Toglo gwelededd dewislen symudol

Gofal preswyl a nyrsio

Efallai eich bod chi neu berthynas yn ystyried cartref gofal am eich bod yn raddol yn cael mwy o anhawster ymdopi gartref, neu efallai fod salwch neu ddamwain wedi effeithio ar eich gallu i fyw'n annibynnol.

Weithiau, ar ôl cyfnod o salwch, gall arhosiad mewn gwasanaeth asesu ac ailalluogi arbenigol roi'r sgiliau a'r hyder i chi allu ymdopi gartref, efallai gyda chefnogaeth gofal cartref a gofal iechyd yn hytrach na symud i ofal preswyl tymor hir.

Asesiad

Cyn i chi benderfynu symud i gartref gofal, dylech chi, eich gofalwr neu berthynas ofyn i'r Gwasanaethau Cymdeithasol am asesiad o'ch anghenion gofal. Bydd gwybod pa fath o ofal a chefnogaeth y bydd eu hangen arnoch yn helpu wrth i chi ddewis y cartref gofal sy'n iawn i chi. Neu efallai y gellir rhoi cefnogaeth i chi yn eich cartref, gan eich helpu i barhau i fyw yno yn hytrach na symud. Mae'r asesiad am ddim, a gallwch gael un hyd yn oed os ydych yn gwybod na fyddech yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Os ydych yn gofyn am gefnogaeth ariannol gan yr awdurdod lleol ar gyfer gofal preswyl tymor hir,  gall arhosiad mewn uned asesu yn ffurfio rhan o'r broses asesu.

A oes angen cartref preswyl neu nyrsio arnaf?

Gall cartrefi gofal preswyl gynnig cymorth gyda gofal personol, yn ogystal â gwasanaethau megis golchi dillad a phrydau bwyd. Mae rhai cartrefi yn cynnig arosiadau tymor byr neu seibiant, ond fel arfer maent yn darparu gofal tymor hir neu barhaol.

Os yw eich salwch neu'ch anabledd yn golygu bod angen gofal nyrsio rheolaidd arnoch, ac ni ellir ei roi yn eich cartref eich hun, efallai y bydd angen i chi symud i gartref gofal â nyrsys. Bydd staff nyrsio ar gael 24 awr y dydd mewn cartref nyrsio.

Dewis cartref gofal

Bydd y cartref gofal sydd fwyaf addas i chi'n dibynnu ar y swm a'r math o ofal y mae ei angen arnoch.

Talu am ofal preswyl

Bydd faint byddwch chi'n ei dalu am ofal preswyl yn dibynnu ar eich incwm, eich cynilion ac asesdau eraill.

Asiantau gofal cartref

Gwybodaeth am ofal cartref a ddarperir trwy asiantaethau eraill.

Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach

Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.