Arweiniad i bapurau newydd lleol a Chymraeg a microffilm yn Llyfrgell Ganolog
Gwybodaeth am archifo papurau newydd lleol a Chymraeg y gallwch eu cyrchu ar-lein ac yn bersonol yn y Llyfrgell Ganolog.
Papurau newydd lleol cyfredol
Mae'r rhain ar lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog.
- South Wales Evening Post (dyddiol)
Mae argraffiadau cynharach ar gael mewn gwahanol fformatau - gweler isod am fanylion
Cronfeydd data papurau newydd ar-lein
Os ydych chi'n aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, gallwch gyrchu cronfeydd data papurau newydd amrywiol drwy ein hadnoddau ar-lein. Mae The British Newspaper Archive yn darparu mynediad chwiliadwy i 600 o deitlau papurau newydd rhanbarthol a cenedlaethol wedi'u digideiddio, sy'n dyddio o 1710-1959, a gymerwyd o gasgliadau'r Llyfrgell Brydeinig. Mae'n cynnwys y South Wales Daily Post o 1893-1899 a theitlau eraill o Gymru. Gallwch gael mynediad at y wefan hon yn llyfrgelloedd Abertawe yn unig. Bydd angen i chi hefyd gofrestru ar y wefan a darparu cyfeiriad e-bost i weld delweddau.
Mae ein cronfa ddata papurau newydd gyfoes, NewsBank, yn darparu fersiynau chwiliadwy o wahanol bapurau newydd cenedlaethol Prydeinig a'r papurau newydd Cymreig canlynol. Mae'r disgrifiad mewn cromfachau yn dangos yr ardaloedd y maent yn ymdrin â hwy os nad ydynt yn glir. Nid yw'r gronfa ddata hon yn cynnwys ffotograffau papur newydd.
PressReader
Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, mae gennych fynediad awtomatig at ein gwasanaeth e-Bapurau Newyddion, PressReader. Gyda PressReader gallwch gyrchu dros 7,000 o gylchgronau a phapurau newydd i'w darllen ar-lein neu eu lawrlwytho i fynd â nhw gyda chi a'u darllen yn union fel y fersiynau argraffedig. Gellir cyrchu erthyglau o gopïau hŷn, gan gynnwys ffotograffau, drwy 'Advanced Search' ar fersiwn we Press Reader.
PressReader papurau newydd Cymru
Bangor Mail, Caernarfon Herald, Carmarthen Journal, Y Cymro, Cynon Valley Leader, Daily Post, Glamorgan Gazette, Holyhead Mail, Llanelli Star, North Wales Weekly, Pembrokeshire Herald, South Wales Echo, South Wales Evening Post (21/07/2018 - presennol), Wales On Sunday, Western Mail (31/07/2014 - presennol).
e-Bapurau Newydd ac e-Gylchgronau e-Bapurau Newydd ac e-Gylchgronau
Cronfeydd data ar-lein perthnasol eraill
Mae'r gronfa ddata am ddim, Papurau Newydd Cymru Arlein (Yn agor ffenestr newydd) yn cynnwys cannoedd o bapurau newydd Cymru, gan gynnwys teitlau Abertawe, a gellir eu gweld o gartref. Mae adran Adnoddau Allanol gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn darparu mynediad ar-lein at nifer o archifau papurau newydd hanesyddol gan gynnwys The Times, The Telegraph, The Guardian a The Daily Mail. Gall preswylwyr Cymru gael mynediad at y papurau newydd hyn, gyda chyfyngiadau penodol, ond mae angen aelodaeth o'r Llyfrgell Genedlaethol. I gael rhagor o wybodaeth am gael gafael ar Docyn Darllenydd, gweler: Tocynnau Darllen (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)
Daliadau papurau newydd archifol
Mae'r teitlau a restrir isod ar gael yn y Llyfrgell Ganolog, naill ai ar ficroffilm neu mewn cyfrolau wedi'u rhwymo. Cysylltwch â'r llyfrgell os oes gennych gwestiynau pellach ar ein daliadau ac i sicrhau bod yr eitem yn barod cyn eich ymweliad.
Sylwer: Mae argaeledd copïau gwreiddiol wedi'u rhwymo'n amodol ar gyflwr yr eitem ac mae yn ôl disgresiwn y llyfrgellydd. Ni chaniateir i chi lungopïo cyfrolau wedi'u rhwymo, er y gallwch gymryd copïau ffotograffig gan ddilyn y cyfyngiadau hawlfraint arferol.
Cyhoeddiad | Y cyfnod a gwmpesir |
---|---|
The Cambrian | 1804 - 1930 |
Cambria Daily Leader | Mai 1861 - Rhag 1910 (anghyflawn) |
Cambrian Daily Telegraph | Hyd 1885 - Maw 1886 |
The Courier | 3 Maw 1999 - 20 Rhag 2005 |
Cymric Democrat / Y Gwerinwr (Papur Newydd Plaid Lafur Cymru) | Hyd 1951 - Rhag 1958 |
Daily Industrial World (yn gysylltiedig ag Industrial World) | 1897 |
Y Darian / Tarian Y Gweithiwr | 1875 - 1934 |
Y Deheuwr | Hyd - Rhag 1886 |
The Ferret or South Wales Ratepayer | 17 Rhag 1870 - 5 Ebr 1879 (anghyflawn) |
Herald of Wales (Abertawe) | 1882 - 2005 (anghyflawn) |
Industrial World - Cylchgrawn Undeb Gweithwyr Tunplat De Cymru, Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw (Welsh Industrial Times gynt) | 1892 - 1898 |
Llais Llafur | 1911 - 1971 (anghyflawn) |
Llandarcy News (papur newydd Purfa BP) | 1963 - 1982 (anghyflawn) |
Llwchwr Chronicle (gweler hefyd West Glamorgan Chronicle) | 1964 - 1966 |
Llwchwr Express | 1952 - 1953 |
Morriston Other Times | Mai 1977 - 1989 |
Mumbles Chronicle & Gower Advertiser | 1887 - 1890 |
Mumbles & Gower Weekly News | 1955 - 1956 |
Mumbles Observer | 1889 - 1890 |
Mumbles Weekly Press & Swansea District Advertiser | 1907- 8 Ebr 1937 (anghyflawn) |
Mumbles Weekly Press & Gower News | 1903 - 1906 |
Port Talbot Guardian | 16 Nov 1951 - 1953 |
Seren Gomer | 1814 - 1815 |
South Wales Critic | 20 Mai - 5 Mehefin 1869 and 1886 - 1888 (anghyflawn) |
South Wales Daily Post / South Wales Evening Post | Chwef 1893 hyd yma (anghyflawn) (ailenwyd yn South Wales Evening Post ym 1932) |
South Wales Evening Post Sports Edition (Sporting Post) | 1964 i Rag 2005 (anghyflawn) |
South Wales Evening Post - Industrial & Commercial Review | 1960 - 1968 |
South Wales Voice / Llais Llafur | 1911 - 1971 (anghyflawn) |
South Wales Democrat - gweler Cymric Democrat | |
South Walian | 1896 - 1906 |
Sports Gazette | Rhif 1 - 33 (1979 - 1980) |
Swansea Boy | Medi 1878 - Hyd 1884 (anghyflawn) |
Swansea City Advertiser | 1971 - 1973 |
Swansea & District Workers' Journal | Awst 1899 - Mehefin 1914 (anghyflawn) |
Swansea Evening Express | 1874 |
Swansea Gazette & Daily Shipping Register | 11 Mehefin 1888- 15 Rhag 1916 (anghyflawn) |
Swansea Shipping Gazette | Medi 1859 - Mai 1861 (anghyflawn) |
Swansea Herald - gweler Herald of Wales | |
Swansea Journal (rhoddwyd nifer o enwau newydd i'r is-deitl) | 1843 - 1890 (anghyflawn) |
Swansea Journal (wythnosol - dim cysylltiad â phapur o'r 19eg ganrif gyda'r un enw) | 1930 -1932 |
Swansea Labour News | 1921 - 1926 |
Swansea Voice | 1955 - Mawrth 1964 |
Swansea Society High and Low | 29 Gorff 1880 - 12 Awst 1880 |
Swansea & West Wales Guardian | 1935, 1937 -1938 |
Tarian Y Gweithiwr (gweler Y Darian) | 1888 - 1891 |
Welsh Industrial Times - Cylchgrawn Undeb Gweithwyr Tunplat De Cymru, Sir Fynwy a Swydd Gaerloyw (yn parhau fel Industrial World) | 1888 - 1891 |
West Glamorgan Chronicle (gweler hefyd Llwchwr Chronicle) | 1969 - 1985 (anghyflawn) |
West Wales Observer | 28 Chwef 1919 - Rhag 1950 |
Western Express | 1938, 1949 (anghyflawn) |
Western Mail | Mai 1869 i 2019 (anghyflawn) |
Western Mail Commercial & Industrial Review | 1952 - 1968 |
Darllenydd Microffilm / argraffwyr yn Llyfrgell Ganolog
Mae'r rhan fwyaf o'n microffilmiau'n cael eu storio mewn cypyrddau agored yn yr ardal Astudiaethau Lleol ar lawr cyntaf y Llyfrgell Ganolog, ger ein darllenwyr / hargraffwyr microffilm. Gofynnwch i'r staff am gyfarwyddiadau ar sut i'w defnyddio.
Argymhellir eich bod yn archebu darllenydd/argraffydd ymlaen llaw - yn gyffredinol, gellir eu harchebu ar gyfer slotiau dwy awr yn unig. Os yw cwsmeriaid yn ymgymryd ag ymchwil hanesyddol fanwl, yn enwedig os ydynt wedi teithio gryn bellter, efallai y caniateir iddynt gael slotiau amser estynedig ar y darllenwyr microffilm. Cysylltwch â'r llyfrgell i drafod hyn.
Cysylltwch â'r Llyfrgell Ganolog Llyfrgell Ganolog
Taliadau llyfrgell Taliadau llyfrgell
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Llinell Lyfrau.