Toglo gwelededd dewislen symudol

Atgyweiriadau, cynnal a chadw a gwelliannau i dai a stadau cyngor

Yn ogystal â'r atgyweiriadau a'r gwaith cynnal a chadw rheolaidd rydyn ni'n eu gwneud, gall fod gwelliannau neu newidiadau yr hoffech eu gwneud i'ch cartref.

Gwelliannau i dai cyngor

Rydym bellach wedi cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ac wrth wneud hynny, rydym wedi cyflawni rhaglen enfawr o atgyweiriadau a gwelliannau i'n tai cyngor ar draws Abertawe.

Sut i ddelio â phroblemau yn eich tŷ cyngor drosoch eich hun

Ar adegau mae pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun i helpu i atal problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf, neu atebion syml i'ch helpu i ddatrys problemau.

Gwneud cais am atgyweiriad

Gallwch ofyn am atgyweiriad i'ch cartref drwy ein ffurflen ar-lein.

Atgyweiriadau brys

Mae ein gwasanaeth atgyweirio brys yn ymdrin ag atgyweiriadau brys sy'n angenrheidiol i'ch gwneud chi'n ddiogel.

Gwasanaethu, atgyweiriadau a chynnal a chadw cynlluniedig

Rydym yn ymgymryd ag atgyweiriadau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar dai cyngor, gan gynnwys gwasanaethu nwy.

Gwneud eich gwelliannau eich hun

Mae'r hawl gan bob deiliad contract i wneud gwelliannau i'w gartref, fel gosod unedau cegin, adeiladu wal yn yr ardd neu osod cawod neu fath newydd.

Hawl i atgyweirio

Os na chaiff atgyweiriadau eu gwneud o fewn yr amser a benodwyd, mae gennych hawl i ofyn am gontractwr gwahanol.

Dysglau lloeren

Gallwch osod dysgl loeren ar eich eiddo ar yr amod eich bod wedi cael caniatâd yr Adran Tai a'r Adran Cynllunio, os oes angen.

Gwasanaeth torri gwair

Mae help ar gael i dorri gwair a pherthi os na allwch wneud hynny eich hun ac os nad oes gennych unrhyw un i wneud hynny i chi.

Garejys a dreifiau

Gwybodaeth am adeiladu dreif a rhentu garej.

Gofalu am stadau

Mae gofalwyr ystadau'n cael gwared ar sbwriel, yn gwneud gwaith cynnal a chadw tir isel, yn cael gwared ar nodwyddau ac yn gwirio ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Gorffenaf 2021