Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2025 / 2026

A gaiff fy nghais ei dderbyn? - Lleoedd Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2025

Caiff ceisiadau am le mewn grwpiau trosglwyddo i ddosbarth Derbyn a Blwyddyn 7 a dderbynnir erbyn y dyddiadau cau cyhoeddedig ei ystyried ar yr un pryd ag y bodlonir yr holl geisiadau eraill am y grŵp blwyddyn perthnasol, a bodlonir dewisiadau rhieni (eich dewis ysgol ar gyfer eich plentyn) ar yr amod bod digon o leoedd ar gael.

Un cynnig am le yn unig y dylid ei gwblhau, gall y cynnig gynnwys hyd at dri dewis. Os gwneir mwy nag un cynnig yr un mwyaf diweddar fydd yn cael ei ddefnyddio a bydd y rhai eraill yn cael eu hanwybyddu. Lle rennir cyfrifoldeb rhiant, dylai'r holl rieni fod yn gytûn ynghylch y dewisiadau a restrwyd yn y cais. Y rhieni sy'n gyfrifol am ddod i'r cytundeb hwn.  Os byddwn yn derbyn mwy nag un cais ar gyfer yr un disgybl lle nodir dewis gwahanol ym mhob cais, bydd y ffurflenni'n cael eu dychwelyd heb eu prosesu er mwyn i'r rhai hynny sydd a chyfrifoldeb fel rhieni i ddod i gytundeb.

Mae gan bob ysgol Nifer Derbyn sy'n nodi sawl disgybl y gall eu derbyn ym mhob grŵp blwyddyn. Fel arfer, ni all yr Awdurdod Lleol (ALl) dderbyn mwy na nifer derbyn yr ysgol. Yn ogystal, mewn dosbarthiadau Derbyn, mae uchafswm cyfreithiol o 30 disgybl.

Os yw nifer y ceisiadau am ysgol yn gyfartal â neu'n llai na nifer y lleoedd sydd ar gael, (y nifer derbyn), caiff yr holl ddisgyblion sy'n gwneud cais eu derbyn i'r ysgol. Lle bydd mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn ysgol, yna caiff y lleoedd eu dyrannu yn unol â'r meini prawf gorymgeisio a fanylir.  Mae'n bwysig cofio nad yw mynychu dosbarth meithrin mewn ysgol yn golygu y gwarentir lle i'ch plentyn yn y dosbarth derbyn nac ychwaith fynychu ysgol gynradd bartner ysgol uwchradd. Ni ellir gwarantu lle dalgylch i ddisgyblion sy'n dechrau mewn dosbarth Derbyn neu'n dechrau mewn ysgol uwchradd.  Gallwch wneud ail a thrydydd dewis (ystyriwch gynnwys eich ysgol dalgylch) rhag ofn y bydd eich dewis cyntaf yn orlawn. Nid yw gwneud mwy nag un dewis yn effeithio ar eich cyfle i sicrhau eich dewis cyntaf gan fod yr holl leoedd yn cael eu dyrannu gan ddilyn y meini prawf derbyn. Fodd bynnag, os yw eich dewis cyntaf yn orlawn ac nid oes modd dyrannu lle i'ch plentyn, byddwn yn ystyried eich ail ddewis ac yna eich trydydd dewis. Os nad ydych wedi gwneud mwy nag un dewis ac ni allwn gynnig lle i chi yn yr ysgol o'ch dewis, byddwn yn cynnig lle amgen i chi.

Ble gellir cynnig mwy nag un ysgol, byddwn yn cynnig yr ysgol sydd uchaf ar eich dewis ac yn tynnu y cynigion eraill yn eu hol.

Caiff yr holl geisiadau a gwblheir eu hystyried ar yr un pryd, felly nid oes mantais i rieni sy'n cyflwyno cais yn gynnar. Os caiff eich cais ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau yn yr amserlen a gyhoeddwyd, bydd eich cais yn hwyr a chaiff ei ystyried ar ôl y ceisiadau eraill a anfonwyd mewn pryd. Erbyn i geisiadau hwyr gael eu hystyried, mae'n bosib y bydd yr holl leoedd yn eich ysgol o ddewis wedi cael eu dyrannu, ac efallai gwrthodir lle i chi os yw'r ysgol yn llawn, hyd yn oed os ydych yn byw yn nalgylch yr ysgol ac yn bodloni pob un o'r meini prawf derbyn eraill neu rai ohonynt.  Ceir gwybodaeth am niferoedd derbyn ar dudalennau school details page.

Ni chynhelir profion dethol na chyfweliadau gan yr ysgolion.

 

Sut byddaf yn gwybod a fu fy nghais am le yn llwyddiannus? (Derbyn a Blwydyn 7) 

Byddwch yn derbyn llythyr i ddweud wrthych a neilltuwyd lle i'ch plentyn yn eich dewis ysgol. Gofynnir i chi hefyd dderbyn y lle gan ddefnyddio'r system ar-lein. Os gwrthodwyd eich cais oherwydd bod yr ysgol wedi dyrannu hyd at y Nifer Derbyn, mae gennych hawl i apelio. Bydd manylion am sut i wneud hyn yn cael eu hanfon gyda'r llythyr . Dylech ddefnyddio'r graddfeydd amser a nodir yn y llythyr a'r ddogfen hon.  Mae'n bosib na chaiff apeliadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwnnw eu hystyried tan ar ôl ymdrin â'r apeliadau a dderbyniwyd erbyn y dyddiad cau.

Tynnu lle yn ôl

Gellir tynnu lle yn ôl gan yr Awdurdod Lleol os derbynnir gwybodaeth sy'n awgrymu nad yw'r cais bellach yn bodloni'r meini prawf gorymgeisio yr aseswyd ef yn wreiddiol yn eu herbyn.  Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei dynnu'n ôl os nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn ymwneud ag ef.

Y broses apêl

Y broses apêl

Gwrandewir ar yr apel gan banel apelio annibynnol sydd fel arfer yn cynnwys 5 aelod. Mae'r aelodau'n wirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi i gyflawni'r rol ac fel arfer maent yn llywodraethwyr ysgol, penaethiaid a lleygwyr. Ni fyddant yn gysylltiedig a'r ysgol lle rydych yn apelio am le neu'r ysgol lle rydych wedi cael cynnig lle. Mae'r clerc i'r panel yn gynrychiolydd o Adran Gyfreithiol yr awdurdod lleol ond nid yw'n cymryd unrhyw ran yn y broses o wneud penderfyniadau. Rhoddir cyfle i chi gyflwyno'ch achos a bydd cynrychiolydd o'r Adran Addysg yn nodi'r rhesymau pam y gwrthodwyd y lle i chi. Ar ol gwrando a yr apel, bydd y panel yn gwneud ei benderfyniad a gydd y penderfyniad hwn yn derfynol. Nid oes hawl ychwanegol i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7, gellir gwrando ar apeliadau lluosog ar gyfer yr un ysgol fel apeliadau wedi'u grwpio. Gellir cynnal apeliadau yn erbyn ceisiadau hwyr ar ôl cynnal yr apeliadau ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn brydlon.

Os bydd eich apel yn aflwyddiannus, ni fyddwch yn gallu apeli am le yn yr un ysgol yn ystod yr un flwyddyn academaidd oni bai bod newid sylweddol yn yr amgylchiadau. Byddai angen trafod yr amgylchiadau hyn gyda'r Tim Ysgolion a Llywodraethwyr. Fodd bynnag, mae hawl i rieni apelio o'r newydd ynglyn a blwyddyn ysgol wahanol e.e. os yw apel am le yn y dosbarth Derbyn yn aflwyddiannus, gall rhieni apelio'r flwyddyn nesaf os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 1. Yn yr un modd, os collir apel am le ym Mlwyddyn 7, gall rhieni apelio yn y flwyddyn ganlynol os gwrthodir lle i'w plentyn ym Mlwyddyn 8. Prin iawn yw'r amgylchiadau lle gall panel annibynnol dderbyn disgybl i ddosbarth babanod os oes 30 ynddo eisoes. Ni ellir cefnogi'r apel oni bai bod y panel apeliadau'n fodlon nad oedd y penderfyniad yn un y byddai awdurdod derbyn rhesymol yn ei wneud o dan amgylchiadau'r achos neu y byddai'r plentyn wedi cael cynnig lle petai'r trefniadau derbyn wedi cael eu dilyn yn gywir. Mae hyn oherwydd y cyfyngiad maint dosbarth statudol o 30 mewn dosbarthiadau babanod.

Gall rhieni sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle dderbyn lle o hyd yn yr ysgol arall a gynigir. Ni fydd hyn yn effeithio ar yr apêl mewn unrhyw ffordd a bydd yn sicrhau bod lle wedi'i gadarnhau i'w plentyn rhag ofn bydd yr apêl yn aflwyddiannus. Os gwrthodir y lle a gynigiwyd, gellir ei gynnig i ddisgybl arall ar restr aros yr ysgol honno.

Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a lwyddodd ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7 Medi 2023 i'w gweld isod:

 

Dosbarth derbyn a blwyddyn 7 (cylchoedd derbyn Medi 2024)

Ysgol o ddewis

Nifer yr apeliadau

Nifer yr apeliadau llwyddiannus

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

2

1

Ysgol Gyfun Olchfa

11

2

Ysgol Gyfun Pontarddulais

10

0

Ysgol Gynradd Plasmarl

3

0

Cyfanswm

26

3

 

Mae gwybodaeth sy'n darparu nifer yr apeliadau a gynhaliwyd a nifer yr apeliadau a oedd yn llwyddiannus ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 / 2023 i'w gweld isod:

Apelau ar gyfer lleoedd canol blwyddyn

Ysgol o ddewis

Nifer yr apeliadau

Nifer yr apeliadau llwyddiannus

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

4

3

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

1

1

Ysgol Gynradd Brynmill

1

1

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

5

3

Ysgol Gynradd Clwyd11

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

9

1

Ysgol Gyfun Dylan Thomas

5

4

Ysgol Gyfun Tregwyr

5

4

Ysgol Gynradd Gwyrosydd

1

1

Ysgol Gynradd Hendrefoilan

2

0

Ysgol Gynradd Llangyfelach

5

0

Ysgol Gynradd Mayals

4

3

Ysgol Gynradd Treforys10
Ysgol Gynradd Newton11
Ysgol Gyfun Olchfa94
Ysgol Grynradd Parkland126
Ysgol Gynradd Pengelli11
Ysgol Gynradd Penllergaer22
Ysgol Gyfun Pentrehafod87
Ysgol Gynradd Plasmarl30
Ysgol Gyfun Pontarddulais33
Ysgol Gynradd Sgeti21
Ysgol Gynradd San Helen41
Ysgol Gynradd Heol y Teras22
Ysgol Gynradd Townhill63
Ysgol Gynradd Tre Uchaf11
Ysgol Gynradd Waun Wen10

Cyfanswm

100

54

 

Rhestrau aros ar gyfer disgyblion sy'n gwneud cais am le yn y dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 7

Caiff rhestri aros ar gyfer pob ysgol (ac eithrio Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir) eu gweinyddu gan yr awdurdod lleol. Os nad ydych yn llwyddo i gael lle yn y dosbarth Derbyn ar gyfer mis Medi 2025 neu Flwyddyn 7 ym mis Medi 2025 yn yr ysgol(ion) o'ch dewis fel a nodir ar y ffurflenni cais yn y rownd dderbyn arferol, caiff enw'ch plentyn ei roi'n awtomatig ar y rhestr aros ar gyfer yr ysgol honno (ysgolion hynny). Ni fydd derbyn lle mewn ysgol arall yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros. Os daw lle ar gael yn yr ysgol(ion) o'ch dewis, caiff ei ddyrannu gan yr awdurdod lleol yn unol â'r meini prawf derbyn, ac nid yn nhrefn y dyddiad y rhoddwyd enwau'r disgyblion ar y rhestr.

Nid oes gan ddisgyblion y mae eu rhieni'n cyflwyno apêl flaenoriaeth dros ddisgyblion eraill ar y rhestr aros. Cedwir enwau'r plant ar y rhestr aros am y flwyddyn academaidd gyfan a chânt eu dileu dim ond os ceir apêl lwyddiannus neu os yw rhiant yn cadarnhau'n ysgrifenedig nad yw'n dymuno i enw ei blentyn fod ar y rhestr aros bellach. Bydd angen i rieni sydd am i'w ceisiadau gael eu hystyried ar ôl y dyddiad hwn gyflwyno cais newydd.

Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf gorymgeisio gael eu cyflwyno ar unrhyw adeg.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu