Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024

Dyma'n trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020-24 a ddatblygwyd i ddisgrifio sut byddwn yn parhau i geisio bodloni'n hymrwymiad i gydraddoldeb a sut byddwn yn cyflawni'r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Rhan 1

Diben y Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Dyma'n trydydd Cynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) 2020-24 a ddatblygwyd i ddisgrifio sut byddwn yn parhau i geisio bodloni'n hymrwymiad i gydraddoldeb a sut byddwn yn cyflawni'r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'n adeiladu ar y cyflawniadau a wnaed yn ein hail CCS, sef Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-20 ond mae hefyd wedi'i adolygu er mwyn gwreiddio'n hymrwymiad i gydraddoldeb ym musnes craidd y cyngor. Mae cydberthynas agos rhwng Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Lles y cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb y cyngor Cynllun gwella corfforaethol. Cyhoeddir Cynllun Corfforaethol diwygiedig yn ystod 2020/21. Bydd llawer o'r camau i gyflwyno amcanion lles a chydraddoldeb y cyngor  yn cyfateb yn well wrth i ni fynd ar drywydd integreiddio a cheisio gwella lles ac anelu at Abertawe a Chymru fwy cyfartal.

Mae ein cynllun presennol, Cynllun Corfforaethol 2018-22, yn blaenoriaethu chwe amcan lles:

  • Diogelu pobl rhag niwed - er mwyn sicrhau bod ein dinasyddion yn ddiogel rhag niwed a chamfanteisio.
  • Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pawb yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau y mae eu hangen arno i  lwyddo mewn bywyd.
  • Trawsnewid ein Heconomi a'n Hisadeiledd - fel bod gan Abertawe ganol dinas defnydd cymysg, ffyniannus ac economi leol a fydd yn cefnogi ffyniant ein dinasyddion.
  • Trechu Tlodi - fel bod pob person yn Abertawe'n gallu cyflawni ei botensial.
  • Cynnal a gwella Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth Abertawe - fel ein bod yn cynnal ac yn cyfoethogi bioamrywiaeth, yn lleihau ein hôl-troed carbon, yn gwella'n gwybodaeth am yr amgylchedd naturiol a'n dealltwriaeth ohono ac yn gwella'n hiechyd a'n lles yn sgîl hyn.
  • Trawsnewid a datblygu'r cyngor yn y dyfodol - fel ein bod ni a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu'n gynaliadwy ac yn addas i'r dyfodol.

Er mwyn datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-24 rydym am ddatblygu lens cydraddoldeb ar gyfer pob un o'n busnesau craidd ac wrth wneud penderfyniadau, yn hytrach na datblygu blaenoriaethau, camau a chamau gweithredu ar wahân. Diben hyn yw sicrhau bod cydraddoldeb wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Mae ein hymagwedd at gydraddoldeb hefyd wedi'i llywio gan ein gwerthoedd - canolbwyntio ar bobl, gweithio ar y cyd, arloesedd a'n hegwyddorion -  cynaladwyedd ac ataliaeth, gan geisio sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a all gwneud gwahaniaeth i bobl. Mae gennym hefyd rôl allweddol i'w chwarae mewn perthynas â chydraddoldeb fel cyngor, yn ogystal â rôl arwain y gymuned drwy gefnogi partneriaid allweddol i hyrwyddo cydraddoldeb a chael gwared ar wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth.

Dyletswydd ddeddfwriaethol a chyd-destun

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (DCSC), a gyflwynwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ('y Ddeddf'), yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, wedi'i chefnogi gan ddyletswyddau penodol.

Dyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol

Nod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rheini sy'n cyflawni dyletswyddau cyhoeddus yn ystyried sut gallant gyfrannu at gymdeithas decach yn gadarnhaol drwy ddatblygu cydraddoldeb a pherthnasoedd da yn eu gweithgareddau pob dydd. Wrth gyflawni eu swyddogaethau, gofynnir i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth briodol i'r angen i:

(i)  Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.

(ii) Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

(iii) Meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Mae'r Ddeddf yn esbonio bod rhoi ystyriaeth i hyrwyddo cyfle cyfartal yn yr ail amcan yn ymwneud â:

  • Chael gwared ar yr anawsterau a brofir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig neu eu lleihau.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau nodweddion gwarchodedig lle bo'r rhain yn wahanol i bobl eraill.
  • Annog pobl o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle mae cyfranogiad yn anghymesur o isel.

Mae'r ddeddf yn disgrifio meithrin perthnasoedd da, sef y trydydd amcan, fel mynd i'r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rheini nad ydynt yn ei rhannu. Gall cyflawni dyletswydd gynnwys trin pobl yn fwy ffafriol nag eraill, ar yr amod nad yw hyn yn mynd yn groes i unrhyw ddarpariaethau eraill yn y ddeddf.

Y Dyletswyddau Penodol

Yn ogystal â chyflawni'r ddyletswydd gyffredinol, mae angen rhoi ystyriaeth briodol i'r angen i gael gwared ar wahaniaethu, gwella cyfleoedd cyfartal a meithrin perthnasoedd da; mae angen i gyrff cyhoeddus rhestredig gyflawni dyletswyddau penodol tra manwl i ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a oedd yn nodi'r gofynion ar gyfer Cymru fel a ganlyn:

  • Gosod Amcanion Cydraddoldeb a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
  • Ymgysylltu â phobl mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig.
  • Casglu a chyhoeddi gwybodaeth sy'n berthnasol i gydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol.
  • Cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb o bolisïau ac arferion perthnasol.
  • Cyhoeddi gwybodaeth am fonitro cyflogaeth yn flynyddol.
  • Hyrwyddo gwybodaeth ymhlith gweithwyr am y Ddeddf Cydraddoldeb ynghyd â dealltwriaeth ohoni.
  • Mynd i'r afael â gwahaniaethau cyflog annheg.
  • Sefydlu amodau perthnasol i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol yn y broses  gaffael.
  • Adolygu cynnydd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r Amcanion Cydraddoldeb cysylltiedig.

Pwy a warchodir o dan Deddf Cydraddoldeb 2010?

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu ar sail y nodweddion canlynol:

  • Oed
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Hil
  • Crefydd neu gred (neu ddiffyg cred)
  • Rhyw
  • Tueddfryd rhywiol
  • Priodas a phartneriaethau sifil.

Mae gwahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd ei nodwedd warchodedig yn erbyn y gyfraith. Dyma'r term a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 i nodi'r mathau o bethau sy'n effeithio ar sut mae pobl yn cael eu trin a gall olygu bod pobl yn profi gwahaniaethu.

Croestoriad

Mae ein hymagwedd at gydraddoldeb yn ceisio cydnabod effaith croestoriadaeth, lle mae pobl sy'n rhannu mwy nag un nodwedd warchodedig mewn perygl o wynebu anfantais, anghyfiawnder, gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth lluosog. Gall effaith croestoriadaeth amrywio ac mae'n anodd ei feintioli, fodd bynnag mae'n bwysig cydnabod y cysyniad yn nhermau datblygu polisi ac arfer, hyrwyddo cyfle cyfartal a mynd i'r afael â gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth.

Y Gymraeg

Nid yw hyrwyddo a defnyddio'r Gymraeg wedi'u cynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb; yn hytrach mae'n cael ei gynnwys yn y gofynion a nodir ym Mesur y Gymraeg 2011. Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn gosod rhwymedigaeth ar y sector cyhoeddus i gydymffurfio â chyfres o 'Safonau' ac i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal. Bydd adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg yn cael ei gynnal fel dogfen annibynnol a bydd yn destun craffu blynyddol i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni. Fodd bynnag, rydym wedi cynnwys ystyriaeth o'r Gymraeg yn ogystal â'r nodweddion gwarchodedig ehangach o ran ein hymagwedd at gydraddoldeb. Caiff yr effaith ar y Gymraeg ei harchwilio yn ein Hasesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC) a ddefnyddir yn ystod proses gwneud penderfyniadau'r cyngor. 

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol (Tlodi)

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddechrau'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o fewn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Wrth wneud penderfyniadau strategol, bydd gofyn i gyrff cyhoeddus roi ystyriaeth i leihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau sy'n deillio o anawsterau economaidd-gymdeithasol. Rydym wedi adeiladu ar ein hystyriaeth o anfantais economaidd-gymdeithasol a chydraddoldeb yn ein hail CCS, sef CCS 2016-2020. Mae mynd i'r afael â thlodi'n parhau i fod yn un o'n hamcanion lles corfforaethol ac mae ein proses Asesiad Effaith Cydraddoldeb wedi cynnwys nifer o faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb megis tlodi, eithrio cymdeithasol a hawliau plant.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)

Rydym yn parhau i wreiddio Hawliau Plant ym mhob un o bolisïau, cynlluniau ac arferion allweddol y cyngor.

Ni oedd y cyngor cyntaf i ymgorffori CCUHP yn ein Fframwaith Polisi, ac rydym wedi datblygu Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sy'n pennu'n trefniadau i sicrhau cydymffurfio â'r ddyletswydd dan sylw.

Rydym wedi parhau i gynnwys safonau CCUHP yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol i Ysgolion, Strategaeth Cyfranogiad y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Strategaeth y Blynyddoedd Cynnar, y Rhaglen Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, yr Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, cynlluniau'r Gwasanaeth Pobl Ifanc a Chynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe.

Dinas Hawliau Dynol a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau eraill

Rydym hefyd yn parhau i archwilio camau tuag at Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol a sut gallem wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yn yr un ffordd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

Rydym hefyd wedi parhau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r Egwyddorion Hawliau Dynol ar gyfer Pobl Hŷn a'r Datganiad Hawliau Dynol yn ehangach.

Mae'r Cynllun Cynnwys Heneiddio'n Dda wedi cynnwys egwyddorion Hawliau Dynol. Mae'r adolygiad o'r Rhwydwaith 50+ er mwyn datblygu fforwm Sgwrs Fawr ar gyfer y rheini sy'n 50 oed ac yn hŷn wedi ein galluogi i wneud cysylltiadau amlwg â hawliau dynol a sicrhau bod dinasyddion sy'n 50+ yn defnyddio ffyrdd mwy ystyrlon i leisio'u barn am y materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Rydym hefyd wedi parhau i weithredu'r camau yng nghynllun gweithredu Cynllun Lles Abertawe i gyflawni un o brif amcanion ein partneriaeth - Byw'n Dda, Heneiddio'n Dda a sicrhau bod gweithgarwch yn cyd-fynd â gwaith Heneiddio'n Dda. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe wedi cefnogi'r egwyddorion a'r camau gweithredu a nodir yn Natganiad Dulyn ar Ddinasoedd a Chymunedau Ewrop sy'n Ystyriol o Bobl Hŷn ac mae'n cefnogi datblygiad ymagwedd Dinas Hawliau Dynol yn Abertawe.

Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC)

Rydym yn parhau i ddefnyddio'n proses Asesiadau Effaith Cydraddoldeb gynhwysfawr am ei bod yn ystyried y Gymraeg, tlodi a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ogystal ag anghenion gofalwyr a chydlyniant cymunedol. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y broses yn parhau i fod yn addas i ddefnyddwyr, yn effeithiol ac yn ymarferol i gydweithwyr ar draws y cyngor.

Mae gan gydweithwyr fynediad at gyfres o offer ac arweiniad ar-lein o oblygiadau cydraddoldeb sgrinio gynnar i gwblhau AEC llawn. Mae'r Tîm Mynediad i Wasanaethau yn parhau i gydlynu AEC pwrpasol.

Mae ein protocol Cydraddoldeb a Chynnwys (i sicrhau bod asesiadau effaith cydraddoldeb yn cael eu holrhain a'u monitro trwy broses adrodd a phenderfynu'r cyngor) yn parhau i fod yn ddefnyddiol iawn wrth sicrhau yr ystyrir materion cydraddoldeb ac yr eir i'r afael â hwy lle y bo angen.

Panel Ymchwiliad Craffu - Cydraddoldeb

Nodwyd cydraddoldeb fel testun ymchwiliad craffu pwysig a chytunwyd arno fel testun ymchwiliad craffu manwl gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu. Y prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad oedd archwilio sut roedd y cyngor yn cyflawni ac yn gwreiddio'r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru) ac i archwilio sut roedd y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau yn nhermau: dileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu a fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall a gwaherddir yn y Ddeddf, gan hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng y rheini a chanddynt nodwedd warchodedig a'r rheini hebddynt a meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r bobl nad ydynt yn ei rhannu.

Roedd yr adolygiad yn broses fanwl a gynhaliwyd dros gyfnod o 18 mis a oedd yn cynnwys proses ymgynghori gynhwysfawr â phobl â nodweddion gwarchodedig a rhanddeiliaid allweddol. Yn gyffredinol, daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (a Dyletswydd Cydraddoldeb Cyhoeddus yng Nghymru 2011). Nodwyd nifer o feysydd arfer da drwy gydol yr ymchwiliad, ond nododd y panel nifer o feysydd i'w gwella hefyd. Mae'r argymhellion o'r ymchwiliad hwn yn rhan o'n CCS 2020-24 ac fe'u hamlinellir yn y camau a'r gweithredoedd y byddwn yn eu cymryd.

Cynllun Cyflogwr Chwarae Teg

Eleni enillom y Wobr Arian gan elusen Chwarae Teg yn eu Cynllun Cyflogwr Chwarae Teg: https://chwaraeteg.com/projects/fairplay/. Rydym am i Gyngor Abertawe fod yn weithle lle gall pawb gyflawni eu potensial llawn, ni waeth beth yw eu rhyw. Rydym wedi bod yn gweithio ar bolisïau a mentrau i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw mewn partneriaeth â'r elusen cydraddoldeb rhyw arweiniol, Chwarae Teg. Bydd meincnod y Cyflogwr Chwarae Teg yn ein cefnogi ni i gyflwyno cydraddoldeb rhyw yn ein busnes, gan roi buddion gweithlu cytbwys i ni.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i gyflawni datblygu cynaliadwy er mwyn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Abertawe.

Mae defnyddio'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn golygu bod rhaid i ni 'weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain'. Mynegir yr egwyddor datblygu cynaliadwy drwy bum ffordd o weithio. Mae Cyngor Abertawe wedi defnyddio'r ffyrdd hyn o weithio i ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

1.  Tymor hir - Pwysigrwydd cydbwyso'r anghenion tymor byr â'r angen i ddiogelu anghenion tymor hir.

Mae'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn rhoi ffocws ar gyfnod o bedair blynedd. Fe'i lluniwyd gan ystyried yr effaith y caiff ein camau ar wella bywyd a lleihau'r anghydraddoldebau a brofir gan genedlaethau'r dyfodol.

2.  Atal - Sut gall gweithredu i atal problemau rhag codi neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

Diben ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yw mynd i'r afael â meysydd blaenoriaeth er mwyn atal anghydraddoldebau rhag gwaethygu ond hefyd i fynd i'r afael â gwir achos annhegwch fel y gellir osgoi gwahaniaethu ac anghyfiawnder yn y dyfodol.

3.  Integreiddiad - Ystyried sut gallai amcanion lles y corff cyhoeddus effeithio ar bob nod lles, ar amcanion eraill neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Rydym wedi osgoi dyblygu diangen lle bynnag y bo modd ac wedi ceisio integreiddio canfyddiadau a thystiolaeth gwaith cydraddoldeb cyfredol diweddar a'u defnyddio. Mae cydberthynas agos rhwng Amcanion Lles ac Amcanion Cydraddoldeb y cyngor. Mae cysylltiad agos rhwng nifer o'r camau i gyflwyno Amcanion Lles ac Amcanion Cydraddoldeb y cyngor wrth i ni fynd ar drywydd integreiddio, ceisio gwella lles ac anelu at Abertawe a Chymru fwy cyfartal.

4.  Cydweithio - Gweithio ar y cyd ag unrhyw berson arall (neu rannau eraill o'r cyngor) a allai ein helpu i gyflawni ein hamcanion lles.

Rydym wedi cysylltu â gwasanaethau ar draws y cyngor a'n partneriaid i ddefnyddio ein sgiliau a'n perthnasoedd yn y ffordd orau posib i ymgysylltu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd mewn gwahanol ffyrdd. Yn ogystal â:

5.  Cyfranogaeth - Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau lles a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae'r corff yn ei gwasanaethu.

Rydym wedi ceisio cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymuned, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig. Yn arbennig, rydym wedi defnyddio'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant wrth gynllunio cyfleoedd ymgysylltu a'u rhoi ar waith.

Mae'r ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar Gyngor Abertawe i gynyddu ei gyfraniad i bob un o'r nodau llesiant cenedlaethol (a ddangosir yn y darnau jig-so isod). Rydym yn gwneud hyn drwy ymgorffori'r nodau yn ein Hamcanion Lles Corfforaethol (a ddangosir yn y darnau coch isod) a'n penderfyniadau ar draws ein sefydliad, gan gynnwys datblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn helpu i greu Abertawe fwy cyfartal, llewyrchus, iachach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac Abertawe o gymunedau cydlynus â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

 

Rhan 2

Amdanom ni

Proffil demograffig

Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru a'r ganolfan ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru. Amlinellir yr ystadegau allweddol am bobl sy'n byw yn Ninas a Sir Abertawe isod:

  • Mae 246,500 (yn ôl Mehefin 2018) o bobl yn byw yn Abertawe, sef tua 8% o boblogaeth Cymru, gyda dwysedd poblogaeth o 638 o bobl y cilometr sgwâr.
  • Mae ei strwythur poblogaeth yn gymharol nodweddiadol, ond mae'n dangos bod cynnydd sylweddol yn y grŵp oedran 19-22, sy'n gysylltiedig â phresenoldeb a derbyniad myfyrwyr y brifysgol yn Abertawe.
  • Rhwng 2005 a 2015, cynyddodd y boblogaeth 13,000 (5.7%) gyda'r rhan fwyaf o'r twf diweddar oherwydd mudo rhyngwladol.
  • Yn y degawd hwn, cofnodwyd twf sylweddol yn y boblogaeth 20-29 oed ac yn y grwpiau oed hŷn, gyda 1,200 o bobl ychwanegol (+23.7%) 85 oed ac yn hŷn.
  • Rhagwelir y bydd poblogaeth Abertawe'n cynyddu 21,600 (9.0%) erbyn 2039, sef y drydedd gyfradd twf uchaf amcanol yng Nghymru, gyda chynnydd o 18,400 (+39.8%) yn y rheini sy'n 65 oed ac yn hŷn.
  • Disgwyliad oes adeg genedigaeth yn Abertawe bellach yw 78.0 o flynyddoedd (gwrywod) ac 82.4 o flynyddoedd (benywod). Dros y deng mlynedd diwethaf, mae disgwyliad oes wedi cynyddu tua 2 flynedd i wrywod a benywod.
  • Mae 105,300 o aelwydydd yn byw yn Abertawe (2015), a maint cyfartalog yw aelwyd yw 2.23 o bobl. Mae 36,500 (34.3%) o aelwydydd yn aelwydydd oedolion sengl, sydd wedi cynyddu 2,600 yn y pum mlynedd diwethaf.
  • Mae amcangyfrifon y Cyfrifiad yn awgrymu poblogaeth cefndir ethnig nad yw'n wyn o oddeutu 14,300 yn Abertawe, sef 6.0% o'r boblogaeth gyfan (2011).  Tsieineaidd a Bangladeshaidd yw'r grwpiau ethnig nad ydynt yn wyn mwyaf (cyfanswm: 4,000).
  • Roedd gostyngiad o 11.4% (26,300) yng nghyfran y bobl yn Abertawe (3+ oed) sy'n gallu siarad Cymraeg yn y deng mlynedd hyd at 2011, ond mae cynnydd yn y grŵp oedran dan 16 oed.
  • Mae gan Abertawe rôl allweddol yn is-ranbarth de-orllewin Cymru fel economi sy'n canolbwyntio ar y sector gwasanaeth â chyfran uchel o swyddi sector cyhoeddus.
  • Mae gweithgarwch economaidd a chyflogaeth yn Abertawe'n agos i gyfraddau Cymru, ond maent yn is na chyfraddau'r DU.
  • Mae cyfran gymharol uchel o breswylwyr (16-64 oed) â chymwysterau lefel uwch (NVQ 3+) yn byw yn Abertawe, ond hefyd rhai heb gymwysterau.

Beth rydym yn ei wybod am bobl Abertawe sydd â nodweddion gwarchodedig?

DaethA yw Cymru'n Decach 2018? i'r casgliad bod bylchau sylweddol yn nata Cymru sy'n eu gwneud hi'n anodd i ddeall profiadau pobl â nodweddion gwarchodedig. Er bod bylchau yn y data, gallwn ddefnyddio gwybodaeth o'r Cyfrifiad, yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol, ystadegau Llywodraeth Cymru ac ymchwil a gwybodaeth leol i nodi rhai nodweddion allweddol ar gyfer grwpiau o bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig.

Anabledd

  • Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd gan bron chwarter o breswylwyr Abertawe broblem iechyd tymor hir neu anabledd (gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu i 'lawer' neu 'ychydig'), sef 55,700 o bobl neu 23.3% o'r cyfanswm; sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru (22.7%). Ymhlith pobl oedran gweithio (16-64 oed), mae o gwmpas 27,000 o bobl yn Abertawe wedi dioddef o broblemau iechyd tymor hir neu anabledd, sef 17.4% o boblogaeth oed gwaith 2011 (Cymru 16.9%).
  • Mae gweithgarwch economaidd yn sylweddol is ar gyfer pobl sy'n anabl.  Yn Abertawe, y gyfradd gweithgarwch economaidd ar gyfer pobl oedran gweithio sydd ag anabledd hirdymor sy'n cyfyngu ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd (a ddiffiniwyd gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) neu sy'n cyfyngu ar waith (a ddiffinnir gan y Cyfrifiad) oedd 54.0% (Mawrth 2019), a'r ffigur ar gyfer y rheini nad oeddent yn anabl oedd 79.8%.  Roedd y gyfradd gyflogaeth hefyd yn is, sef 48.7% ar gyfer pobl anabl o'i chymharu â'r 74.9% ar gyfer y rheini nad ydynt yn anabl.  Mae'r gyfradd ddiweithdra yn uwch ar gyfer pobl 16-64 oed sy'n anabl (9.8%) na'r rheini nad ydynt yn anabl (6.1%).
  • Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn adrodd bod 1,220 o bobl yn Abertawe wedi'u cofrestru ag anableddau dysgu (Mawrth 2019), yr oedd 1,092 ohonynt (89.5%) yn byw mewn lleoliadau cymunedol a 128 (10.5%) ohonynt yn byw mewn sefydliadau preswyl.  Ar gyfer y rheini mewn lleoliadau cymunedol, roedd 57% o'r holl bobl ar gofrestrau yn byw gyda'u rhieni neu eu teulu.  Ym mis Mawrth 2019, roedd 19.1% o'r bobl y cofrestrwyd bod ganddynt anableddau dysgu yn Abertawe dan 16 oed, roedd 72.3% rhwng 16 a 24 oed ac roedd 8.6% yn 65 oed ac yn hŷn.
  • Yn Abertawe, cofrestrwyd bod gan 2,547 o bobl anableddau corfforol neu synhwyraidd ym mis Mawrth 2019.  O'r cyfanswm hwn, cofrestrwyd bod gan 56% nam gweledol, yr oedd gan 744 ohonynt nam difrifol ar y golwg ac roedd gan 679 nam ar y golwg.  O'r rheini a oedd yn weddill heb anabledd gweledol, roedd gan 510 o bobl (45.5%) anabledd corfforol yn unig, gyda 385 o bobl yn drwm eu clyw a 229 yn fyddar.

Hil

  • Y grŵp ethnig mwyaf yn Abertawe yw Gwyn, gyda 94.0% o breswylwyr (224,700 o bobl) yn perthyn i'r grŵp ethnig hwn (Cyfrifiad 2011) a'r 6.0% o breswylwyr sy'n weddill yn dod o grŵp ethnig heb fod yn wyn.  Yn 2011, y grŵp ethnig mwyaf heb fod yn wyn yn Abertawe oedd y grŵp Tsieineaidd (2,052 o bobl, 0.9%) a Bangladeshaidd (1,944, 0.8%) wedi'i ddilyn gan Asiaidd arall, Affricanaidd ac Arabaidd.
  • Dangosodd ymchwil SYG diweddar (2017) fod oddeutu 19,000 o bobl yn Abertawe (tua 8% o'r boblogaeth gyfan) yn perthyn i grŵp ethnig heb fod yn wyn yn 2016.  Roedd 7,000 o bobl ychwanegol yn y categori 'Pob Gwyn Arall', felly roedd oddeutu 26,000 o bobl (oddeutu 11% o boblogaeth Abertawe yn 2016) yn 'Brydeinig heb fod yn wyn'.
  • Mae Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) 2018 yn amcangyfrif bod 17,100 o bobl 16+ oed yn Abertawe (8.4% o'r cyfanswm) o grŵp lleiafrifoedd ethnig (95% cyfwng hyder: +/-2.3 %- pwyntiau).
  • Ym mis Ionawr 2019, roedd 11.2% o gyfanswm nifer y disgyblion 5 oed neu'n hŷn mewn ysgolion a gynhelir yn Abertawe wedi'u nodi fel disgyblion heb fod yn wyn, sy'n uwch na'r ffigur cyfwerth yn y Cyfrifiad ac mewn amcangyfrifon ymchwil blaenorol.  Y cyfraddau uchaf o fewn y ffigur hwn yw Unrhyw Grwpiau Ethnig Arall (gan gynnwys Arabaidd, gyda 2.8% o bob disgybl yn 2019) a Bangladeshaidd (2.0%).
  • Mae data Cyfrifiad 2011 hefyd yn dangos bod 77.7% o boblogaeth Abertawe (tua 185,700 o bobl) wedi'u geni yng Nghymru, gyda 14.1% wedi'u geni yn Lloegr ac 1.0% wedi'u geni yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.  Yn 2011, ganwyd oddeutu 17,200 o breswylwyr Abertawe (7.2% o'r cyfanswm) y tu allan i'r DU, gyda chyfansymiau'r gwledydd unigol dros fil yn perthyn i Wlad Pwyl (1,345), Tsieina (1,249) ac India (1,105).

Priodas a phartneriaeth sifil

  • Adroddodd Cyfrifiad 2011 fod bron 44% o oedolion (16+ oed) yn Abertawe'n briod, sydd ychydig yn is na chyfrannau cyfwerth yng Nghymru a Lloegr, gyda chyfrannau uwch cyfatebol yn sengl.  Mae'r ffigurau ar gyfer categorïau eraill yn gymharol agos i gyfartaledd Cymru.
  • Mae'r amcangyfrifon diweddaraf sy'n seiliedig ar arolygon ar gyfer statws priodasol yn 2018 awgrymu bod 35.6% o'r oedolion yng Nghymru'n sengl (Cymru a Lloegr 35.0%), gyda 48.2% o oedolion yng Nghymru yn briod (Cymru a Lloegr 50.4%).  Amcangyfrifwyd bod 8.2% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi ysgaru (Cymru a Lloegr 8.0%) ac mae 7.9% yn weddw (Cymru a Lloegr 6.4%).  Yn y ddau gategori hyn, mae'r cyfrannau'n uwch ar gyfer menywod na dynion.
  • O'r data sydd ar gael (2014-2016), ceir cyfartaledd o 1,226 o briodasau rhyw arall yn Abertawe bob blwyddyn.  Yn 2014 (Mawrth), 2015 a 2016, nifer blynyddol y priodasau o'r un rhyw yn Abertawe oedd 25, 44 a 52 yn ôl eu trefn.

Beichiogrwydd a mamolaeth

  • Yn 2018, ganwyd 2,366 o fabanod i breswylwyr yn Abertawe, sydd bron yr un peth â ffigur 2017 (+2).  Mae bras amcan o gyfraddau geni Abertawe, sef 9.6 (genedigaethau byw fesul 1,000 o bobl yn 2018) yn is na Chymru ar hyn o bryd (10.0) a Chymru a Lloegr (11.1).  Mae'r patrwm yn cael ei ailadrodd yn fras yn y Gyfradd Ffrwythlondeb Gyffredinol, gyda 50.8 o enedigaethau byw fesul 1,000 o bobl 15-44 oed yn Abertawe yn 2018 (Cymru 56.3, Cymru a Lloegr 59.1).

Ailbennu rhywedd

  • Nid oes unrhyw ystadegau swyddogol ar gyfer pobl sy'n ailbennu rhywedd ar lefel leol neu genedlaethol, o arolygon neu ffynonellau gweinyddol.  Fodd bynnag, amcangyfrifodd ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2012) fod gan ychydig dan 1% o'r boblogaeth genedlaethol y nodwedd warchodedig hon.
  • Nododd ymgynghoriad 2015 ar bynciau Cyfrifiad 2021 yr angen ymhlith nifer o ddefnyddwyr data am wybodaeth ynghylch hunaniaeth rhywedd er mwyn datblygu polisïau a chynllunio ar gyfer gwasanaethau (e.e. i ddarparu ar gyfer y gwasanaethau iechyd), ac am wybodaeth am y rheini â nodweddion gwarchodedig o ran ailbennu rhywedd fel a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  • Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn argymell cynnwys cwestiwn am hunaniaeth rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 sy'n casglu gwybodaeth am y rheini y mae eu rhyw yn wahanol i'w rhyw a gofnodwyd pan gawsant eu geni.  Mae ymchwil a phrofion wedi dangos y byddai'n dderbyniol ac ychydig iawn o effaith y byddai'n ei chael ar yr ymateb cyffredinol a'r baich a roddir ar ymatebwyr.  Bydd y cwestiwn arfaethedig yn wirfoddol, a chaiff ei ofyn i bobl 16 oed neu'n hŷn yn unig a bydd yn cynnwys opsiwn ymateb "mae'n well gen i beidio â dweud". Bydd canlyniadau cyntaf o Gyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr yn cael eu cyhoeddi yn 2022.

