System Rheoli Llyfrgelloedd Newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Abertawe
Bydd Llyfrgelloedd Abertawe'n trosglwyddo i System Rheoli Llyfrgelloedd wahanol ar ddiwedd mis Tachwedd 2024.
Dyma'r system gyfrifiadurol sy'n cadw cofnodion ar gyfer pethau fel gwybodaeth am aelodaeth llyfrgell a chyfrifon cwsmeriaid, ein catalog stoc, cofnodion o fenthyciadau ac archebion ac unrhyw ffioedd a godir mewn perthynas â'r rhain. Mae hefyd yn cefnogi mynediad i rai o'n gwasanaethau digidol fel ap y llyfrgell, y catalog ar-lein, defnydd o gyfrifiaduron personol yn y llyfrgell a rhai gwasanaethau digidol fel e-lyfrau a gwasanaethau a ddefnyddir drwy wefannau.
Does dim angen i gwsmeriaid wneud unrhyw beth. Mae'r cyngor hwn er gwybodaeth yn unig ac i helpu i egluro'r newid ac unrhyw wahaniaethau y gallai cwsmeriaid eu disgwyl o ganlyniad.
Cwestiynau cyffredin
Pam rydym wedi newid systemau?
Mae'r contract gyda chyflenwr ein system gyfrifiadurol bresennol yn dod i ben ac roedd yn ofynnol i ni ail-dendro ar gyfer y contract hwn. Gwnaed hyn ar draws Cymru gyfan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i hyn bydd cyflenwr gwahanol yn darparu'r System Rheoli Llyfrgelloedd pan ddaw'r contract presennol i ben.
Pryd bydd hyn yn digwydd?
- Bydd y system bresennol yn cael ei diffodd ar 20 Tachwedd
- O 21 Tachwedd bydd llyfrgelloedd yn defnyddio system dros dro'r cyflenwr newydd i reoli'r broses o fenthyca a dychwelyd llyfrau wrth i'r system newydd gael ei rhoi ar waith
- O 28 Tachwedd bydd llyfrgelloedd yn dechrau trosglwyddo i'r system newydd
Hoffai'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ddiolch i gwsmeriaid am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i ni drosglwyddo systemau. Bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n cyflenwr newydd a llyfrgelloedd cyhoeddus eraill ledled Cymru a fydd yn rhannu'r un system i gyflwyno'r newid hwn ac yn lleihau'r effaith ar wasanaethau i gwsmeriaid lle bo modd.
A fydd y gwaith trosglwyddo'n cael effaith ar oriau agor y llyfrgell?
Does dim cynlluniau i gau unrhyw lyfrgelloedd er mwyn cwblhau'r gwaith hwn.
A fyddwn i'n gallu benthyca llyfrau ac eitemau eraill (fel e-lyfrau ac e-bapurau newydd) wrth i'r system gael ei throsglwyddo?
Byddwch. Ac os oes gennych eitemau y mae angen eu dychwelyd o gwmpas 20 Tachwedd 2024, sef y cyfnod rydym yn newid ein systemau, byddwn yn estyn y cyfnod benthyca. Bydd hyn yn berthnasol i fenthyciadau am y tro cyntaf ac adnewyddiadau y mae angen eu dychwelyd yn ystod yr wythnos honno.
Fodd bynnag, bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell er mwyn benthyg unrhyw lyfrau yn ystod y cyfnod trosglwyddo gan na fydd cyfleuster ar gael i chwilio am eich aelodaeth ac mae angen hwn arnom ar gyfer y system dros dro.
Mae'n bosib y llwyfannau fel Borrowbox yn profi rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod trosglwyddo oherwydd y ffordd y maent yn cysylltu â'r gronfa ddata aelodaeth. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn achosi cyn lleied o darfu â phosib.
A fydd modd i mi ddychwelyd llyfrau ac eitemau eraill yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Bydd.
A fydd modd i mi adnewyddu llyfrau yn ystod y cyfnod trosgwlyddo?
Ni fydd unrhyw eitemau sydd ar fenthyg yn gallu bod yn 'hwyr' yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Os hoffech adnewyddu unrhyw eitemau rydych wedi'u benthyca, bydd yn rhaid i chi eu 'dychwelyd' a'u benthyca unwaith eto. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi fynd â'ch eitemau a'ch cerdyn aelodaeth i'r llyfrgell neu gallwch wneud hyn dros y ffôn os oes gennych eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell a rhifau cod bar y llyfr wrth law pan fyddwch yn ffonio.
A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy fy aelodaeth llyfrgell?
