Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau y marfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân HMO

Ymarferion tân

Sicrhewch fod pob deiliad yn gwybod am y rhagofalon tân sylfaenol canlynol:

  1. Dylid ymgyfarwyddo â'r prif lwybr dianc.
  2. Ni ddylid defnyddio'r prif lwybr dianc ar gyfer storio pethau ac ni ddylid ei rwystro o gwbl.
  3. Don't charge e-bikes and e-scooters in bedrooms or escape routes - for example, hallways.
  4. Dylid osgoi defnyddio pedyll sglodion os oes modd. Fodd bynnag, os defnyddir padell, peidiwch byth â llenwi mwy na thraean ohoni a pheidiwch byth â gadael y gwres ymlaen os nad oes neb yn cadw llygad ar y badell. Os bydd yn mynd ar dân, diffoddwch y gwres a mygwch y badell â blanced dân. PEIDIWCH â thaflu dŵr arni.
  5. Peidiwch â smygu yn y gwely. Sicrhewch fod bonion sigaréts a phibellau wedi'u diffodd yn llwyr cyn eu gadael.
  6. Peidiwch â defnyddio gwresogyddion cludadwy, na chaniatáu iddynt gael eu defnyddio, yn enwedig rhai nwy neu baraffîn.
  7. Peidiwch â rhoi dillad golchi o flaen gwresogyddion tân i'w sychu.
  8. Cyn amser gwely:
    1. diffoddwch yr holl offer trydanol diangen
    2. diffoddwch neu trowch i lawr unrhyw beth a allai gychwyn tân, e.e. sigarét, cannwyll, tân agored
    3. gwiriwch fod yr holl boptai a gwresogyddion wedi'u diffodd wrth y prif gyflenwad
    4. caewch ddrws pob ystafell: dim ond os ydynt ar gau y mae drysau tân yn gweithio.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu