Trefnu digwyddiad yn Abertawe
Os ydych yn trefnu digwyddiad i'w gynnal ar dir y cyngor neu dir preifat, rhaid i chi sicrhau bod gennych ganiatâd i wneud hynny a dilyn y cyngor ar y tudalennau hyn.
Digwyddiadau ar dir y cyngor
Os cynhelir eich digwyddiad ar dir cyngor Abertawe, bydd angen i chi geisio caniatâd. Mae hyn yn wir ni waeth beth yw maint y digwyddiad. Rhaid cael caniatâd cyn hysbysebu'r digwyddiad.
Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau a gynhelir:
- Mewn parciau neu ar barcdir y cyngor
- Ar y Rec
- Ar bromenâd Abertawe
- Ar un o draethau'r cyngor
- Ym Mharc yr Amgueddfa
- Yn Sgwâr Dylan Thomas
- Yn Sgwâr y Castell
- Ar unrhyw ran o'r briffordd (ffyrdd a llwybrau troed).
Gall digwyddiadau gynnwys er enghraifft:
- Digwyddiadau cerddoriaeth
- Ffeiriau
- Gwyliau bwyd
- Rasys ffyrdd
- Gwyliau cwrw
- Man masnachu
- Casglu sbwriel
- Teithiau cerdded elusennol
- Rasys hwyl
- Carnifalau
- Digwyddiadau cymunedol
- Lluniau priodas
I'ch helpu i ddewis y dyddiad ar gyfer y digwyddiad ac i osgoi cyd-daro â gweithgarwch sydd eisoes wedi'i drefnu, rydym yn cynnal calendr o ddigwyddiadau presennol a rhai sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw. Cynhelir y calendr gan y tîm Digwyddiadau Arbennig ac er y gwneir pob ymdrech i gadw'r wybodaeth hon mor gywir â phosib, fe'i cynhyrchir fel arweiniad yn unig. Cyfrifoldeb eraill yw gwirio cywirdeb y dyddiadau wrth drefnu digwyddiadau. Mae'r calendr ar gael yn Mae'r calendr ar gael ar-lein.
Digwyddiadau eraill (nid ar dir y cyngor)
Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau eraill a gynhelir o fewn ffiniau Dinas a Sir Abertawe (ond nid ar dir y cyngor), dylech hysbysu'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch.
Mae'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yn sicrhau y gellir cynnal y digwyddiad a bydd yr holl asiantaethau perthnasol yn y sir yn gwybod am hyn. Mae hyn yn cynnwys timau amrywiol yng Nghyngor Abertawe, y gwasanaethau brys a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Ar gyfer sawl math o ddigwyddiad sy'n cynnwys nifer mawr o bobl, mae llawer o waith trefnu ac mae SAG yn gofyn am chwe mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o ddenu mwy na 500 o bobl. Mae angen tri mis o rybudd ar gyfer digwyddiadau lle bydd llai na 500 o bobl yn bresennol.
Drwy rannu'r hyn sy'n digwydd yn eich digwyddiad, gall y rhanddeiliaid sicrhau bod digon o adnoddau ar gael os bydd digwyddiad lle bydd eu hangen.
Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir preifat yn Abertawe Rhowch wybod i ni am eich digwyddiad arfaethedig ar dir preifat yn Abertawe
Gyda rhai mathau o ddigwyddiadau, efallai bydd angen i chi fynd i un o gyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch i drafod eich cynigion yn fanylach.
Nid diben y broses Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch yw rhoi caniatâd ar gyfer eich gweithgarwch ond ei diben yw cefnogi cyflwyno'r digwyddiad yn ddiogel.
Ar gyfer yr holl ddigwyddiadau gydag alcohol, cerddoriaeth a dawnsio
Os bydd angen i'ch digwyddiad gynnwys alcohol, cerddoriaeth a dawnsio neu adloniant awyr agored, efallai y bydd angen trwydded mangre neu Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN). Mae gwybodaeth am y trwyddedau a sut i wneud cais ar gael ar ein gwefan. Os oes angen rhagor o fanylion arnoch, gallwch gysylltu â'r Tîm Trwyddedu a fydd yn gallu'ch cynghori ar y math o gais y mae angen i chi ei wneud.