Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Hybu'r Gymraeg: 2024 - 2029

Dyma ail strategaeth Hybu'r Gymraeg pum mlynedd Cyngor Abertawe ac mae'n nodi sut y byddwn yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe.

Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, cydweithwyr a phreswylwyr Abertawe i lunio'r strategaeth hon gan sicrhau ei bod yn ystyrlon, yn briodol ac yn gyraeddadwy.

Bydd y strategaeth hon yn bodloni ein gofynion statudol o dan ddeddfwriaeth y Gymraeg a hefyd yn cefnogi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

"Y flwyddyn 2050: Mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu, mae nifer y siaradwyr wedi cynyddu i filiwn a chaiff ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ymhlith y rheini nad ydynt yn ei siarad mae yna ewyllys da tuag ati ac ymdeimlad o berchnogaeth ohoni. Mae yna werthfawrogiad hefyd o'i chyfraniad i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru."

Nod hirdymor Cyngor Abertawe yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe, hyrwyddo ymwybyddiaeth a sicrhau presenoldeb y Gymraeg ar draws ein holl gymunedau. Rydym yn ymdrechu i greu cyfleoedd i bobl o bob lefel sgiliau Cymraeg ymarfer a defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd croesawgar, cefnogol a diogel. Rydym hefyd am gysylltu â'r rhai nad ydynt efallai'n adnabod yr iaith na'u gwerthoedd.

Cyd-destun Polisi a Deddfwriaeth

Mesur y Gymraeg 2011

Safonau'r Gymraeg

Mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i lunio strategaeth 5 mlynedd i hybu'r Gymraeg o dan Safonau'r Gymraeg (Rhif. 1) Rheoliadau 2015 (Safonau'r Gymraeg 145 a 146). Mae'n ofynnol i'r Cyngor:

  1. Lunio a chyhoeddi'r strategaeth 5 mlynedd sy'n esbonio sut mae'r Cyngor yn bwriadu mynd ati i hybu'r Gymraeg a hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn ehangach yn yr ardal.
  2. Cynnwys targed ar gyfer cynyddu neu gynnal nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod pum mlynedd.
  3. Cynnwys datganiad sy'n esbonio sut rydych yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw.

Yn ogystal â bodloni ein gofynion o dan Safonau'r Gymraeg, mae gan y strategaeth hon gysylltiadau agos iawn ag ystod o strategaethau, polisïau ac amcanion cenedlaethol a lleol gan gynnwys:

Y targedau cyffredinol ar gyfer y strategaeth hon yw:

  1. Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
  2. Cynyddu canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau, o 10% (2013-2015) i 20% erbyn 2050.

Proffil Iaith Abertawe

Daw'r ystadegau canlynol o Gyfrifiad 2021.

Yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer Dinas a Sir Abertawe yw 238,500, sy'n golygu mai ni yw'r ail boblogaeth uchaf o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.

Yn 2021, roedd tua 350 yn llai o breswylwyr Abertawe (3 oed ac yn hŷn) yn siarad Cymraeg nag yn 2011. Cynyddodd nifer y bobl nad oeddent yn siarad Cymraeg 1,100.

Sgiliau iaith GymraegCyfanswm Abertawe - nifer / %% Cymru
Dim sgiliau yn y Gymraeg189,400
81.7%
74.8%
Gallu deall Cymraeg llafar36,149
15.6%
21.9%
Gallu siarad Cymraeg25,986
11.2%
17.8%
Gallu darllen Cymraeg 26,801
11.6%
17.3%
Gallu ysgrifennu Cymraeg21,867
9.4%
15.2%
Gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg19,951
8.6%
14.2%
Yr holl breswylwyr arferol 3 oed ac yn hŷn231,890
100%
100%

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021, Tablau TS032 i TS036, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  © Hawlfraint y Goron 2022

Newid dros amser

Rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021, roedd cynnydd bychan yn nifer y boblogaeth 3 oed ac yn hŷn o 0.3% (+730) yn Abertawe. Fodd bynnag, roedd gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021 o 2.1% (neu 550 o bobl). Mae hyn yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol lle'r oedd gostyngiad o 5.3% dros yr un cyfnod.

Mae'r tabl canlynol yn dangos y newid yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn wardiau Abertawe, Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021:

Y cynnydd mwyaf yn ôl %+ % / nifer y siaradwyrY gostyngiad mwyaf yn ôl %- % / nifer y siaradwyr
Glandŵr+34.7%
+128
Pen-clawdd -20.2%
-106
Llandeilo Ferwallt+26.5%
+71
Tre-gŵyr -14.6%
-97
Y Mwmbwls, West Cross+22.8%
+286
Wardiau sirol y gogledd *-12.1%
-589
Penlle'r-gaer+18.2%
+77
Treforys-11.5%
-222
Sgeti+11.7%
+179 
Cwmbwrla-6.2%
-32
Gorseinon, Penyrheol+4.4%
+59
Penderi-5.4%
-46
Y Cocyd, Waunarlwydd+3.7%
+47
Fairwood-4.9%
-14
Y Castell, St Thomas, Y Glannau+2.7%
+43
Mynydd-bach -4.0%
-34

* 'Mae 'wardiau sirol y gogledd' yn cynrychioli swm yr ystadegau ar gyfer wardiau newydd Clydach, Llangyfelach, Pontarddulais a Phontlliw a Thircoed (hen wardiau Clydach, Llangyfelach, Mawr a Phontarddulais).
Ffynhonnell: Tablau Cyfrifiad 2011 a 2021, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). © Hawlfraint y Goron.

Mae'r tabl canlynol yn dangos y newid yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe yn ôl grŵp oedran, rhwng Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021:

Oedran2011 - nifer y siaradwyr / %2021 - nifer y siaradwyr / %Y newid: 11 - 21 - nifer y siaradwyr / %% y newid yng Nghymru
3 - 4770
14.6%
530
11.0%
 -240
-31.2%
-27.6%
5 - 157,360
26.0%
7,539
25.8%
+170
+2.3%
-11.6%
16 - 191,880
14.0%
2,120
17.7%
+240
+12.8%
-11.1%
20 - 446,280
7.7%
7,060
9.2%
+780
+12.4%
+2.0%
45 - 644,520
7.5%
3,990
6.6%
-530
-11.7%
-0.5%
65 - 742,610
11.8%
2,090
8.1%
-520
-19.9%
+1.8%
75+2,920
14.1%
2,680
11.6%
-240
-8.2%
+0.0%
Cyfanswm pob un26,330
11.4%
25,980
11.2%
-350
-1.3%
-4.2%

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021 (SYG) a dadansoddiad Llywodraeth Cymru "Y Gymraeg yng Nghymru, Cyfrifiad 2021".

Ffynonellau ystadegau a gwybodaeth pellach

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (AGC) yn gofyn cwestiynau gwahanol i'r Cyfrifiad, gan holi pobl am eu rhuglder, pa mor aml y maent yn defnyddio'r Gymraeg ac agweddau eraill ar eu defnydd o'r iaith. Mae'r data diweddaraf ar gyfer Abertawe o'r AGC ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 yn dweud y canlynol wrthym:

  • Mae 11% o bobl 'yn gallu siarad Cymraeg' (Cymru 18%)
  • Mae 7% yn nodi 'rhywfaint o allu i siarad Cymraeg' (Cymru 16%)
  • Mae 82% yn nodi 'nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg' (Cymru 66%)
  • Mae 6% yn ystyried eu hunain yn 'rhugl' (Cymru 11%)

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynnal Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB). Mae canlyniadau'r arolwg hwn fel arfer yn dangos canran uwch o sgiliau Cymraeg pobl na'r Cyfrifiad a'r Arolwg Cenedlaethol oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd y cesglir y data. Mae'r APB yn cael ei ddiweddaru bob chwarter dros gyfnod o 12 mis.