Tueddfryd Rhywiol

  • Er bod peth data swyddogol am dueddfryd rhywiol neu hunaniaeth, nid oes data lleol swyddogol. (Lefel awdurdod lleol). Yn ogystal, er bod ffynonellau swyddogol wedi'u llunio gan lywodraeth y DU (SYG) mae rhai pryderon ynghylch a yw'r data hwn yn adlewyrchu maint go iawn y boblogaeth o ganlyniad i ddiffyg adrodd neu ddewis peidio â datgelu.
  • Mae ymchwil o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) 2017 yn awgrymu, dros y pum mlynedd diwethaf, fod cyfran poblogaeth y DU sy'n lesbiaidd, yn hoyw neu'n ddeurywiol (LHD) wedi cynyddu o 1.5% yn 2012 i 2.0% yn 2017. Yn ystod y cyfnod hwn mae cyfran poblogaeth aelwydydd y DU sy'n nodi eu bod yn LHD wedi cynyddu o 1.5% i 2.0% yn 2017 a chyfran Cymru wedi cynyddu 0.7%.
  • Dangosodd ymchwil o SYG 2017 mai 2% oedd canran y bobl sy'n nodi eu bod yn LHD yng Nghymru, sy'n debyg ar gyfer Lloegr (2.1%), yr Alban (1.9%) ond yn uwch na Gogledd Iwerddon (1.2%). Roedd yr ymchwil hefyd wedi dangos bod gwrywod (2.3%) yn fwy tebygol o nodi eu bod yn LHD na menywod (1.8%) ac roedd pobl 16 i 24 oed yn fwy tebygol o nodi eu bod yn LHD (4.2%) yn ystod cyfnod yr ymchwil.
  • Ym Mhapur Gwyn y Cyfrifiad, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018, argymhellodd SYG gynnwys cwestiwn hunaniaeth rhywedd yng Nghyfrifiad 2021 gyda'r categorïau ymateb canlynol: Gwahanrywiol neu syth; Hoyw neu lesbiaidd; Deurywiol; Tueddfryd rhywiol arall (nodwch); Mae'n well gen i beidio â dweud. Bydd canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 yn cael eu cyhoeddi yn 2022.

Crefydd neu gred

  • Yr unig ffynhonnell ddata leol ar gyfer crefydd yw Cyfrifiad 2011. Mae cwestiwn Cyfrifiad Cymru a Lloegr('Beth yw eich crefydd?') yn gofyn am ymlyniad crefyddol; sef y ffordd y mae pobl yn cysylltu â chrefydd neu'n uniaethu â chrefydd, heb ystyried arfer go iawn, cred neu ymdeimlad o berthyn. Felly, o ran canlyniadau a dadansoddiad Cyfrifiad, mae crefydd yn fesur o hunaniaeth, yn hytrach nag agweddau eraill.
  • Mae Cyfrifiad 2011 yn dangos mai Cristnogaeth yw prif grefydd Abertawe (131,451 o bobl, sy'n cynrychioli 55.0% o boblogaeth gyfan y Cyfrifiad). Cyfanswm nifer y bobl sy'n byw yn Abertawe â chrefydd nad yw'n Gristnogaeth (Bwdhaeth, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Islam, Siciaeth a chrefydd arall) oedd 8,530; sef 3.6% o'r holl bobl.
  • O'r categorïau crefydd a restrir, nododd 5,415 o bobl (2.3%) eu bod yn Foslemiaid, gan olygu mai dyma'r grefydd fwyaf cyffredin ar ôl Cristnogaeth. Yr unig grefyddau lleiafrifol eraill â mwy na 500 o bobl yn Abertawe yn 2011 oedd Bwdhaeth (856, 0.4%) a Hindŵaeth (780, 0.3%). Dangosodd Cyfrifiad 2011 hefyd nad oedd 34.0% yn dilyn unrhyw grefyddau ac nid oedd 7.5% yn ateb i unrhyw grefydd nac yn nodi eu bod yn credu.
  • Disgynnodd cyfanswm y bobl yn Abertawe sy'n mynegi hunaniaeth grefyddol Cristnogol yn y deng mlynedd hynny 27,000, neu 17%. Rhwng Cyfrifiad 2001 a 2011, cynyddodd nifer amcangyfrifedig y bobl yn Abertawe â chrefydd ar wahân i Gristnogaeth 3,758 (1.7% o'r boblogaeth) i 8,530; cynnydd cyffredinol o oddeutu 4,800 o bobl (+127%).  
  • Cafwyd y cynnydd amcangyfrifedig mwyaf ym mhoblogaeth grwpiau lleiafrifol crefyddol rhwng 2001 a 2011, er ei bod yn isel weithiau, yn y boblogaeth Foslemaidd (+3,248 o bobl neu 150%); Crefydd arall (+595 neu 133%); Hindŵaeth (+498 neu 177%); Bwdhaeth (+317 neu 59%) a Siciaeth (+125 neu 82%).  Fodd bynnag, unwaith eto gellir gweld y cynnydd mawr hwn yng nghyd-destun tangyfrifon posib Cyfrifiad 2001, gydag effeithiau mwy ar rai grwpiau y mae'n anodd eu cyfrif.

 

Rhan 3

Sut datblygom ein Hamcanion Cydraddoldeb

Roedd y broses ymgysylltu ac ymgynghori'n cynnwys yr holl randdeiliaid ar bob cam o ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Gellir darllen manylion llawn yr adborth a lywiodd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol a'r fethodoleg tri cham a fabwysiadwyd yn ein Hadroddiad Cynnwys.

Cam 1

Y broses a ddefnyddiwyd yn y gwaith ymgysylltu helaeth a wnaed fel rhan o'r Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb a'i argymhellion fel sylfaen ar gyfer y broses gynnwys. Defnyddiwyd tystiolaeth cyn cynnwys i ddrafftio amcanion bras drafft fel man cychwyn ar gyfer trafodaeth.

Cam 2

Rhannwyd yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol drafft â'r cyhoedd fel y gallent ddisodli, dileu, newid ac ychwanegu fel y gallem sicrhau bod yr amcanion cywir ar gyfer Abertawe'n cael eu nodi. Roedd y broses ymgysylltu rhwng 4 Tachwedd a 6 Rhagfyr 2019 hefyd wedi galluogi casglu rhagor o wybodaeth fanwl am gamau gweithredu a oedd yn ymwneud â'r amcanion fel y gellid cynnwys pobl ar y cam cynharaf, a thrwy gydol y broses, yn unol â'r Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r cyhoedd.

Cam 3

Defnyddiwyd yr wybodaeth a gasglwyd drwy ymgynghoriad ffurfiol i ddrafftio'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol a'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol drafft. Agorwyd y ddogfen i'r cyhoedd wedi hynny am gyfnod o bedair wythnos ychwanegol fel y gellid ystyried sylwadau a wnaed a gwneud gwelliannau.

Ein Hamcanion Cydraddoldeb

Llywiwyd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol gan ddogfenA yw Cymru'n decach 2018? a'r sylfaen dystiolaeth ehangach am gydraddoldeb, ymchwil a gwybodaeth leol, ein proses ymgynghori a chanfyddiadau o adolygiad cydraddoldeb gan ein Panel Ymchwiliadau Craffu.

Yn yr adran hon, rydym wedi amlinellu pam y dewiswyd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol, ein cysylltiadau â'r Cynllun Corfforaethol a'r Amcanion Lles a'r camau y byddwn yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd cynllun gweithredu ar wahân yn cael ei lunio i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd er mwyn bodloni ein Hamcanion Cydraddoldeb.

1. Addysg: Sicrhau profiad dysgu cynhwysol a chulhau'r bylchau mewn lefelau cyrhaeddiad a chanlyniadau ôl-addysg eraill

Pam y mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Er bod bylchau mewn cyrhaeddiad ar gyfer bechgyn, mae'r bylchau ar gyfer plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) wedi lleihau. Rydym yn gwybod o ddogfen A yw Cymru'n decach 2018? fod bylchau cyrhaeddiad plant hŷn sy'n derbyn prydau ysgol am ddim a phobl ifanc ag ADY yn parhau. Mae cyrhaeddiad plant sydd â rhai namau megis nam ar y clyw, wedi gwaethygu. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc sy'n derbyn prydau ysgol am ddim a phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd yn fwy tebygol o brofi cyfradd uwch o waharddiadau o'r ysgol. Mae plant sydd â mwy nag un nodwedd warchodedig megis ADY ac sy'n profi agweddau eraill ar anghydraddoldeb megis byw mewn tlodi mewn perygl o wynebu anfanteision lluosog a chanlyniadau gwael.

Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem sicrhau bod digon o arian ar gael i ysgolion a bod lefelau digonol o gefnogaeth ar gael i blant a phobl ifanc ag ADY a phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal (PDG). Awgrymodd ein hymgynghoriad hefyd y dylem weithio i geisio mynd i'r afael ag effeithiau tlodi mewn ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill. Soniwyd yn benodol am leihau costau gwisgoedd ysgol a chefnogi teuluoedd i fwydo'u plant yn ystod gwyliau'r ysgol.

Nododd tystiolaeth o ddogfen A yw Cymru'n decach 2018? hefyd fod plant BME yn fwy tebygol o brofi lefelau cyrhaeddiad addysgiadol is na phlant gwyn Prydeinig yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos nad yw lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn prentisiaethau. Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem gefnogi darparu rhagor o brentisiaethau/cyfleoedd galwedigaethol a dysgu gydol oes.

Roedd A yw Cymru'n decach 2018? hefyd yn dweud wrthym fod rolau rhywiau traddodiadol, normau ac ystrydebau yn parhau i effeithio ar gyrhaeddiad addysgol a dewisiadau pwnc. Dywedodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol wrthym hefyd fod angen i ni fynd i'r afael â stereoteipio rhyw mewn gweithgareddau chwaraeon a darparu rhagor o hyfforddiant a chynyddu ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ar gyfer athrawon a dysgwyr. Awgrymodd ymchwiliad ein Panel Craffu cydraddoldeb ein bod yn cefnogi athrawon a dysgwyr i fynd i'r afael â materion ynghylch stereoteipio rhyw mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau chwaraeon. Dywedodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol wrthym hefyd y dylem gefnogi diwylliant sy'n gwrando, sy'n rhannu ac yn gofalu o fewn amgylcheddau dysgu.

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Addysg a Sgiliau, Economi ac Isadeiledd a mynd i'r afael â thlodi.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn

  • Gweithio gyda'n partneriaid iechyd i sicrhau, drwy ein Strategaeth Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg, fod plant yn eu blynyddoedd cynnar ac yn y Cyfnod Sylfaen yn cyrraedd y lefel ddisgwyliedig o ran datblygiad ieithyddol, emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol a'u bod yn barod i ddysgu ac i fynd i'r ysgol.
  • Parhau i leihau'r bylchau mewn cyrhaeddiad a lles ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, yn enwedig y rheini sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, plant a phobl ifanc ag ADY, PDG plant o rai grwpiau BME a bechgyn.
  • Codi dyheadau galwedigaethol a lefelau sgiliau yn y gweithle, cyfrannu at ddatblygiad plant, pobl ifanc ac oedolion uchelgeisiol a medrus drwy ddarparu prentisiaethau.
  • Nodi'r bobl ifanc hynny sydd yn y perygl mwyaf o fod yn NEET a rhoi'r gefnogaeth bersonol y mae ei hangen arnyn nhw (a'u teuluoedd) i barhau i fod mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
  • Datblygu sgiliau dysgu annibynnol ar gyfer dysgu gydol oes i adlewyrchu natur newidiol y gwaith, cefnogi lles a chreadigrwydd a lleihau unigedd cymdeithasol.
  • Parhau i annog ysgolion i gefnogi menter Ysgolion sy'n Parchu Hawliau CCUHP fel rhan o'n hymrwymiad i CCUHP, datblygu dinasyddion ifanc i barchu hawliau, deall cyfrifoldebau, bod yn ymwybodol ar lefel fyd-eang a bod yn ddinasyddion cyfrifol.
  • Gweithio gydag athrawon a dysgwyr i fynd i'r afael â materion ynghylch stereoteipio rhywiau mewn ysgolion, yn enwedig mewn perthynas â gweithgareddau chwaraeon.
  • Cefnogi ysgolion ac amgylcheddau dysgu eraill i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn ysgolion.
  • Trawsnewid ystad yr ysgol i ateb y galw ac ymateb i'r datblygiadau a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wrth sicrhau buddion cymunedol o gontractau, lleihau carbon a gwelliant cynyddol i gael mynediad i isadeiledd mewn ysgolion.

2. Gwaith: Lleihau bylchau cyflog a chreu gweithlu mwy cynhwysol sy'n adlewyrchu cymunedau amrywiol Abertawe'n well

Pam mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Gwyddom o A yw Cymru'n decach 2018? fod menywod yn parhau i ennill nai na dynion ar gyfartaledd. Mae bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn llai yng Nghymru   nag yn Lloegr, yn bennaf am fod enillion cyfartalog yr awr dynion sydd wedi'u cyflogi'n amser llawer yn is yng Nghymru. Yn ôl yr ymchwil, mae bwlio ac aflonyddu rhywiol yn bodoli o hyd yn y gweithle, er mae diffyg tystiolaeth o arolygon yn golygu nad yw'n hawdd mesur hyn. Awgrymodd ymchwil o A yw Cymru'n decach 2018? hefyd fod o oddeutu 7 o bob 10 o famau wedi cael profiad negyddol neu wahaniaethol, o bosib, yn ystod beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth neu ar ôl dychwelyd o gyfnod mamolaeth.

Fel cyflogwr pwysig yn yr ardal, rydym yn parhau i weithio tuag at leihau ein bylchau cyflog rhwng y rhywiau a chofnodwyd gostyngiad o 2% i 5.7% ym mis Ebrill 2019, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rydym yn parhau i adolygu'n polisïau recriwtio a chyflogaeth, gan gynnwys gwaith ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer rolau uwch-reoli a chydbwysedd rhwng y rhywiau wrth fanteision ar gyfleoedd prentisiaethau. Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem barhau i gefnogi gwaith i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhyw yn y gweithle fel cyflogwr pwysig yn yr ardal ac fel rôl arweinyddiaeth gymunedol drwy weithio mewn partneriaeth.

Er bod cyfraddau diweithdra wedi gostwng yn y DU, yng Nghymru ac yn Abertawe, y grŵp pobl ifanc 16-24 oed sydd â'r cyfraddau uchaf o ddiweithdra o hyd. Yng Nghymru, y gyfradd ddiweithdra ar gyfer pobl ifanc yn 2019 oedd 12.6%. Mae cyflogaeth ansicr oddeutu dwywaith yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y rheini sy'n 16-24 oed ac mae wedi cynyddu ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Mae tystiolaeth o A yw Cymru'n decach 2018 hefyd wedi dangos i ni fod y gyfradd gyflogaeth a'r gyfradd gweithgarwch economaidd yn sylweddol is ar gyfer pobl anabl. Yn Abertawe, y gyfradd gweithgarwch economaidd ar gyfer pobl oedran gweithio sy'n anabl (a ddiffinnir yn Neddf Cydraddoldeb a'r Cyfrifiad) oedd 54.0% ym Mawrth 2019, o'i chymharu â'r 79.8% nad oeddent yn anabl. 48.7% oedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer pobl anabl o'i chymharu â 74.9% o bobl nad oeddent yn anabl a 9.8% a 6.1% oedd y gyfradd gyflogaeth, yn ôl eu trefn. Awgrymodd yr ymchwil hefyd fod pobl anabl yn llai tebygol o fod mewn swyddi rheoli a phroffesiynol na phobl eraill ac roeddent yn fwy tebygol o fod yn derbyn incymau is. Roedd pobl anabl hefyd yn llai tebygol o fod yn derbyn prentisiaethau nag eraill.

Awgrymodd ein hymgynghoriad ar yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem barhau i adolygu'n polisïau recriwtio a cheisio cynyddu amrywiaeth yn y gweithlu. Dywedodd ein hymgynghoriad wrthym hefyd y dylem adolygu tâl, hyfforddiant a phrofiad gwaith ac ystyried cydbwysedd bywyd a gwaith a darparu gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a chefnogi staff. Nododd ymchwiliad ein Panel Craffu i gydraddoldeb nifer o argymhellion y dylem eu hystyried fel cyflogwr, megis;adolygiad o'n polisi recriwtio a dethol, adolygiad o gyfleoedd hyfforddi, gwella'r ffordd rydym yn casglu data personol am staff (gan gynnwys nodweddion gwarchodedig) a darparu rhagor o hyfforddiant a ffyrdd eraill o herio barn ac agweddau negyddol a hyrwyddo negeseuon cadarnhaol i staff.

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Economi ac Isadeiledd, Trechu Tlodi a Thrawsnewid a Chyngor y Dyfodol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn

  • Fel rhan o'n rôl fel cyflogwr, cwblhau adolygiad o'r Polisi Recriwtio a Dethol fel mater brys. Dylai hyn gynnwys hyrwyddo swyddi gwag staff a phrentisiaethau yn well i grwpiau gwahanol, ystyried hysbysebu'r rhain yn fwy gofalus i hybu cynrychiolaeth BME, pobl anabl, y gymuned LGBT, cyn-filwyr a menywod mewn rolau a ddominyddir gan ddynion (ac i'r gwrthwyneb).
  • Adolygu cyfleoedd hyfforddiant i sicrhau eu bod yn addas at y diben. Mae'r argymhellion yn cynnwys:

a)  Sicrhau bod rhagor o staff yn ymgymryd â hyfforddiant ar gydraddoldeb, yn enwedig staff rheng flaen.
b)  Sicrhau bod rheolwyr canol wedi cwblhau hyfforddiant ac yn annog staff i wneud hynny.
c)  Datblygu hyfforddiant gyda grwpiau cydraddoldeb lle y bo'n bosib.
ch)  Sicrhau bod y cyfleoedd i wneud yr hyfforddiant yn cael eu hailadrodd yn rheolaidd, yn enwedig o ran rhagfarn ddiarwybod, gan ddefnyddio fformatau amgen a gwneud addasiadau rhesymol.
d)  Gweithio'n gallach gydag eraill i gyflawni'n dyletswydd yn dda drwy ymchwilio i rannu rhywfaint o'r gweithgareddau hyfforddi ac ymgynghori â sefydliadau mawr eraill a/neu gaffael ar y cyd i wella darbodion maint.

  • Casglu gwell data ar ein gweithlu a datblygu gwell adnoddau i annog staff i roi eu data personol, er enghraifft, yn seiliedig ar becyn cymorth gan Stonewall 'what it has got to do with you.' Adrodd am 'fylchau tâl megis anabledd a BAME', yn ogystal â rhywedd, yn y dyfodol.
  • Datblygu rhaglen dreigl o gyfathrebiadau mewnol, dan arweiniad y Pwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol/Grŵp Cydraddoldeb Strategol, i hyrwyddo hyfforddiant, herio barn neu agweddau negyddol a rhoi negeseuon cadarnhaol i staff ac aelodau.
  • Gwreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth ym maes cyflwyno gwasanaethau drwy rwydwaith Cynrychiolwyr Cydraddoldeb a benodir ym mhob gwasanaeth.
  • Parhau i gryfhau'r gwasanaeth Cymraeg a'r gwasanaethau iaith a gynigir yn gyffredinol gan y cyngor drwy ddarparu hyfforddiant iaith sylfaenol ar gyfer staff rheng flaen.

3. Safonau byw: Trechu tlodi a helpu i gefnogi byw'n annibynnol

Pam mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Gwyddom o A yw Cymru'n decach 2018? fod tlodi yng Nghymru wedi cynyddu; mae chwarter o oedolion a thraean o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd. Mae tlodi ac amddifadedd yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw un o genhedloedd eraill y DU. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod diwygiadau lles hefyd wedi rhoi rhagor o bobl mewn perygl tlodi, yn enwedig menywod, rhai lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl. Mae pobl anabl, rhieni sengl a rhai lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi a phrofi amddifadedd gwirioneddol difrifol na phobl nad ydynt yn anabl. Mae diwygio lles, cosbau budd-dal a'r oedi wrth dalu credyd cynhwysol hefyd wedi cynyddu nifer y bobl sy'n wynebu tlodi difrifol, digartrefedd a dibyniaeth ar fanciau bwyd.

Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem adolygu'r gefnogaeth a roddir i bobl anabl (gan gynnwys pobl ag anableddau cudd) a sicrhau bod ganddynt gyfleoedd cyfartal. Awgrymodd ymchwiliad ein Panel Craffu i gydraddoldeb ein bod yn archwilio cefnogi rhagor o gyfleoedd ar gyfer oedolion anabl gynnwys ystyried ehangu ein sylfaen menter gymdeithasol.

Cyhoeddwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC 2019) gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2019. Yn Abertawe, o ran MALlC 2019, mae cyfran uwch na'r cyfartaledd o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) Abertawe ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gydag 17 (11.5%) o'i 148 ACEHI yn y 191 (10%) mwyaf difreintiedig. Er bod nifer yr ACEHI yn Abertawe â'r 10% o ACEHI mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi gostwng ychydig o 18 yn 2014 i 17 yn 2019, mae cyfran ACEHI Abertawe sydd yn 30% mwyaf difreintiedig wedi cynyddu yng Nghymru i dros 30% (46 o'i 148 ACEHI).

Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem barhau i fynd i'r afael â thlodi a lliniaru effeithiau tlodi drwy gefnogi rhagor o gyfranogiad cymunedol ac adeiladu gallu.

