Cais am brydau ysgol am ddim
Cwblhewch ffurflen i gyflwyno cais am brydau ysgol am ddim i'ch plentyn.
Mae'n bwysig bod yr wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad sy'n hawlio'r taliad. Mae prydau ysgol am ddim ar gael i deuluoedd sy'n derbyn un o'r taliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol
- Cymhorthdal o dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Treth Plant gydag incwm blynyddol, fel yr asesir gan Gyllid y Wlad, nad yw'n fwy na £16,190.00 ac NID yw'n derbyn Credyd Treth Gwaith.
- Credyd Treth Gwaith 'ychwanegol' - y taliad y gall rhywun ei dderbyn am bedair wythnos ychwanegol ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith (sylwer ni fyddech yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim os byddwch yn derbyn Credyd Treth Gwaith mewn unrhyw amgylchiadau eraill).
- Credyd Cynhwysol os yw'ch enillion net blynyddol yn £7,400 neu lai.
Covid-19 - Mae Cyngor Abertawe'n cefnogi plant sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod hwn tra bo'r ysgolion ar gau drwy adael i'w gofalwyr ddewis sut rydym yn darparu eu 5 pryd o fwyd yr wythnos.
- Taliad o £39 pythefnos yn uniongyrchol i'w cyfrif banc (sy'n gyfwerth â £19.50 yr wythnos).
- Parsel bwyd wythnosol yr ydym yn ceisio ei wella bob wythnos. Mae cynnwys y parsel yn amrywio o wythnos i wythnos, ac rydym yn gweithio gyda chyflenwyr lleol i ddarparu cynnyrch priodol. Gall gofalwyr gysylltu ag ysgol leol y plentyn os oes ganddo unrhyw anghenion deietegol megis os yw'n llysfwytawr neu'n halal, neu ddosbarthu'r parsel i'r stepen drws.
Ar ôl i'r ysgol gael gwybod bod gan ddisgybl hawl i brydau ysgol am ddim, bydd yn cysylltu â'r gofalwr cymwys i drefnu sut i gofrestru'r taliadau banc. Bydd y gofalwr yn derbyn e-bost i gadarnhau'r broses.
PEIDIWCH Â CHYSYLLTU â'r tîm prydau ysgol am ddim gydag ymholiadau am y taliadau hyn. Cysylltwch ag ysgol eich plentyn.