Mae canlyniadau diweddaraf Abertawe ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2023 yn dweud wrthym:

  • fod 19.6% o bobl 3 oed ac yn hŷn yn gallu siarad Cymraeg - sef 47,100 o bobl
  • mae hyn yn parhau i fod yn is na chyfartaledd Cymru o 29.2%

Dilynwch y ddolen hon i weld proffil llawn Abertawe a'r defnydd o'r Gymraeg: Yr iaith Gymraeg yn Abertawe

Ein targed

Nod hirdymor Cyngor Abertawe yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe, hyrwyddo ymwybyddiaeth a sicrhau presenoldeb y Gymraeg ar draws ein holl gymunedau.

Ein blaenoriaeth gyntaf yw cynnal cyfran y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe ar 11.2% (Cyfrifiad 2021). Mae'r targed hwn yn ymateb i'r gostyngiad a welwyd rhwng canlyniadau Cyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021. Drwy osod y targed hwn, ein nod yw gwrthbwyso'r duedd ar i lawr a diogelu treftadaeth ieithyddol y rhanbarth.

Mae'n bwysig nodi yma, yn ystod oes y strategaeth hon, na fydd gennym ddata pellach o'r Cyfrifiad i wneud cymhariaeth - bydd yn rhaid i ni ddefnyddio canlyniadau'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) sy'n cael ei ddiweddaru bob chwarter dros gyfnod o 12 mis. Mae'r canlyniadau hyn bob amser yn dangos canran uwch oherwydd y cwestiynau a ofynnwyd. Byddwn yn casglu'r data o'r APB yn flynyddol i fonitro'r strategaeth hon ac i'n helpu i ddadansoddi ei heffeithiolrwydd.

Sut byddwn yn gwneud hyn

Rydym yn rhannu gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn strategaeth Cymraeg 2050. Oherwydd hyn, rydym wedi modelu ein strategaeth ar dair thema allweddol Llywodraeth Cymru:

  1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
  2. Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
  3. Creu amodau ffafriol

Rydym wedi cynnal gweithgareddau ymgysylltu cynnar yn seiliedig ar y tair thema gyda sefydliadau partner Cymraeg a Saesneg. Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu agored â'r cyhoedd a staff, a chynhaliwyd arolwg ymgysylltu cynnar hefyd ar gyfer aelodau'r cyhoedd ac unrhyw bartïon â diddordeb.

Yn ystod yr holl gyfleoedd ymgysylltu, gofynnom i gyfranogwyr beth oedd y prif rwystrau i bob un o dair thema Llywodraeth Cymru yn eu barn nhw, pa gamau neu atebion sydd ar gael o bosib a beth yn union yw llwyddiant yn eu barn nhw.

Mae rhai o'r canfyddiadau allweddol fel a ganlyn:

  1. Addysg Gynnar: Cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ar lefelau cyn oed ysgol a chefnogi rhieni newydd.
  2. Hybu balchder yn y Gymraeg: Annog balchder mewn sgiliau iaith Gymraeg a gwobrwyo defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
  3. Cefnogaeth Gymunedol: Sefydlu grwpiau a sesiynau sgwrsio cymunedol Cymraeg.
  4. Hybu ac amlygrwydd: Hybu cyfleoedd dysgu Cymraeg a gwella amlygrwydd siaradwyr Cymraeg.
  5. Ymgysylltu dyddiol: Cyflwyno geiriau/ymadroddion Cymraeg bob dydd a sesiynau sgwrsio cymunedol.
  6. Hybu ac Arwyddion: Hybu'r Gymraeg yn fwy a defnyddio arwyddion clir sy'n nodi lle mae'r Gymraeg yn cael ei hannog.
  7. Amlygrwydd y Gymraeg: Gwneud y gymuned Gymraeg yn fwy gweladwy yn Abertawe.
  8. Cymhellion Busnes: Annog busnesau i ddefnyddio'r Gymraeg drwy system raddio.
  9. Cynnwys y Gymraeg mewn prosiectau: Sicrhau bod prosiectau newydd yn ystyried sut y gellir hybu a chefnogi'r Gymraeg.
  10. Partneriaethau: Cynyddu gwaith partneriaeth a chysylltu â pholisïau allweddol y Cyngor.

