y CCUHP, yn ganolog ac yn sicrhau bod gwelliannau'n seiliedig ar farn yr unigolion hynny sydd â phrofiad o fyw. | Uchel | Isel | Canolig | Byr |
2. | Adolygu a gwella'r wybodaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i lywodraethwyr, penaethiaid/uwch arweinwyr, rheolwyr adeiladau a Chydlynwyr ADY mewn perthynas â'r uchod. | Canolig | Isel | Canolig | Canolig |
3. | Ceisio gwella agweddau tuag at anabledd trwy hyrwyddo ymagwedd seiliedig ar asedau, sydd hefyd yn mynd i'r afael â gwahaniaethu a micro-ymosodedd diwylliant sy'n ffafrio pobl abl. | Canolig | Isel | Canolig | Canolig |
4. | Ehangu cwmpas y ffrwd waith 'amrywiaeth hil cyrff llywodraethu' i gynnwys gweithgareddau ar gyfer cynyddu nifer y llywodraethwyr sy'n nodi eu bod yn anabl. | Isel | Isel | Isel | Canolig |
5. | Parhau i hwyluso cyfranogiad effeithiol ac ystyrlon gan ddysgwyr anabl a'u rhiant-ofalwyr a cyrff perthnasol wrth lunio gwelliannau hygyrchedd. | Uchel | Isel | Isel | Hir |
6. | Adolygu ac ehangu ymhellach y cynnig dysgu proffesiynol i pob aelod o staff, sicrhau ei fod yn gwella dealltwriaeth o: cwmpas eang anableddau; y model cymdeithasol o anabledd; addysgeg addysgu effeithiol ac yn gynhwysol gyda enghreifftiau o arfer. | Canolig | Isel | Uchel | Canolig |
7. | Datblygu canllawiau i ysgolion ar addasiadau rhesymol ar gyfer teithiau a teithiau preswyl. | Canolig | Isel | Isel | Hir |
8. | Hyrwyddo mynediad pellach i chwaraeon/ addysg gorfforol gan gynnwys nofio. Datblygu canllawiau ar Addysg Gorfforol/chwaraeon cynhwysol i ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer da. Cynnwys dysgwyr anabl wrth ddatblygu'r canllawiau. | Isel | Isel | Isel | Canolig |
9. | Gwella'r wybodaeth a'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol trwy weithredu'r Strategaeth Ddigidol. | Canolig | Isel | Isel | Canolig |
10. | Datblygu awdit i bob ysgol ei ddefnyddio i gefnogi eu cynllunio rhagweithiol er mwyn gwella'r amgylchedd ffisegol ar gyfer pob anabledd. | Hir | Isel | Isel | Byr |
11. | Gwella'r system ar gyfer nodi a blaenoriaethu gwelliannau hygyrchedd ar draws yr ystâd ysgolion sy'n defnyddio'r awdit mynediad fel sail, ac sydd ag amserlenni penodol i gefnogi defnydd mwy strategol o grantiau cyfalaf llai. | Canolig | Isel | Canolig | Canolig |
12. | Archwilio'r potensial ar gyfer gwella hygyrchedd ar ymyl y ffordd gyda'r Tîm Priffyrdd. | Isel | Anhysbys | Isel | Canolig |
13. | Adeiladu ysgol arbennig newydd sbon o'r radd flaenaf gyda chyfleusterau arbenigol integredig, amgylchedd dysgu gwell a mwy o leoedd. | Uchel | Uchel | Uchel | Hir |
14. | Ystyried ymgorffori ystorfa offer ganolog yn yr adeilad ysgol arbennig sy'n cefnogi ail-ddefnyddio/ailgylchu offer yn fwy cost-effeithiol | Isel | Uchel | Canolig | Hir |
Gweler y cynllun gweithredu yn Atodiad 3.
Bydd monitro cynnydd Cynllun Gweithredu yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol.
Bwrdd Arweinwyr Strategol y Gyfadran Addysg fydd yn goruchwylio'r monitro.