Cwestiynau cyffredin am barcio
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am barcio.
2020/2021* | 2019/2020* | 2018/19 | 2017/18 | 2016/17 | 2015/16 | 2014/15 | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer y tocynnau parcio a dderbyniwyd | 25,908 | 55,360 | 57,286 | 42,348 | 43,712 | 42,342 | 36,311 |
Nifer y tocynnau yr apeliwyd yn eu herbyn | 7,349 | 17,425 | 15,497 | 15,299 | 13,835 | 11,607 | 9,539 |
Nifer yr apeliadau a dderbyniwyd | 2,681 | 3,888 | 6,706 | 4,747 | 5,247 | 5,234 | 4,390 |
* Nodyn ychwanegol parthed ffigurau 2019/20 a 20/21: mae'n bosib bod y pandemig Coronafeirws a'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar y ffigurau (cyfyngiadau symud swyddogol cyntaf 23 Mawrth 2020).
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am incwm a gwariant meysydd parcio yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau parcio.
Hawlen barcio i breswylwyr
Pa awdurdod sydd gan y cyngor i wneud y newidiadau hyn i'r cynllun parcio i breswylwyr?
O dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i reoli'r rhwydwaith priffyrdd mewn ffordd fel y gellir lleihau tagfeydd a llygredd aer. Golyga hyn bolisi i gefnogi dichonoldeb economaidd o ran trosiant ac argaeledd mannau parcio, diogelwch wrth annog pobl i beidio â stopio/parcio mewn lleoliadau sy'n achosi perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, a thagfeydd drwy leihau rhwystrau i lif a symudiad y traffig.
Y cabinet - Dydd Iau 18 Gorffennaf 2019
I ba leoliadau y mae'r cynllun parcio i breswylwyr hwn yn berthnasol?
Mae 368 o leoliadau parcio i breswylwyr yn unig yn Abertawe, yn bennaf mewn ymateb i geisiadau gan breswylwyr.
Faint o hawlenni sydd wedi'u cyflwyno ar hyn o bryd?
Mae tua 9,000, y mae 2,000 ohonynt ar gyfer ail gerbyd yn yr eiddo. (Tach 2019)
Sut caiff y cynllun ei orfodi?
Mae gan Swyddogion Gorfodi Sifil amser gwirioneddol i gael mynediad at y gronfa ddata hawlenni i weld a oes gan gerbyd ganiatâd dilys ar gyfer y lleoliad lle mae wedi parcio. Byddai'r broses orfodi'n dilyn gweithdrefnau gorfodi sifil yn yr un ffordd ag unrhyw dramgwyddau parcio eraill.