Mae tystiolaeth o A yw Cymru'n decach 2018? hefyd yn dweud wrthym fod problemau o ran mynd i'r afael â chysgu ar y stryd a'r 'bobl ddigartref gudd' h.y. pobl sy'n cysgu ar soffas cyfeillion hefyd yn cynyddu. Rydym hefyd yn gwybod o'r dystiolaeth fod diffyg tai hygyrch ac addasadwy ar gyfer pobl anabl ac oedi wrth addasu tai presennol. Mae'r ymchwil hefyd yn dweud wrthym fod data oddi wrth awdurdodau lleol am dai hygyrch ac addasadwy yn wael ar y cyfan. Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem archwilio sut rydym yn gwneud lleoedd eraill yn y gymuned yn fwy hygyrch a'i gwneud yn haws i bobl ag anableddau a phobl hŷn fynd o le i le. Awgrymodd ein hymgynghoriad hefyd y dylem adolygu'n cefnogaeth ar gyfer pobl ddigartref ac archwilio ffyrdd o gynyddu niferoedd y tai fforddiadwy.

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Economi ac Isadeiledd, Trechu Tlodi a Thrawsnewid a Chyngor y Dyfodol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn

  • Parhau i roi'r Strategaeth Tlodi ddiwygiedig ar waith a sicrhau bod mynd i'r afael â thlodi'n fusnes i bawb. Canolbwyntio ar ddefnyddio data i dargedu cefnogaeth, cyflogadwyedd a chynhwysiad ariannol.
  • Cefnogi sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi i ddod â phenderfynwyr allweddol at ei gilydd â phobl sydd wedi profi tlodi'n uniongyrchol er mwyn ceisio newid pethau.
  • Creu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ar gyfer y di-waith tymor hir a'r rheini sy'n anweithgar yn economaidd drwy gymalau budd cymdeithasol mewn contractau.
  • Cefnogi unigolion i oresgyn eu rhwystrau i gyflogaeth drwy gefnogaeth cyflogadwyedd sy'n canolbwyntio ar y person.
  • Cefnogi ein hoedolion mwyaf diamddiffyn i barhau i fod yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi drwy roi'r model Gwasanaeth i Oedolion ar waith ac ail-gydbwyso'n cynnig gwasanaeth i ganolbwyntio ar ataliaeth, ailalluogi a gwellhad.
  • Drwy raglen Cael Pethau'n Iawn i Bob Plentyn, roi system newydd ar waith, gydag ymagwedd gyfannol at ffocysu gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal i wella lles i blant a phobl ifanc a chefnogi teuluoedd.
  • Buddsoddi i wella tai ac adeiladu tai cyngor mwy ynni-effeithlon a chefnogi adeiladu tai fforddiadwy i helpu i ddiwallu'r angen am dai, lleihau biliau tanwydd, adfywio stadau a dod â buddion lles, economaidd a chyflogaeth ehangach.
  • Atal digartrefedd a chefnogi pobl i gynnal eu tenantiaethau i helpu i sicrhau sefydlogrwydd a diogelwch i deuluoedd a chymunedau drwy roi Strategaeth Digartrefedd 2018-2022 y cyngor ar waith.
  • Archwilio'r syniad o greu ein menter ynni ein hunain i ddarparu ynni rhad i gartrefi, gan helpu i fynd i'r afael â biliau tanwydd domestig uchel a thlodi tanwydd.
  • Cefnogi mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, helpu i ddileu tlodi tanwydd a rhoi hwb i ddatblygiad economaidd drwy fesurau effeithlonrwydd ynni mewn tai cymdeithasol.
  • Gweithio gydag eraill i ddarparu trafnidiaeth gynaliadwy, hygyrch a charbon isel a'r isadeiledd cysylltiedig i ddarparu cysylltedd a symudedd gwell a rhatach.
  • Gweithredu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) sy'n cefnogi adfywio Abertawe ac sy'n hybu cymunedau cynaliadwy.
  • Hybu cynhwysiad digidol a galluogi pobl i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein drwy ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes i ddinasyddion fel y gallant ymgymryd â chyrsiau a hyfforddiant cyfrifiadurol am ddim.
  • Helpu i fynd i'r afael ag effeithiau diwygio lles, megis cefnogi pobl i hawlio'r budd-daliadau llawn y mae ganddynt hawl iddynt fel y gallant fwyafu eu hincwm a hybu mynediad at gredyd fforddiadwy.
  • Adolygu ymagwedd y cyngor at gaffael i sicrhau buddion economaidd a chymunedol lleol, yn unol â'r egwyddorion datblygu cynaliadwy.
  • Darparu amrywiaeth o wasanaethau cymorth i deuluoedd megis y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o argaeledd Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc anabl.
  • Cwblhau'r Strategaeth Gofalwyr fel mater brys.
  • Datblygu mwy o gyfleoedd i oedolion ag anableddau, gan gynnwys ystyried ehangu ein sylfaen menter gymdeithasol.

4. Iechyd: Ceisio hyrwyddo iechyd corfforol a meddwl da a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy ddarparu cyfleoedd chwaraeon, diwylliant a hamdden ac amgylchedd adeiledig a naturiol iach

Pam mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Gwyddom o A yw Cymru'n decach 2018? fod disgwyliad oes cyfartalog is ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, yn enwedig ar gyfer dynion. Yn Abertawe, mae'r disgwyliad oes ar gyfer dynion sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig 12 o flynyddoedd yn is na disgwyliad oes dynion sy'n byw yn ardaloedd mwyaf cefnog Abertawe. Mae'r bwlch hyd yn oed yn fwy mewn perthynas ag iechyd da, heb fod ag anabledd neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos i ni fod anghydraddoldebau mewn perthynas ag iechyd meddwl am fod dynion yng Nghymru dros bedair gwaith yn fwy tebygol na menywod o farw oherwydd hunanladdiad.

Mae'r dystiolaeth o A yw Cymru'n decach 2018? yn dweud wrthym fod pobl anabl yn profi mwy o anawsterau wrth gael mynediad at y gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl nag eraill. Mae'r ymchwil hefyd yn nodi rhwystrau pobl o leiafrifoedd ethnig neu'r rheini mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd. Mae teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i brofi anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd o safon.

Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem gefnogi gwella gwasanaethau iechyd meddwl, cynhwysiad o fewn cyfleoedd hamdden (gan gynnwys cyfleoedd hamdden fforddiadwy) a chwalu rhwystrau i gyfranogiad. Awgrymodd ein hymgynghoriad hefyd y dylem archwilio ffyrdd o hyrwyddo lles cymunedol, cadw'n ffit ac yn iach a defnyddio'r amgylchedd naturiol i hyrwyddo iechyd a lles.

Mae cyfranogiad mewn bywyd teuluol a chymunedol yn benderfynydd iechyd a lles allweddol. Rydym yn gwybod o A yw Cymru'n decach 2018?mai unigrwydd, arwahanrwydd a llai o ymdeimlad o berthyn yw rhai o'r problemau mwyaf arwyddocaol y mae grwpiau, megis pobl hŷn, pobl anabl, gofalwyr, rhieni newydd, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol a phobl o leiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu (nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr).

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Diogelu, Trechu Tlodi, Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth, Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn

  • Mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd pobl hŷn o fewn cymunedau cefnogol drwy ehangu cydlynu ardaloedd lleol a'r amrywiaeth o gyfleoedd cefnogi ac atal sydd ar gael.
  • Gwella, ehangu ac amrywio cyfleusterau hamdden, diwylliannol a threftadaeth ynghyd ag isadeiledd i helpu i roi hwb i'r economi, hybu twristiaeth i wella iechyd a lles, hyrwyddo cydlyniant cymunedol a darparu buddion economaidd.
  • Rheoli a gwarchod mannau gwyrdd, morlin, traethau a pharciau Abertawe ar gyfer hamdden a chwarae ac annog twristiaeth, gwarchod yr amgylchedd a chefnogi iechyd a lles.
  • Adeiladu ar etifeddiaeth cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU drwy fynd ati i gymryd rhan yn rhaglen beilot Culture 21. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio diwylliant i hyrwyddo deialog ryngddiwylliannol a dangos parch at amrywiaeth ddiwylliannol a helpu i fynd i'r afael â'r prif heriau.
  • Darparu cyfleoedd celf, diwylliant a threftadaeth er mwyn hybu sgiliau, hyder, hunanbarch, dyhead ac iechyd a lles.
  • Cefnogi mentrau a fydd yn cynyddu nifer y coed sydd yn ardaloedd trefol Abertawe, gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'n hamgylchedd naturiol (gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer plant ysgol) i wella mynediad at yr amgylchedd naturiol, a chyfleoedd i ddysgu amdano, er mwyn hybu iechyd a lles.
  • Gwella mynediad i'n parciau a'n mannau gwyrdd a chynnal eu hansawdd. Parhau i blannu blodau gwyllt a'u rheoli ac ymgysylltu â chymunedau lleol i annog gwirfoddoli a'u cefnogi i wella a chynnal eu mannau gwyrdd a'u safleoedd bywyd gwyllt lleol i wella iechyd a lles.
  • Datblygu polisïau a chynlluniau i wella isadeiledd gwyrdd mewn ardaloedd difreintiedig fel cam cydraddoldeb iechyd.
  • Parhau ag Ymyriadau Pobl Ifanc Actif ar draws yr holl ysgolion/gymunedau er mwyn cynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, gan gynnwys ymyriadau a dargedwyd i'r rheini mewn ardaloedd difreintiedig.
  • Cynnal amrywiaeth o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar gydraddoldeb yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas a llyfrgelloedd Abertawe a gweithio gyda grwpiau megis plant a phobl ifanc, pobl ag anableddau, cymunedau BME ac LGBT.
  • Parhau â'r cynllun Pasbort i Hamdden sy'n caniatáu mynediad/tocynnau gostyngol yn ein lleoliadau (gan gynnwys safleoedd Freedom Leisure a Plantasia) a rhai allanol hefyd.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o'r Gwasanaethau Diwylliannol a nodi unrhyw rwystrau i gyfranogiad drwy ymgysylltu â grwpiau cydraddoldeb allweddol, megis Fforwm Chwaraeon BME.
  • Cefnogi gwelliannau mynediad i fysus cyhoeddus ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn, yn ogystal â theuluoedd â phlant ifanc.
  • Gwella mynediad i'r isadeiledd sy'n ymwneud â phalmentydd, ffyrdd a darpariaeth barcio ar gyfer pobl anabl a hŷn, yn ogystal â theuluoedd â phlant ifanc. Adolygu'r ymgynghoriad cyfredol â grwpiau mynediad lleol i wella mynediad ffisegol i adeiladau a gwasanaethau.