Drwy'r gweithgarwch ymgysylltu cynnar hwn a chan ystyried ein hadroddiad a'n hargymhellion ein hunain o'n strategaeth pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi llunio'r ymrwymiadau canlynol er mwyn cyrraedd ein targed.

Byddwn yn...

  1. Cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor.
  2. Creu a chefnogi cyfleoedd cymdeithasol i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
  3. Cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd hyfforddiant yn y Gymraeg.
  4. Helpu i ddatblygu a chreu cyfleoedd i bobl ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
  5. Sicrhau bod cymunedau'n gallu cael mynediad cyfartal at wasanaethau'r Cyngor yn Gymraeg neu Saesneg.
  6. Cryfhau ein perthynas â sefydliadau partner.
  7. Sicrhau bod goblygiadau'r Gymraeg yn cael eu hystyried yn effeithiol o fewn y penderfyniadau a wnawn a'r gwasanaethau rydym yn eu comisiynu.
  8. Defnyddio ffynonellau data sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â'r Gymraeg i lywio ein polisïau.
  9. Hyrwyddo manteision dysgu a defnyddio'r Gymraeg i bawb.

Mae hon yn strategaeth ar gyfer Abertawe gyfan. Mae ein partneriaid ar gyfer y strategaeth hon yn cynnwys timau mewnol a sefydliadau allanol, gan gynnwys:

  • Y Gwasanaethau Addysg
  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Diwylliannol
  • Mudiad Meithrin
  • Menter Iaith Abertawe
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Partneriaeth
  • Darparwyr gofal plant preifat
  • Prifysgol Abertawe
  • Yr Urdd
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • RhAG
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • Byrddau Arholi
  • Llywodraeth Cymru

Yn y cynllun gweithredu cysylltiedig, rydym wedi amlinellu'r gweithgareddau y mae eu hangen i gyflawni ein hymrwymiadau a'n targedau yn y strategaeth hon, gan nodi pa un o themâu Llywodraeth Cymru y mae pob ymrwymiad yn mynd i'r afael â hi.

Trefniadau monitro

Yn unol â safon 146 o ddeddfwriaeth Hybu'r Gymraeg, ar ddiwedd y cyfnod 5 mlynedd hwn, byddwn yn darparu asesiad ysgrifenedig sy'n asesu i ba raddau yr ydym wedi dilyn y strategaeth ac wedi cyrraedd y targed a osodwyd ganddi. Byddwn yn cyhoeddi'r asesiad hwn ar ein gwefan ac yn cynnwys nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe ac oedran y siaradwyr hynny. Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhestr o weithgareddau a drefnwyd gennym neu a ariannwyd gennym yn ystod y 5 mlynedd er mwyn hybu defnyddio'r Gymraeg.

Bydd y strategaeth a'r cynllun gweithredu hwn yn cael eu hadolygu'n flynyddol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni fonitro eu heffeithiolrwydd a gwneud newidiadau i'r cynllun gweithredu neu'r ymrwymiadau yr ydym wedi'u gwneud.

Hawdd ei Ddeall - Strategaeth hyrwyddo’r Iaith Gymraeg 2024-29 (PDF)

Hawdd ei Ddeall - Strategaeth hyrwyddo’r Iaith Gymraeg 2024-29.

Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2024-29 (PDF)

Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2024-29.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Rhagfyr 2024