Datganiad isadeiledd gwyrdd - cyngor ynghylch ceisiadau ar gyfer datblygiadau deiliaid tai a datblygiadau bach
Mae angen datganiad isadeiledd gwyrdd ar gyfer pob datblygiad, fel a nodwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru.
Isadeiledd gwyrdd yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r holl fannau gwyrdd, pridd, llystyfiant a dŵr sy'n darparu'r gwasanaethau ecosystem sy'n gwneud lleoedd yn fwy anheddol. Nid yw'n cynnwys arwynebau palmantog, arwynebau wedi'u selio nac adeiladau, ond mae'n cynnwys nodweddion ar adeiladau megis toeon gwyrdd a waliau gwyrdd.
Mae datganiad isadeiledd gwyrdd yn disgrifio sut mae'r isadeiledd gwyrdd ar safle (coed, perthi, glaswelltiroedd, pyllau, draenio cynaliadwy etc.) wedi cael ei gynnwys yn y cynnig datblygu, sut mae'n cysylltu â'r tir o'i gwmpas a sut mae'n cefnogi cysylltedd ecolegol er mwyn darparu budd net ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae isadeiledd gwyrdd yn darparu gwasanaethau ecosystem ac mae o fudd i fioamrywiaeth. Mae'n helpu cymdogaethau i allu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, yn cefnogi bywyd gwyllt, ac mae o fudd i iechyd a lles corfforol a meddyliol. Mae sawl ffordd o gynnwys isadeiledd gwyrdd mewn datblygiad, gan gynnwys;
- plannu ar gyfer cysgod yn yr haf a pheillwyr,
- creu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt (e.e. perthi a phyllau),
- creu man ar gyfer tyfu bwyd,
- reu gerddi glaw i gasglu a chadw dŵr wyneb ffo,
- ychwanegu toeon gwyrdd neu waliau gwyrdd at adeiladau, sy'n cynnig amryfal fuddion gan gynnwys amsugno dŵr, inswleiddio, lle ar gyfer natur a gwerth amwynder.
Pump egwyddor isadeiledd gwyrdd
Mae'r cyngor yn defnyddio pump egwyddor isadeiledd gwyrdd. Gallai fod yn ddefnyddiol cyfeirio at yr egwyddorion yn eich datganiad.
Amlbwrpas
Gwneud yn siŵr bod unrhyw welliannau'n darparu cynifer o fuddion â phosib. Er enghraifft, dewis planhigion sy'n darparu cysgod a/neu fwyd i anifeiliaid brodorol (e.e. adar, pryfed, mamaliaid bach), yn darparu cysgod yn ystod diwrnodau poeth yr haf, ac yn creu mannau deniadol a/neu dawel i gwrdd, ymlacio a chwarae.
Wedi'i addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd
Mae tirlunio meddal yn amsugno dŵr ac yn helpu i leihau llifogydd. Mae coed yn darparu rhywle i oeri yn ystod yr haf a bwyd a chysgod i fywyd gwyllt.Mae llystyfiant hefyd yn helpu i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd drwy ddal a chadw carbon.
Iach
Mae llystyfiant yn helpu'n hiechyd corfforol a meddyliol drwy amsugno llygredd, darparu awyr glân, dŵr glân a bwyd, lle i ymarfer corff, cymdeithasu a chwarae a lle i gael cyswllt â natur.
Bioamrywiaeth
Cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol, darparu lloches a bwyd, a chreu coridorau gwyrdd sy'n cysylltu â mannau gwyrdd sydd eisoes yn bodoli.
Clyfar a chynaliadwy
Defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu neu ddeunyddiau o ffynonellau cynaliadwy a chynnal lleoedd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu cynifer o fuddion â phosib i bobl a bywyd gwyllt.
Dylai fod Datganiad Isadeiledd Gwyrdd yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad, ac ni ddylai fod yn ofyniad beichus ar gyfer ymgeiswyr yn achos datblygiadau bach, megis ceisiadau deiliaid tai.
Nid yw'n briodol gofyn am yr wybodaeth hon drwy amod cynllunio, ac yn hytrach mae'n rhaid ei darparu cyn y gwneir penderfyniad ynghylch y cais, ac mae'n rhaid ei hystyried fel rhan o'r broses cais cynllunio.
Cynllun gwella bioamrywiaeth
Yn ôl Polisi Cynllunio Cymru mae'n ofynnol i bob datblygiad ddangos budd net ar gyfer bioamrywiaeth a gellir cyflawni hyn drwy gynnwys mesurau gwella bioamrywiaeth yn eich datblygiad.
Nid oes angen iddynt fod yn gostus nac yn fawr o ran maint:
- a gallent gynnwys blychau ystlumod ac adar,
- blychau pryfed,
- twmpathau gwenyn a chreaduriaid di-asgwrn-cefn,
- creu pwll,
- plannu coed, llwyni neu flodau brodorol y bydd gwenyn a pheillwyr eraill yn elwa ohonynt.
Yr unig ffordd o gyflawni budd net yw drwy osgoi difrod, lleihau a lliniaru unrhyw effeithiau a gwneud iawn am unrhyw golledion. Nid oes angen i'r gwelliannau fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r adeilad newydd arfaethedig; gallent fod ynghlwm wrth yr annedd neu yn yr ardd, ond yn ddelfrydol dylent fod ar dir o fewn y ffin llinell goch (cwrtil y safle datblygu)
Sut ydw i'n darparu'r wybodaeth?
I ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol, gellir llenwi'r Ffurflen datganiad isadeiledd gwyrdd a gwella bioamrywiaeth (Word doc, 38 KB) i nodi'r manylion Isadeiledd Gwyrdd a Gwella Bioamrywiaeth penodol a fydd yn cael eu cynnwys yn eich datblygiad arfaethedig.
Mae'n rhaid i'r Datganiad Isadeiledd Gwyrdd ddangos y bydd bioamrywiaeth yn cael ei gwarchod a'i gwella drwy ddilyn y camau hyn yn eu trefn:
Cam 1 | Osgoi difrod i fioamrywiaeth |
---|---|
Cam 2 | Lleihau'r effaith gychwynnol ar fioamrywiaeth ac ecosystemau |
Cam 3 | Rhaid rhoi mesurau lliniaru ar waith i gyfyngu ar effeithiau negyddol datblygiad |
Cam 4 | Fel dewis olaf, rhaid digolledu oddi ar y safle i wneud iawn am ddifrod na ellir ei osgoi. |
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol Tîm Tirlunio ac Isadeiledd Gwyrdd ebost landscapeteam@abertawe.gov.uk neu Tîm Ecoleg ebost nature.conservation@abertawe.gov.uk