Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith craffu?

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yr hoffech gymryd rhan mewn gwaith craffu, mae sawl ffordd y gallwch wneud hyn.

Dod i gyfarfod

Mae holl gyfarfodydd y byrddau craffu'n agored i'r cyhoedd.

Cynhelir Pwyllgor y Rhaglen Graffu bob mis. I weld dyddiadau'r cyfarfod hwn a chyfarfodydd craffu eraill, ewch i  galendr cyfarfodydd y cyngor (Yn agor ffenestr newydd).

Mae'r holl wybodaeth am gyfarfodydd craffu, gan gynnwys agendâu, cofnodion a chanlyniadau ar gael Agendâu a Chofnodion (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd). Mae manylion y lleoliad a'r papurau agenda ar gael yn yr wythnos cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynd i gyfarfod o'r Panel Craffu, ffoniwch y tîm craffu ar 01792 637732.

Ymgynghoriad

Yn ystod cam casglu tystiolaeth ymchwiliad, ymgynghorir ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn cael tystiolaeth. Mae manylion ein holl ymgynghoriadau i'w gweld ar y tudalennau Lleisiwch eich barn. Rydym hefyd yn hysbysebu ymgynghoriadau drwy'r Blog Craffu, datganiadau i'r wasg neu yn y papur newydd lleol.

Neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm craffu.

Gwneud cais am graffu

Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn ninas a sir Abertawe wneud cais am graffu ar faterion sy'n peri pryder lleol.

Codi mater i graffu arno Hoffech chi godi mater gyda'r tîm craffu?

Close Dewis iaith