Efallai y bydd ychydig o darfu wrth ddefnyddio rhai gwasanaethau ar-lein sydd ar gael i gwsmeriaid drwy eu haelodaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gall hyn gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-bapurau newydd ac e-gylchgronau, gwefannau achyddiaeth a chronfeydd data cyfeirio, yn dibynnu ar sut maent yn cysylltu drwy eich aelodaeth llyfrgell. Fodd bynnag, mae'r cyflenwr yn gweithio gyda'r darparwyr trydydd parti hyn i leihau unrhyw darfu.
A fyddaf yn gallu gwneud cais am eitemau yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Na fyddwch, ni fydd modd i chi wneud ceisiadau i gadw eitemau dros dro rhwng 20 Tachwedd a dechrau mis Rhagfyr. Bydd ceisiadau presennol a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw'n cael eu cario drosodd.
Os hoffech adnewyddu unrhyw eitemau rydych wedi'u benthyca, bydd rhaid i chi eu 'dychwelyd' a'u benthyca unwaith eto. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi fynd â'ch eitemau a'ch cerdyn aelodaeth i'r llyfrgell neu gallwch wneud hyn dros y ffôn os oes gennych eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell a rhifau cod bar y llyfr wrth law pan fyddwch yn ffonio.
A fydd ap y llyfrgell yn gweithio?
Ni fydd ap y llyfrgell, Pori, yn gweithio ar gyfer cwsmeriaid Abertawe, ond bydd ap ar gyfer y system newydd yn ei ddisodli.
A fyddaf yn parhau i dderbyn hysbysiadau i ddweud bod fy llyfrau'n hwyr?
Na fyddwch. Ni fydd negeseuon testun ac e-byst ar gael dros dro nes bod y gwasanaeth hwn yn cael ei roi ar waith ac unwaith y bydd y system newydd yn fyw. Pan fydd y system newydd ar waith, bydd y negeseuon hyn yn edrych yn wahanol a byddant yn dod o 'gyfeiriadau' gwahanol.
A fyddaf yn gallu gweld porth y llyfrgell a'r catalog ar-lein a rheoli fy nghyfrif ar-lein yn https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/swan_cy yn ystod y broses drosglwyddo?
Na fyddwch. Ni fydd y porth llyfrgell presennol yn (https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/swan_cy) ar gael yn ystod y cyfnod trosglwyddo, felly bydd cyfnod pan nad yw cwsmeriaid yn gallu rheoli eu cyfrif, chwilio yn y catalog, adnewyddu llyfrau neu wneud cais am eitemau ar-lein. Bydd ceisiadau am aelodaeth ar-lein hefyd yn cael eu hatal nes eu bod ar gael drwy'r porth newydd. Gweler hefyd 'A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy fy aelodaeth llyfrgell?'
Bydd y porth newydd yn fyw cyn gynted â phosib ar ôl y cyfnod trosglwyddo a bydd ganddi gyfeiriad newydd a gwedd newydd.
A fydd Wi-Fi y llyfrgell yn dal i weithio?
Bydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y Wi-Fi.
A fyddaf yn gallu defnyddio cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell?
Byddwch. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n defnyddio'r cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell cyn 20 Tachwedd, a bydd trefniadau dros dro ar waith ar gyfer defnyddwyr newydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
A fyddaf yn gallu defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth yn y Llyfrgell Ganolog?
Na fyddwch, ni fydd peiriannau hunanwasanaeth y Llyfrgell Ganolog ar gael ar ôl 20 Tachwedd nes bod y cyfnod trosglwyddo wedi dod i ben.
Ydy hi'n bosib ymuno â'r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Ydy. Gallwch ddod yn aelod newydd o'r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo drwy ymweld â'r llyfrgell yn bersonol. Yn anffodus ni fydd cwsmeriaid newydd yn gallu ymuno ar-lein ar ôl 20 Tachwedd nes bod yr wefan newydd ar gael.
A fydd unrhyw newidiadau i'r ffordd y caiff fy nata personol ei drin gyda'r System Rheoli Llyfrgelloedd newydd?
Rydym yn newid darparwr gwasanaeth o'r system bresennol sy'n gweithredu ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru, i ddarparwr gwasanaeth sy'n gweithredu yn yr un ffordd, fwy neu lai.
Mae data cofnodion cwsmeriaid yn cael ei ddiogelu dan gytundebau diogelu data priodol a phrotocolau diogeled systemau yn ystod y cyfnod trosglwyddo i'r darparwr gwasanaeth newydd. Bydd datganiadau ar gyfer sut y caiff eich data ei ddiogelu ar gael i gwsmeriaid wrth i'r system newydd gael ei rhoi ar waith.
Beth os oes gennyf ragor o gwestiynau?
Mae staff y llyfrgell wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am y newid hwn:
- siaradwch â rhywun yn eich llyfrgell leol
- e-bostiwch llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk
- ffoniwch 01792 637503