5. Tegwch, urddas a pharch: Sicrhau y perchir hawliau pobl a chymunedau a'u bod yn teimlo'n ddiogel o drais a chamdriniaeth

Pam mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Gwyddom oA yw Cymru'n decach 2018? fod menywod a merched yn parhau i brofi lefelau uchel o drais a gwahaniaethu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol yn y gweithle a bwlio rhywiol mewn ysgolion. Mae'r ymchwil hefyd yn dweud wrthym fod pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a phlant lleiafrifoedd ethnig hefyd mewn perygl o gael eu bwlio. Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol y dylem barhau i gefnogi atal trais, gwahaniaethu a bwlio. Awgrymodd adborth o'r ymgynghoriad hefyd ein bod yn archwilio ffyrdd o gynyddu cydlyniant cymunedol a'r defnydd o fesurau diogelu cymunedol i fynd i'r afael â'r broblem. Soniwyd hefyd am gynyddu ymwybyddiaeth o hyrwyddo Hawliau Dynol ac ymrwymiadau sefydliadol i ddileu gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio yn y gweithle ac mewn cymunedau ehangach. Argymhellodd ymchwiliad ein Panel Craffu i gydraddoldeb ein bod yn archwilio arwain ymgyrchoedd cadarnhaol i ddathlu amrywiaeth Abertawe a dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu.

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Diogelu, Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan lles hwn

  • Parhau i sicrhau bod diogelu yn 'fusnes i bawb' ar draws y cyngor, mewn ysgolion, gyda phartneriaid ac ar draws Bwrdd Diogelu Gorllewin Morgannwg. Ymgymryd ag amrywiaeth o waith sy'n canolbwyntio ar droseddau casineb, caethwasiaeth fodern, diogelu pobl ddiamddiffyn, radicaleiddio ac eithafiaeth a materion eraill sy'n dod i'r amlwg, megis Llinellau Sirol, caethwasiaeth fodern, bwlio mewn ysgolion, troseddau casineb a'r strategaeth Prevent.
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynyddu ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a rhoi ymyriadau a chefnogaeth effeithiol ac amserol ar waith.
  • Parhau i roi'r Cynllun Cyflwyno Cydlyniant Cymunedol ar waith i hyrwyddo cymunedau cydlynol a chynhwysol yn Abertawe.
  • Parhau i roi'r Strategaeth Troseddau Casineb ar waith a gwella dealltwriaeth o droseddau casineb ac ymwybyddiaeth staff a phartneriaid allweddol o sut i adrodd amdanynt.
  • Arwain ymgyrchoedd cadarnhaol i ddathlu amrywiaeth Abertawe a gweithredu'r polisi dim goddefgarwch ar gyfer gwahaniaethu.

6. Cyfranogiad: Gwella sut rydym yn ymgysylltu â phobl a chymunedau a'u cynnwys mewn materion sy'n bwysig iddynt hwy a'r penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud

Pam mae hwn yn Amcan Cydraddoldeb Strategol?

Mae A yw Cymru'n decach 2018? yn dweud wrthym fod angen i rhagor o bobl â nodweddion gwarchodedig fod yn rhan o faterion sy'n bwysig iddynt a'r penderfyniadau a wnaed gan y cyngor. Mae'r ymchwil yn awgrymu bod bylchau amlwg yn y data sy'n ei gwneud hi'n anodd i ddeall profiadau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae angen i gynghorau hefyd wella'r data maent yn ei gasglu am bobl â nodweddion gwarchodedig sy'n cymryd rhan yn y broses gwneud penderfyniadau leol. Awgrymodd ein hymgynghoriad ar ein hamcanion Cydraddoldeb Strategol fod angen i ni wella'n cyrhaeddiad a'r broses o gynnwys pobl wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys pobl ifanc a'r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig. Awgrymodd yr ymgynghoriad hefyd y dylem archwilio amrywiaeth o ymagweddau cynnwys y gymuned ac ymgynghori â hi, gan gynnwys cydgynhyrchu.

Nododd ymchwiliad ein Panel Craffu i gydraddoldeb nifer o argymhellion ynghylch sut gallem wella'r ffordd rydym yn ymgysylltu â phobl a'u cynnwys wrth wneud penderfyniadau. Roedd yr argymhellion yn cynnwys sefydlu Grŵp Cydraddoldeb Strategol lefel uchel ar draws y cyngor, gwella'n fforymau cydraddoldeb, datblygu rôl Cynghorwyr Hyrwyddo cydraddoldeb a datblygu rôl ein cynrychiolwyr Cydraddoldeb Staff. Roedd yr argymhellion hefyd yn cynnwys cefnogi datblygu canolfannau cymunedol ar draws y cyngor, adolygu a datblygu gwefan y cyngor i'w gwneud yn fwy hygyrch, datblygu adnoddau sy'n haws eu darllen mewn Saesneg clir ac adeiladu ar ein Fframwaith Strategol Cydgynhyrchu a threialu ymagwedd gorfforaethol at gydgynhyrchu. Argymhellodd y Panel Craffu hefyd ein bod yn archwilio dod yn Ddinas Hawliau Dynol a sut gallem wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod yn yr un ffordd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Sicrhau bod y confensiynau hyn yn cael eu hadlewyrchu yng Nghynllun Cydraddoldeb newydd y cyngor yn 2020.

Cysylltiadau â'n Cynllun Corfforaethol

Trawsnewid a Chyngor y Dyfodol.

Y camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r amcan hwn

  • Parhau i weithredu ymagwedd cyngor cyfan at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) i fodloni ein hymrwymiadau a nodwyd yn y Cynllun Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
  • Parhau i gynnwys plant a phobl ifanc yn eu haddysg a'u cymuned drwy Lais y Disgybl a Chynghorau Ysgol a Digwyddiadau Cynnwys ySgwrs Fawr.  Drwy barhau i annog ysgolion i fod yn Ysgolion sy'n Parchu Hawliau CCUHP fel rhan o'n hymrwymiad i CCUHP, datblygu dinasyddion ifanc i barchu hawliau, deall cyfrifoldebau, bod yn ymwybodol ar lefel fyd-eang a bod yn ddinasyddion cyfrifol.
  • Adolygu gwaith gyda chymunedau, sefydliadau a grwpiau 'ffrindiau' i annog a galluogi mwy o berchnogaeth gymunedol o ran asedau a gwasanaethau a sicrhau eu cynaladwyedd tymor hir.
  • Cefnogi sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi  i ddod â phenderfynwyr allweddol at ei gilydd â phobl sydd wedi profi tlodi'n uniongyrchol er mwyn ceisio newid pethau.
  • Parhau i foderneiddio cynnwys y cyhoedd mewn democratiaeth leol a phrosesau gwneud penderfyniadau'r cyngor drwy sicrhau bod amserau cyfarfodydd yn fwy hygyrch, trwy ddarlledu dros y we, pleidleisio electronig ac e-ddeisebau.
  • Parhau i gryfhau'r gwasanaeth Cymraeg a'r gwasanaethau iaith a gynigir yn gyffredinol gan y cyngor drwy ddarparu hyfforddiant iaith sylfaenol ar gyfer staff rheng flaen.
  • Sicrhau bod cyllidebau cymunedol ar gael fel y gall pobl leol benderfynu, gyda'u cynrychiolwyr, beth yw eu blaenoriaethau lleol.
  • Darparu'r cyfle i ddinasyddion lleol ddylanwadu ar sut y llunnir polisïau a sut y cyflwynir gwasanaethau drwy Strategaeth Ymgynghori a Chynnwys ddiwygiedig a sicrhau bod ymgynghoriad a chynnwys yn gynhwysol a chynnal gweithgareddau cynyddu ymwybyddiaeth.
  • Adeiladu ar ddatblygu Strategaeth Cydgynhyrchu Gorfforaethol sy'n cynnwys pecyn cymorth i'w ddefnyddio gan staff ledled yr awdurdod.
  • Datblygu'r Fforwm Byw'n Dda Heneiddio'n Dda a chanolbwyntio ar y blaenoriaethau y nodwyd bod angen eu harchwilio a'u trafod fel materion sy'n bwysig i'r rheini sy'n heneiddio'n dda yn Abertawe.
  • Hyrwyddo gweithio CAMPUS gyda'n fforymau cydraddoldeb, sicrhau bod ganddynt oll gylchoedd gorchwyl, cynlluniau gwaith ac amserlenni clir. Sicrhau cysylltiad gwell ag adrannau'r cyngor a Chynghorwyr Hyrwyddo. Hwyluso sefydlu Fforymau Ymgynghorol Merched a Rhyng-grefyddol.
  • Egluro rôl Cynghorwyr Hyrwyddo a'u hyrwyddo ymhellach, sicrhau ymgysylltu gwell â fforymau ymgynghorol a sefydlu cysylltiadau â'r Grŵp Cydraddoldeb Strategol.
  • Egluro'r rôl Cynrychiolydd Staff Cydraddoldeb, gan gynnwys yr hyn a ddisgwylir ohonynt yn eu rôl, sicrhau bod y rheini a benodwyd yn gallu cymryd rhan yn rheolaidd wrth gydlynu cyfarfodydd a chyfleoedd hyfforddiant a'u bod yn gysylltiedig â sylfaen wybodaeth/rhwydwaith cefnogi ehangach i gael mynediad at gyngor, arweiniad a chefnogaeth.
  • Cefnogi datblygiad parhaus y canolfannau cymunedol yn ardal y cyngor a sicrhau bod y staff yno'n derbyn hyfforddiant ar gydraddoldeb.
  • Mynd i'r afael â'r problemau sylweddol â gwefan y cyngor- dylid datblygu agweddau allweddol yn gydgynhyrchol. Ystyried defnyddio cyfleusterau 'hofran uwchben' ar gyfer geiriau allweddol lle y dangosir lluniau. Bod yn ystyriol o broblemau gyda dogfennau PDF/thablau i'r sawl sy'n darllen sgrîn.
  • Datblygu mwy o adnoddau hawdd eu darllen a Saesneg clir.
  • Parhau â chamau tuag at Abertawe'n dod yn Ddinas Hawliau Dynol; archwilio sut gallem ymgorffori Confensiwn y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau a Chonfensiwn y CU ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod yn yr un ffordd ag a wnaed gyda Chonfensiwn y CU ar Hawliau'r Plentyn.

 

Rhan 4

Ffynonellau sy'n llywio'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Dechreuom drwy ddod â thystiolaeth bresennol at ei gilydd, adolygu'r arfer gorau o ar draws Cymru a chymhwyso dysgu diweddar o Abertawe i ddrafftio Amcanion Cydraddoldeb Strategol. Er mwyn paratoi amcanion cydraddoldeb drafft cychwynnol, ystyriwyd llawer o ffynonellau. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol - Adroddiad A yw Cymru'n Decach . Roedd yr adroddiad hwn a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2018 wedi'i anelu at asesu sut roedd Cymru'n perfformio o ran cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adroddiad yn cynnig data a thystiolaeth werthfawr ar draws chwe maes, gan gynnwys; addysg, iechyd, safonau byw; cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chyfranogiad a chymharodd ganlyniadau ar gyfer grwpiau mewn meysydd megis bylchau tâl, cyrhaeddiad addysgol, a phrofiad o droseddau casineb. Roedd yn cynnig fframwaith ar gyfer dadansoddi a oedd wedi ein helpu i nodi Amcanion Cydraddoldeb Strategol drafft cychwynnol.
     
  • Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb Cyngor Abertawe. Roedd yr adolygiad nodedig hwn wedi'i anelu at ddeall yn well sut gallai'r cyngor weithredu ei ddyletswyddau cydraddoldeb yn Abertawe. Rhaglen gynnwys gynhwysfawr a oedd yn casglu tystiolaeth rhwng Hydref 2018 a Mawrth 2019. Roedd y gweithgareddau casglu tystiolaeth a gynhaliwyd yn cynnwys:

a)  Trosolwg o'r pwnc a chynnal sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet Dros Gymunedau Gwell (Pobl) a'r Prif Swyddog Cyfreithiol.
b)  Ystyried polisïau, strategaethau a dogfennaeth allweddol perthnasol gan gynnwys Cynllun Cydraddoldeb Abertawe a phroses sgrinio'r Asesiad Effaith Cydraddoldeb.
c)  Sesiwn Holi ac Ateb gyda'r Cyfarwyddwyr unigol a'r Rheolwr Datblygu Sefydliadol ac Adnoddau Dynol.
ch)  Cynrychiolwyr staff adrannol.
d)  Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
dd)  Grwpiau Cydraddoldeb Cymunedol/Grwpiau Partner gan gynnwys gofalwyr, Fforwm BME, pobl ifanc drwy'r Sgwrs Fawr, Fforwm LGBT, Grŵp Cydgysylltu Anableddau, Tîm Joining the Dots, cyn-filwyr a Fforwm 50+.
e)  Arolwg staff y cyngor.

Derbyniwyd argymhellion yr adroddiad yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Hydref 2019 ac, o ganlyniad, byddai'n gwneud synnwyr i gadarnhau'r argymhellion hyn o fewn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amodol ar ymgysylltu pellach. Awgrymwyd gan gyfranogwyr fod yr ymarfer cynnwys helaeth hwn yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer cynnwys mewn perthynas â Chydraddoldeb Strategol i osgoi dyblygu gwybodaeth ac i barchu barn a fynegwyd gan randdeiliaid allweddol yn ddiweddar.

  • Cynllun Corfforaethol (Lles) Cyngor Abertawe. Mae'r ddogfen hon yn nodi Amcanion Lles Cyngor Abertawe a'r camau y byddwn yn eu cymryd i'w cyflawni. Mae llawer o'r camau hyn eisoes yn mynd i'r afael â materion cydraddoldeb ac amrywiaeth.
     
  • Cynllun Lles Lleol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe. Mae'r ddogfen hon yn nodi'r amcanion lles lleol megis Cymunedau Cryfach a chanddynt ymdeimlad o falchder a pherthyn gyda chamau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth Abertawe.
     
  • Cynlluniau ac Adolygiadau Cydraddoldeb Strategol blaenorol. Edrychom ar yr hyn sy'n gweithio a'r hyn y gellid ei wella mewn Cynlluniau ac Adolygiadau Cydraddoldeb Strategol blaenorol.
     
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Gweithredodd Cyngor Abertawe bum ffordd o weithio'r egwyddorion datblygu cynaliadwy i ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol sy'n helpu i greu Abertawe fwy cyfartal, llewyrchus, iachach o gymunedau cydlynol â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.
     
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn ceisio gwella lles pobl y mae angen gofal a chefnogaeth arnynt ynghyd â gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt.  Mae Cynllun Ardal Partneriaeth Ranbarthol ac Asesiad Poblogaeth Gorllewin Morgannwg wedi dylanwadu ar ddatblygiad yr Amcanion Cydraddoldeb Strategol.
     
  • Ymagwedd yr Economi Sylfaenol. Mae Cyngor Abertawe'n ymrwymedig i archwilio cyfleoedd i ffyniant a gynigir gan yr Economi Sylfaenol a sicrhau bod yr holl grwpiau mewn cymdeithas yn elwa o Gymru'n ennill statws fel y ddinas gyntaf yn y byd i feddu ar ymagwedd yr economi sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r ddarpariaeth leol a chaffael yn y nwyddau a'r gwasanaethau y mae eu hangen arnom. Abertawe yw'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wneud cais llwyddiannus am 'Gronfa Her yr Economi Sylfaenol' Llywodraeth Cymru i wella datblygiad cyflenwyr lleol.
     
  • Adolygiad Ystadegau Cydraddoldeb Abertawe 2020. Uned Cyflwyno Strategol Cyngor Abertawe wedi cyfuno sylfaen dystiolaeth o wybodaeth ystadegol mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig yng nghyd-destun Abertawe. Mae'r esboniad a'r dadansoddiad yn ein helpu i ddeall amrywiaeth poblogaeth Abertawe, sut mae wedi newid a (cyn belled ag y bo modd) sut y gall y boblogaeth ddatblygu yn y dyfodol.
     
  • Comisiynydd Plant. Rydym yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd Plant i hyrwyddo Hawliau Plant a darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan wrth wneud penderfyniadau a sicrhau eu bod yn gallu mynegi eu barn.
     
  • Comisiynydd Pobl Hŷn. Rydym hefyd yn parhau i weithio'n agos gyda swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn a Phrifysgol Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyfranogiad ac ymgysylltu ar gyfer pobl dros 50 oed a chefnogi gwaith ac ymgyrchoedd parhaus megis #EverydayAgeism etc.

 

Rhan 5

Monitro a Gwerthuso

Wedi i'r cyngor fabwysiadu a chyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020, bydd y camau nesaf yn cynnwys gweithio gyda gwasanaethau ar draws y cyngor i nodi'r camau gweithredu i'w cymryd er mwyn rhoi'r camau a nodir yn y cynllun ar waith. Asesir cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 yn flynyddol drwy Adolygiad Blynyddol o Gydraddoldeb ac Amrywiaeth. Asesir cyflwyno Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 hefyd drwy'r Broses Graffu a Phwyllgor Datblygu Polisi Cydraddoldeb a Chenedlaethau'r Dyfodol a fydd yn nodi meysydd yn y polisi i'w hadolygu a'u datblygu.

Adroddiadau blaenorol

Fel rhan o ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi adroddiadau adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth, Mae'r adroddiadau hyn yn dangos ein cynnydd yn erbyn yr amcanion cydraddoldeb ac yn cynnwys manylion y gwaith ychwanegol rydym wedi'i gyflawni drwy gydol y flwyddyn.

2022/23

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2022-23 (Word doc) [255KB]

2021/22

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2021-22 (Word doc) [232KB]

Diweddariadau Adolygiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2021-22 (Word doc) [101KB]

Adroddiad data cydraddoldeb 2021-22 (Word doc) [53KB]

2020/21

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2020-21 (PDF) [443KB]

2019/20

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2019-20 (PDF) [717KB]

B - Cynllun Gweithredu Y cynnydd a wnaed rhwng Ebrill 2019 ac Ebrill 2020 (PDF) [875KB]

C - Adroddiad Data Cydraddoldeb (PDF) [578KB]

2018/19

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2018-19 (PDF) [1MB]

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2018-19 (fersiwn hawdd ei darllen) (PDF) [2MB]

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2018-19 (fersiwn gryno) (PDF) [351KB]

2017/18

Adroddiad Adolygu Cydraddoldeb 2017-2018 (PDF) [1MB]

Adroddiad Adolygu 2017-18 (Fersiwn hawdd ei darllen) (PDF) [2MB]

Adolygiad Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2017-18 (fersiwn gryno) (PDF) [343KB]

2016/17

Adroddiad adolygu cydraddoldeb 2016-17 (PDF) [684KB]

Adroddiad adolygu 2016-17 (fersiwn hawdd ei darllen) (PDF) [1MB]

Adolygiad cydraddoldeb ac amrywiaeth 2016-17 (fersiwn gryno) (PDF) [60KB]

2015/16

Adroddiad adolygu cydraddoldeb 2015-16 (PDF) [374KB]

Adroddiad adolygu 2015-16 (fersiwn hawdd ei darllen) (PDF) [1MB]

Adroddiad adolygu 2015-16 (crynodeb) (PDF) [58KB]

2014/15

Adroddiad adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth 2014-2015 (PDF) [272KB]

Adroddiad Adolygu 2014-2015 - Fersiwn hawdd ei darllen (PDF) [1MB]

Adroddiad Adolygu 2014-2015 - Crynodeb (PDF) [75KB]

2013/14

Adroddiad adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth 2013-2014 (PDF) [759KB]

Adroddiad Adolygu 2013-2014 - Fersiwn hawdd ei darllen (PDF) [1MB]

2012/13

Adolygiad cydraddoldeb ac amrywiaeth 2012-2013 (PDF) [335KB]

Adolygiad cydraddoldeb ac amrywiaeth 2012-2013 (cryno) (PDF) [39KB]

Adroddiad adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth 2012-2013 (fersiwn hawdd ei ddarllen) (PDF) [592KB]

2011/12

Adolygiad cydraddoldeb ac amrywiaeth 2011-2012 (PDF) [276KB]

Adolygiad cydraddoldeb ac amrywiaeth 2011-2012 (cryno) (PDF) [172KB]

Adroddiad adolygu cydraddoldeb ac amrywiaeth 2011-2012 (fersiwn hawdd ei ddarllen) (PDF) [1MB]

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2024