Tai Cyngor
Rhagor o wybodaeth am dai cyngor a gwneud cais ar-lein.
Gwneud cais am dai cyngor Gwneud cais am dai cyngor
Gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn gydag un o'n ymgynghorwyr Opsiynau Tai.
Ar ôl i chi wneud cais
Efallai y byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth ategol neu dystiolaeth arall, efallai y bydd angen i ni ymweld â'ch cartref i gadarnhau'ch amgylchiadau.
Dyfernir pwyntiau angen tai i chi gan ddibynnu ar eich amgylchiadau tai yn seiliedig ar bethau fel gorlenwi, amgylchiadau meddygol etc.
Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod a ydych yn gymwys ar gyfer ein cofrestr anghenion tai, eich pwyntiau angen tai a'r math o eiddo rydych wedi'ch cofrestru ar ei gyfer, gan gynnwys yr ardaloedd rydych wedi'u dewis.
Faint o amser y bydd yn ei gymryd?
Os oes gennym yr holl wybodaeth mae ei hangen arnom, bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn 6 wythnos fel arfer.
Unwaith i chi gael y pwyntiau, gallwch gysylltu ag ymgynghorydd yn Opsiynau Tai a fydd yn rhoi mwy o gyngor i chi am ddewis ardal a'r amserau aros tebygol. Gallant ddweud wrthych beth yw'ch safle'n fras ar y gofrestr anghenion tai a rhoi gwybod i chi a ydych yn y 10 neu'r 20 uchaf etc. Cofiwch y gall safleoedd newid bob dydd wrth i geisiadau newydd gael eu hasesu a/neu wrth i bobl gael eu hailgartrefu neu eu tynnu oddi ar y rhestr.
Yn gyffredinol, mae prinder eiddo ar gael ac mae galw mawr am lety. Mae rhai ardaloedd yn arbennig o boblogaidd, gan arwain at alw mawr ac amseroedd aros hwy. Mae nifer isel o eiddo cyngor mewn rhai ardaloedd, gan arwain, unwaith eto, at alw mawr ac amseroedd aros hwy. Mae'n rhaid i chi ystyried hyn i gyd wrth wneud cais a dewis eich ardaloedd.
Ym mhob achos, y bobl sydd mewn angen mwyaf fydd yn cael eiddo cyngor a chymdeithasau tai ac ni allwn gynnig llety cyngor neu gymdeithas tai i bawb sy'n gwneud cais.
Felly, dylech hefyd ystyried rhentu yn yr adran breifat fel opsiwn.
Bydd eich ymgynghorydd mor realistig ag y bo modd gyda chi a bydd yn rhoi opsiynau tai eraill i chi, gan gynnwys sut gallwn eich helpu i aros lle rydych a rhentu gan landlord preifat.
Bydd y swyddfa dai ardal briodol yn cysylltu â chi os gall gynnig llety parhaol i chi.