Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr natur y ddinas

Mae Llwybr Natur y Ddinas yn eich galluogi i archwilio rhai o'r ffyrdd y mae busnesau Abertawe, y Cyngor a Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i greu lle i natur. Gallwch ymweld â rhai o'r safleoedd, nid yw eraill ar agor i'r cyhoedd, ond mae pob un ar agor i fywyd gwyllt!

Yn 2019 dywedodd preswylwyr, ymwelwyr a gweithwyr canol dinas Abertawe wrthym yr hoffent weld mwy o natur yng nghanol y ddinas fel mannau tawel i eistedd ac ymlacio a mannau sy'n gwahodd natur i mewn iddynt. 

Mae creu lle i natur yng nghanol y ddinas yn golygu y gall ein dinas wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd yn well. Mae'n gwneud canol ein dinas yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae llystyfiant yn amsugno dŵr sy'n helpu i leihau llifogydd, mae coed a llwyni'n creu cysgod ac yn oeri'r aer o'u cwmpas, ac mae planhigion yn amsugno llygryddion o aer a dŵr. Mae'r egni a'r adnoddau a gyflenwir gan blanhigion sy'n denu peillwyr yng nghanol y ddinas yn cynorthwyo gwenyn, ieir bach yr haf, pryfed hofran a phryfed eraill i deithio ymhellach i ffwrdd i beillio cnydau neu blanhigion gardd, ac yn helpu i hybu rhywogaethau adar ac ystlumod, sy'n bwydo ar bryfed.

Mae cynyddu mannau gwyrdd ar draws y ddinas yn bwysig i natur a phobl. Gallwn greu cynefinoedd o ansawdd uchel ar adeiladau ac yn ein strydlun. 

Os hoffai eich sefydliad ychwanegu at lwybr natur y ddinas, cysylltwch â: Penny Gruffydd penny.gruffydd@abertawe.gov.uk .

Natur y ddinas - Coridor gwyrdd Pier Street

Coridor gwyrdd ar hyd Pier Street sy'n creu cysylltedd rhwng mannau gwyrdd yn yr Ardal Forol.

Natur y ddinas - gwelliannau i dir cyhoeddus Gorsaf Drenau Abertawe

Prosiect partneriaeth rhwng Ffyrdd o Weithio, Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Abertawe i wella prif fynedfa Gorsaf Drenau Abertawe ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

Natur y ddinas - parc bach dros dro

Parc dros dro wedi'i gynllunio i greu lle i bobl a bywyd gwyllt yng nghanol y ddinas.

Natur y ddinas - to gwyrdd y Pentref Trefol

To gwyrdd lled-ddwys ar adeilad Pentref Trefol Grŵp Coastal Housing ar Stryd Fawr Abertawe.

Natur y ddinas - Wal werdd y 'Potters Wheel'

Roedd y wal werdd yn rhan o'r gwaith adnewyddu ar 85-86 Ffordd y Brenin.

Natur y ddinas - Parc Amy Dillwyn, Bae Copr

Parc mwyaf newydd Abertawe yw to gwyrdd mwyaf Cymru mewn gwirionedd.

Natur y ddinas - Creu twyni tywod

Er mwyn lleihau faint o dywod sy'n cael ei chwythu gan y gwynt i Oystermouth Road ac i greu system twyni tywod newydd, yn 2016 gosodwyd dros 725m o ffensys castan ar y traeth ger y Ganolfan Ddinesig.

Natur y ddinas - Dysglau planhigion Llys Glas

Mae'r prosiect peilot hwn yn dargyfeirio dŵr o do'r coleg celf i dair dysgl dal glaw sy'n arafu'r llif trwy amsugno'r dŵr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Hydref 2024