Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2026 / 2027
Ceisiadau hwyr (Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2026)
Ceisiadau a ddaeth i law ar ôl y dyddiad cau, sef 28 Tachwedd 2025.
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ol y dyddiad cau a gyhoeddir (28 Tachwedd 2025) yn cael eu hystyried tan ar ol i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y diwrnod cynnig statudol. Ymdrinnir â cheisiadau hwyr yn y drefn y'u derbyniwyd. Os oes mwy o geisiadau hwyr am ysgol nag y mae lleoedd ar gael, bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried yn unol â'r meini prawf gor-alw.
Dim ond os oes lleoedd ar gael o hyd y bydd yr Awdurdod Lleol yn gallu dyrannu lle yn yr ysgol o'ch dewis. Mae hyn yn golygu efallai na roddir lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis hyd yn oed os ydych chi'n byw yn nalgylch yr ysgol neu'n symud i'r dalgylch ar ôl 28 Tachwedd 2025.
Os ydych chi am newid eich dewis ysgol ar ôl y dyddiad cau a gyhoeddir ar gyfer ceisiadau neu ar ôl i le gael ei gynnig ar y diwrnod cynnig statudol, bydd angen cyflwyno cais newydd. Bydd cais newydd a wneir yn gais hwyr a bydd yn disodli unrhyw geisiadau cynharach a dderbyniwyd ac ni fyddai unrhyw gynigion a wnaed yn flaenorol ar gael mwyach.