Beth yw'r broses graffu?
Trefnir gwaith cyffredin tîm Craffu Abertawe gan Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor. Maent yn trefnu ac yn rheoli'r hyn y bydd Craffu'n edrych arno bob blwyddyn.
Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n trafod materion gwahanol. Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis a bydd yn aml yn cynnal sesiynau trafod gydag Aelodau'r Cabinet am gyfrifoldebau eu portffolio. Gall aelodau'r cyhoedd hefyd gyfrannu syniadau at y sesiynau hyn.
Gwneir yr holl waith arall gan Gynghorwyr Craffu trwy wneud amrywiaeth o weithgareddau eraill:
- Paneli Craffu Perfformiad. Mae'r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn edrych ar berfformiad meysydd penodol, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau.
- Paneli Ymchwilio Craffu. Maent yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis. Byddant yn datblygu adroddiad gyda thystiolaeth a syniadau ar gyfer yr Aelod Cabinet perthnasol.
- Gweithgorau Craffu. Cyfarfodydd untro sy'n edrych ar fater sy'n peri pryder ac yn datblygu sylwadau a syniadau.
Mae gan bob grŵp gynullydd sy'n cadeirio cyfarfodydd ac yn ymgysylltu ag Aelodau'r Cabinet. Byddant yn gofyn cwestiynau, yn rhoi barn ac yn gwneud argymhellion.