Parcio
Rydym wedi cael gwybod am negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at aelodau o'r cyhoedd yn awgrymu bod gan y derbynnydd ddirwy parcio nas talwyd ac yna'n gofyn am daliad ar gyfer yr Hysbysiad o Dâl Cosb.
Nid ydym yn anfon negeseuon testun at y cyhoedd mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb ac rydym yn annog unrhyw un sy'n derbyn neges destun o'r fath i'w hanwybyddu, i beidio â chlicio ar unrhyw ddolen yn y neges destun ac i drin y neges fel sgam. Anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol mewn perthynas â Hysbysiadau o Dâl Cosb drwy e-bost neu lythyr.
Byddwch yn wyliadwrus.
Y term swyddogol am docyn neu ddirwy parcio yw 'hysbysiad o dâl cosb' neu 'PCN' yn fyr. Rhoddir PCN ar gyfer parcio'n anghyfreithlon.
Manylion am ein holl feysydd parcio yn Abertawe a'r cyffiniau, gan gynnwys mapiau, taliadau a sut i brynu tocyn tymor.
Os oes cilfach barcio i breswyliwr ar eich stryd neu mewn stryd gerllaw, gallwch wneud cais am hawlen ddigidol.
Mae gan Abertawe ddau safle Parcio a Theithio yn Fabian Way a Glandŵr.
Gwybodaeth am fathodynnau glas, cyflwyno cais am le parcio anabl ar y briffordd gyhoeddus a llogi cyfarpar symudedd yng nghanol y ddinas.
Mae gennym gyfrifoldeb i orfodi cyfyngiadau parcio penodol. Gallwch ddweud wrthym am unrhyw broblemau parcio sy'n ymwneud â'r ardaloedd gorfodi hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.
Gallwch gyflwyno cais i atal cilfach breswylwyr, cilfach defnydd a rennir, cilfach talu ac arddangos neu gilfach arhosiad cyfyngedig.
Yn ystod rhai digwyddiadau arbennig megis Sioe Awyr Cymru, arddangosfeydd tân gwyllt, cyngherddau a digwyddiadau perthnasol eraill, rydym yn darparu lleoedd parcio dynodedig i ymwelwyr.
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am barcio.
Addaswyd diwethaf ar 21 Awst 2025