Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027

Strategaeth Hygyrchedd - Atodiad 1

 

Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: A yw Cymru'n Decach? Tachwedd 2023 (www.equalityhumanrights.com)

  • Mae'r bwlch cyrhaeddiad addysg ar lefel cyfnod sylfaen rhwng plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl wedi ehangu. Yn 2018/19, cyflawnodd 42.5% o ddisgyblion ag anabledd / AAA ganlyniadau cyfnod sylfaen o'i gymharu â 92% o ddisgyblion heb anabledd / AAA.
  • Mae oedolion anabl yn llai tebygol o gael eu cyflogi nag oedolion nad ydynt yn anabl. Fodd bynnag, gostyngodd y bwlch cyflogaeth anabledd o 39.6 pwynt canran yn 2013/14 i 36.2 pwynt canran yn 2019/20. Er bod bylchau cyflogaeth yn gwella, mae bylchau enillion yn gwaethygu, wrth i weithwyr anabl ennill 15.1% yn llai yn 2019/20, o'i gymharu ag 8.0% yn llai yn 2013/14.
  • Mae pobl anabl yn llai tebygol o fod yn berchnogion tai na phobl nad ydynt yn anabl ac maent yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi ac amddifadedd materol difrifol. Fodd bynnag, bu gostyngiad sylweddol yng nghyfran y bobl anabl sy'n byw mewn amddifadedd amterol difrifol, o 40.5% yn 2015/16 i 24.3% yn 2019/20.
  • Mae oedolion anabl yn nodi canlyniadau iechyd meddwl tlotach nag oedolion nad ydynt yn anabl, gan fod 34.3% o bobl anabl wedi nodi bod ganddynt iechyd meddwl gwael, o'i gymharu â 15.4% o bobl nad ydynt yn anabl yn 2018/19.
  • Mae pobl anabl wedi cael eu gorgynrychioli'n sylweddol mewn marwolaethau o Covid-19. Roedd pobl ag anabledd dysgu dair i wyth gwaith yn fwy tebygol o farw o Covid-19 na'r boblogaeth ehangach.
  • Mae cyfran y bobl anabl sy'n adrodd am brofi cam-drin domestig yn ystod y 12 mis diwethaf oddeutu tair gwaith yn fwy na'r hyn a adroddwyd gan bobl nad ydynt yn anabl. Mae pobl anabl hefyd yn llai tebygol o fod â hyder yn y system cyfiawnder troseddol.

 


Ystadegau anabledd y DU: Cyffredinrwydd a phrofiadau bywyd Briff Ymchwil Tŷ'r Cyffredin (https://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CBP-9602/CBP-9602.pdf)

  • Amcangyfrifiwyd yn 2021/22 bod gan 16.0 miliwn o bobl yn y DU anabledd. Mae hyn yn cynrychioli 24% o'r boblogaeth gyfan. Mae nifer yr achosion o anabledd yn codi gydag oedran: roedd tua 11% o blant yn anabl, o'i gymharu â 23% o oedolion o oedran gweithio a 45% o oedolion dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
  • Mae cyfran y plant sy'n adrodd am anabledd bron wedi dyblu dros y degawd diwethaf (o 6% yn 2011/12 i 11% yn 2021/22).
  • Nodwyd bod gan hanner (50%) y plant anabl name cymdeithasol neu ymddygiadol, ac yna namau iechyd meddwl (21%) a namau 'eraill' (21%).
  • Mae mynychder anabledd safonedig yn ôl oedran ar ei uchaf ymhlith pobl o'r grŵp ethnig Bangladeshaidd: adroddodd tua 39% o bobl 16 oed a hŷn yn y grŵp ethnig hwn fod ganddynt anabledd yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb. Ar ben arall y raddfa, y grŵp ethnig Tsieineaidd sydd â'r gyfran isaf o bobl yn adrodd am anabledd (15%).
  • Erys gwahaniaethau rhwng cyrhaeddiad pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Mae'r gwahaniaethau mwyaf yn y rhai sydd wedi ennill cymwysterau lefel gradd a'r rhai nad enillodd unrhyw gymwysterau. Rhwng Gorffennaf 2020 a Mehefin 2021, roedd gan chwarter (24.9%) o obl anabl 21 i 64 oed radd fel eu cymhwyster uchaf, o'i gymharu â 42.7% o bobl nad ydynt yn anabl. Yn ogystal, nid oedd gan 13.3% o bobl anabl unrhyw gymwysterau, sef bron deirgwaith y gyfran o bobl nad ydynt yn anabl (4.6%).
  • Roedd pobl anabl yn llawer mwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar. Roedd cyfradd anweithgarwch economaidd pobl anabl yn 42.7%, gyda'r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhai nad ydynt yn anabl yn 14.3%. Mae pobl anabl yn cael eu talu llai ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Mae gan deuluoedd sy'n cynnwys oedolyn neu blentyn anabl incwm canolrifol sylweddol is na theuluoedd lle nad oes neb yn anabl. Mae hyn yn cael ei yrru'n rhannol gan y rhwystrau y mae llawer o bobl anable yn eu hwynebu mewn addysg a chael mynediad at gyflogaeth a chan gyfrifoldebau gofalu am rai aelodau o'r teulu.
  • Mae cyfraddau tlodi yn uwch ymhlith teuluoedd lle mae o leiaf un aelod yn anabl. Yn 2021/22, cyfran y bobl mewn tlodi cymharol ar ôl costau tai oedd 27% ar gyfer teuluoedd lle mae rhywun yn anabl, o'i gymharu â 19% ar gyfer pobl sy'n byw mewn teuluoedd lle nad oes neb yn anabl.
  • Mae pobl anabl hefyd yn adrodd am lefelau uwch o unigrwydd: dywedodd 15.1% o bobl anabl eu bod yn teimlo'n unig 'yn aml neu drwy'r amser' yn 2020/21, o'i gymharu â 3.6% o bobl nad ydynt yn anabl. Roedd y rhai â chyflyrau mwy difrifol, a ddywedodd eu bod yn gyfyngedig iawn yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo'n unig 'yn aml neu drwy'r amser' na'r rhai a ddywedodd eu bod wedi'u cyfyngu ychydig (25.5% a 10.5% yn y drefn honno). Dywedodd cyfran uwch o oedolion iau (16 i 24 oed) eu bod yn teimlo'n unig 'yn aml neu drwy'r amser' na'r rhai mewn grwpiau oedran hŷn, boed yn anabl ai peidio.
  • Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2023, canfu Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) fod 18.2% o oedolion anabl 16 oed a hŷn wedi profi rhyw fath o drosedd, o'i gymharu â 15.5% o oedolion nad ydynt yn anabl. Roedd y gwahaniaeth rhwng plant anabl a phlant nad ydynt yn anabl yn fwy, gyda phlant anabl rhwng 10 a 15 oed ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi dioddef trosedd (22.3% o'i gymharu â 9.2%)

 


Nododd Adroddiad Bwlch Canfyddiad Anabledd Scope, Mai 2018 (https://www.scope.org.uk/campaigns/disability-perception-gap):

  • Mae agweddau negyddol a rhagfarn yn parhau i fod yn broblem fawr i bobl anabl - dywedodd un o bob tri (32%) o ymatebwyr anabl fod llawer o ragfarn yn erbyn pobl anabl ym Mhrydain. Rhoddodd pobl nad ydynt yn anabl ymateb hollol wahanol, gyda dim ond un o bob pump (22%) yn cytuno bod llawer o ragfarn.
  • Er y gall yr agweddau negyddol hyn fod ar ffurf sarhad a chamdriniaeth lwyr, mae ymchwil ethnograffig ar wahân, a gynhaliwyd ar gyfer Scope gan Britain Thinks yn gynnar yn 2018, wedi canfod bod pobl anabl yn aml yn wynebu gweithredoedd bach amrywiol o ymddygiad negyddol megis: defnyddwyr cadeiriau olwyn yn nodi fod pobl yn gadael i ddrysau gau yn eu hwynebau yn hytrach na dal y drws yn agored iddynt; pobl y siarad â ffrind neu ofalwr ac yn siarad yn y trydydd person, yn hytrach na siarad yn uniongyrchol â'r person anabl; staff gwasanaeth mewn siopau a bwytai yn anwybyddu cwsmeriaid anabl, ac eraill yn 'ochneidio' neu'n 'twt twtio'.

 


Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 (Ystadegau Llywodraeth Cymru) (https://www.gov.wales/relative-income-poverty-april-2021-march-2022-html)

  • Yn y cyfnod diweddaraf (FYE 2020 i FYE 2022) roedd 31% o'r plant a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anabledd mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 26% o'r rhai mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.
  • Ar gyfer oedolion o oedran gweithio, roedd 28% a oedd yn byw mewn teulu lle'r oedd rhywun ag anableddmewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu ag 16% o'r rheini mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu