Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2025 / 2026

Ysgol Christchurch yr Eglwys yng Nghymru - Trefniadau Derbyn 2024 / 2025

Fel un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru a gynorthwyir, mae corff llywodraethu'r ysgol yn gyfrifol am dderbyn disgyblion. Gellir casglu ffurflenni cais o'r ysgol. Dilynir amserlen dderbyn yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyfer dosbarthu, ystyried a dychwelyd y ffurflenni hyn.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu dderbyn disgyblion hyd at nifer derbyn yr ysgol, sef 14.

Bydd yr ysgol yn ystyried ceisiadau hwyr mewn achosion lle rhoddir rheswm derbyniol. Mae'r rhain yn cynnwys pan fo rhiant sengl wedi bod yn dost ers cryn amser, neu pan fo teulu newydd symud i'r ardal neu ddychwelyd o dramor, ar yr amod bod ceisiadau'n cael eu derbyn cyn cynnig lleoedd.

Bydd rhieni'n derbyn hysbysiad ysgrifenedig o bob cais am le.

Caiff disgyblion eu derbyn i'r Meithrin, sy'n rhan o'n dosbarth Blynyddoedd Cynnar, y diwrnod ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Mae'r dosbarth Meithrin yn ddarpariaeth statudol; fodd bynnag, nid yw'n addysg orfodol. Nid yw derbyn plentyn i'r Meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r dosbarth Derbyn; os oes gan blentyn le yn ein dosbarth Meithrin, bydd rhaid cyflwyno'r ffurflen gais briodol am le yn y dosbarth Derbyn o fewn amserlen benodol y rownd dderbyn flynyddol.

Derbynnir disgyblion i'r dosbarth Derbyn ym mlwyddyn academaidd eu pumed pen-blwydd, h.y. gellir derbyn unrhyw blentyn sy'n cyrraedd 4 oed erbyn 31 Awst ym mis Medi.

Caiff "Plant sy'n Derbyn Gofal" eu blaenoriaethu. Yn achos prinder lle, bydd y llywodraethwyr yn derbyn disgyblion sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol a'r ddeddfwriaeth gyfredol orau.

Bydd plant o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr neu grwpiau teithiol yn cael eu trin yn unol â Chylchlythyr Rhif 003/2008 Llywodraeth Cynulliad Cymru, 'Symud Ymlaen - Addysg i Sipsiwn-Teithwyr'

Ni fydd yr ysgol yn gwahaniaethu rhwng bechgyn a merched, neu yn erbyn ymgeiswyr ar sail hil, lliw croen, cenedligrwydd na tharddiad cenedlaethol neu ethnig.

Nifer derbyn yr ysgol yw: 14

Meini prawf gorymgeisio

Mae'r llywodraethwyr wedi cytuno ar ddefnyddio'r meini prawf canlynol yn y drefn isod pan fo nifer y ceisiadau'n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, er mwyn penderfynu ar ba ddisgyblion i'w derbyn.

  1. Plant sy'n derbyn gofal sy'n aelodau wedi bedyddio o'r Eglwys yng Nghymru.
  2. Plant eraill sy'n derbyn gofal.
  3. Plant y mae eu rhiant / rhieni yn aelodau o'r eglwys Anglicanaidd mewn gair a gweithred a) Yn derbyn bywoliaeth gan y Santes Fair, Abertawe. b) eglwysi / plwyfi yn Archddiaconiaeth Gŵyr.
  4. Plant sydd â brawd neu chwaer sy'n ddisgybl wedi'i gofrestru yn yr ysgol ar y dyddiad pan fydd y plentyn sy'n destun y cais yn dechrau'r ysgol. (Gweler y troednodyn am ddiffiniad o 'frawd neu chwaer'.)
  5. Plant y mae eu rhieni'n mynychu eglwys o enwad Crisnogol arall.
  6. Plant rhieni sy'n byw yn y plwyf (map ar gael).
  7. Plant y mae eu rhieni'n dymuno iddynt fynd i'r ysgol hon.

Sylwer: derbynnir unrhyw blentyn y mae'r ysgol wedi'i enwi yn ei Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig cyn dilyn meini prawf gorymgeisio.

Ar gyfer meini prawf 3 a 5, bydd y llywodraethwyr yn gofyn am wybodaeth am ba mor aml mae'r rhieni'n mynd i wasanaethau eglwys a'u cyfraniad at waith yr eglwys a byddant yn ceisio cadarnhad o'r manylion hyn gan yr offeiriad neu'r gweinidog lleol ar ffurflen ategol sydd ynghlwm wrth y ffurflen hon.

O fewn pob categori rhoddir y flaenoriaeth uchaf i'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol. Caiff y pellter i'r ysgol ei fesur mewn llinell syth o brif fynedfa'r cartref teuluol i brif gât yr ysgol.

Os yw'r pellterau'n gyfartal, er enghraifft fflat mewn bloc o anheddau sy'n rhannu'r un fynedfa flaen, gwahaniaethir yn ôl lefel y llawr.


Diffiniadau

Diffiniad o rieni

Mae 'rhieni' yn cynnwys yr holl bobl sydd â chyfrifoldeb magu plant am blentyn fel a nodir yn Neddf Plant 1989. Lle y 'rhennir' cyfrifoldeb am blentyn, ystyrir mai'r person sy'n derbyn Budd-dal Plant yw'r person sy'n gyfrifol am gwblhau ffurflenni cais ac y caiff ei gyfeiriad ei ddefnyddio at ddibenion gweinyddol.

Diffiniad o frawd neu chwaer

Ar gyfer ceisiadau a wneir yn y rownd dderbyn arferol, brawd neu chwaer perthnasol yw plentyn y mae ganddo frawd, chwaer, llysfrawd neu lyschwaer neu sy'n blentyn maeth yn byw yn yr un uned deuluol yn yr un aelwyd a chyfeiriad teuluol sy'n mynd i'r ysgol o ddewis mewn unrhyw grŵp blwyddyn ac eithrio'r flwyddyn olaf. Hefyd bydd brodyr a chwiorydd biolegol sy'n mynd i'r ysgol o ddewis mewn unrhyw grŵp blwyddyn ac eithrio'r flwyddyn olaf yn cael eu trin fel brodyr a chwiorydd, ble bynnag yw eu preswylfa. Ni fydd plant sy'n byw yn yr un aelwyd fel rhan o deulu estynedig, megis cefndryd, yn cael eu trin fel brodyr a chwiorydd.

'Byw yn' a 'chyfeiriad cartref'

Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad a ddefnyddir ar gyfer gohebiaeth sy'n gysylltiedig â lle caiff "Budd-dal Plant" ei dalu. Mewn achosion lle mae amheuaeth ynglŷn â chyfeiriad y cartref neu pan fo plentyn yn byw rhwng dau gartref (teuluoedd hollt) neu amgylchiadau perthnasol eraill, mae'n rhaid darparu prawf o Gyfeiriad y Cartref i'r ysgol er mwyn cadarnhau'r cyfeiriad a ddefnyddir ar y ffurflen gais. Cyfeiriad y cartref fydd y cyfeiriad sy'n cydymffurfio â'r uchod ar ddyddiad cau ceisiadau a bennir gan yr Awdurdod Lleol. Dylai teuluoedd sy'n bwriadu symud tŷ ddarparu:

  1. llythyr cyfreithiwr sy'n cadarnhau bod contractau wedi'u cyfnewid ynglŷn â phrynu eiddo; neu
  2. copi o'r Cytundeb Rhentu cyfredol, wedi'i lofnodi gan y tenantiaid a'r landlord, gan ddangos cyfeiriad yr eiddo; neu
  3. yn achos personél cyfredol Lluoedd EM, llythyr swyddogol yn cadarnhau dyddiad eu lleoli gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.

Gefeilliaid, Tripledi, Genedigaethau Lluosog

Pan fo'r corff llywodraethu'n ystyried gefeilliaid, tripledi neu enedigaethau lluosog eraill ar gyfer un lle sy'n weddill, caiff y lle ei gynnig i'r teulu a gallant benderfynu (a) a fyddant yn ei dderbyn ar gyfer un o'r plant, p'un bynnag y byddant yn ei ddewis, neu (b) a fyddant yn ei wrthod a chaiff ei gynnig i'r person nesaf yn y dyraniad ar ôl y gefeilliaid/tripledi/genedigaethau lluosog. Sylwer na fyddai blaenoriaeth yn cael ei rhoi i frawd/chwaer lluosog yn y broses dderbyn heblaw am ei (h)ystyried fel cyswllt brawd/chwaer ar ôl i'r teulu dderbyn y lle(oedd) a gynigir ar gyfer un o'r gefeilliaid/tripledi/genedigaethau lluosog.

Rhestr aros

Cynhelir rhestr aros ar gyfer yr ysgol yn achos gorymgeisio. Ar ôl dyrannu lleoedd yn ystod y rownd dderbyn arferol, bydd plant yn aros ar y rhestr aros tan 31 Awst yn y flwyddyn academaidd y gwnaeth gais ynddi. Os daw lleoedd ychwanegol ar gael pan fo'r rhestr aros ar waith, cânt eu dyrannu i blant ar y rhestr aros yn ôl y meini prawf gorymgeisio uchod.


Sut y profir ymlyniad crefyddol

Cyfeiriadau at "yn aelodau" ac "aelodau gweithredol" yn ôl meini prawf gorymgeisio

Os ydych yn gwneud cais yn unol â meini prawf 3 a 5 uchod, gellir casglu Ffurflen Gwybodaeth Ategol yn uniongyrchol o'r ysgol. Dylid dychwelyd y ffurflen hon i'r ysgol. Nid yw'r Ffurflen Gwybodaeth Ategol yn gais ar ei phen ei hun; mae'n rhaid i rieni gwblhau'r Ffurflen Gais Gyffredin hefyd.

Diffinnir 'aelod' fel aelod o'r Eglwys yng Nghymru trwy gofrestru ar gofrestr etholiadol y plwyf.

Apeliadau derbyn

Mae addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol ond nid oes hawl apelio gan rieni o dan Ddeddf Addysg 1980 os nad ydynt yn llwyddiannus yn eu cais am le. Nid yw derbyn plentyn i'r dosbarth meithrin yn sicrhau y caiff ei dderbyn i'r ysgol.

Os nad ydym yn cynnig lle i blentyn yn yr ysgol hon, mae oherwydd y byddai'r cynnydd yn nifer y disgyblion yn amharu ar addysg y disgyblion sydd eisoes yn yr ysgol. Mae gan rieni'r hawl i apelio os nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad y corff llywodraethu i beidio â derbyn plentyn.

Os ydych yn dewis defnyddio'r hawl honno, mae'n rhaid i chi gyflwyno'r apêl i glerc llywodraethwyr yr ysgol. Caiff yr apêl ei hystyried gan Banel Apeliadau Derbyn annibynnol, a weinyddir gan Fwrdd Addysg yr Esgobaeth, yn unol â chôd ymarfer Llywodraeth Cynulliad Cymru ar apeliadau derbyn. Yna bydd y Panel Apeliadau'n cynnal cyfarfod i ystyried yr holl apeliadau gan rieni y gwrthodwyd lle yn yr ysgol i'w plant. Mae'r penderfyniad yn rhwymol i bob parti perthnasol.

Adolygu

Yn unol â'r Cynllun Datblygu Ysgol, caiff y polisi hwn ei adolygu bob dwy flynedd neu'n gynt os bydd unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu amgylchiadau lleol. 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu