Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau y marfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân HMO

Nenfydau

Gall atodlen yr hysbysiad/drwydded nodi bwlch o hanner awr neu un awr. Mae hyn yn golygu gosod un neu ddwy haen o blastrfwrdd 12.5mm, ynghyd â gorffeniad sgim plastr gypswm llyfn 3.2mm. Gellir gwneud hyn drwy adnewyddu'r nenfwd, gosod y plastrfwrdd yn uniongyrchol ar ddistiau'r llawr neu wella'r nenfwd presennol trwy ei orchuddio.

Gorchuddio nenfydau

Os gwneir hyn, mae'n bwysig gosod y mesur diogelwch ychwanegol yn foddhaol. Dylid gosod rhwyd wifren yn ddiogel o dan y nenfwd presennol drwy hoelio'r dist, gan ddefnyddio hoelion breision galfanedig o fewn 150mm ar y mwyaf i'w gilydd. Yna mae'n rhaid estyllu'r nenfwd (50mm x 25mm, er enghraifft) i gael y gorffeniad plastrfwrdd a phlastr gypswm newydd. Yn ddelfrydol, dylid sgriwio'r estyll ar y distiau presennol, gan dreiddio o leiaf 20mm o ddyfnder i'r distiau. Ni ddylai'r bylchau rhwng canol y sgriwiau hyn fod yn fwy na 150mm.

Mae'r dull gosod yn bwysig oherwydd y cynnydd yn y llwyth. Pe bai unrhyw ran o'r nenfwd presennol yn cael ei datgysylltu, byddai'r rhwyd wifren yn sicrhau na fyddai ei llwyth yn cael ei throsglwyddo i'r plastrfwrdd a'r estyll sydd wedi'u gorchuddio.

Cyn gosod y gorffeniad plastr gypswm, bydd yr holl ddistiau yn y nenfwd plastrfwrdd newydd yn cael eu llenwi a'u tapio â thâp sgrim 90mm o led.

Mae'n rhaid i'r swyddog arolygu gael cyfle i adolygu'r gorffeniad plastr cyn gwneud gwaith addurno. Ni ellir defnyddio Artex yn lle plastr gypswm gan nad yw'n darparu gorffeniad gwrthdan i'r plastrfwrdd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu