Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2026 / 2027
Cynllun cydlynu trefniadau derbyn ysgolion - Derbyn a Blwyddyn 7 mis Medi 2027
Gweithredir Cynllun Cydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion ar gyfer y Derbyn a Blwyddyn 7 ym mis Medi 2027. Bydd y trefniadau cydlynol yn berthnasol i holl ysgolion cymunedol a gynhelir Abertawe ac i'r ysgolion canlynol a gynorthwyir yn wirfoddol:
- Ysgol Gyfun Gatholig yr Esgob Vaughan
- Ysgol Christchurch yr Eglwys yng Nghymru
- Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant
- Ysgol Gynradd Gatholig Illtud Sant
- Ysgol Gynradd Gadeiriol San Joseff
- Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff
Gall rhieni/gofalwyr gwblhau cais (y 'ffurflen gais gyffredin') a mynegi dewis ar gyfer hyd at 3 ysgol yn Abertawe o'u dewis, wedi'u rhestru yn ôl eu trefn blaenoriaeth. Bydd y ffurflen ar gael i rieni/gofalwyr drwy system ar-lein (neu fel copi papur ar gais).
Bydd dyddiad cau cenedlaethol a bydd angen i Gyngor Abertawe dderbyn ceisiadau wedi'u cwblhau (ar bapur neu ar-lein) erbyn y dyddiad hwnnw. Bydd ceisiadau a gyflwynir erbyn y dyddiad hwn yn cael eu hystyried fel ceisiadau a wneir yn ystod y cylch derbyn arferol:
Blwyddyn 7 - 31 Hydref 2026
Derbyn - 15 Ionawr 2027
Bydd rhieni/gofalwyr sy'n cyflwyno cais am ysgol yn Abertawe yn ystod y cylch derbyn arferol yn derbyn cynnig ar gyfer un lle ysgol oddi wrth yr awdurdod lleol. Bydd dyddiad cynnig cyffredin lle rhoddir gwybod i rieni/ofalwyr y dyrannwyd lle i'w plentyn:
Blwyddyn 7 - 1 Mawrth 2027
Derbyn - 16 Ebrill 2027
Late applications
Ni fydd ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau cyhoeddedig yn cael eu hystyried tan ar ôl i'r holl geisiadau a dderbynnir ar amser gael eu dyrannu a chael cynnig eu lleoedd ar y dyddiad cynnig cyffredin.
Right of appeal
Os bydd cais yn cael ei wrthod, hysbysir rhieni/gofalwyr yn ysgrifenedig fod ganddynt hawl i apelio i Banel Apêl Annibynnol. Bydd yr ohebiaeth yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio.