Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027
Strategaeth Hygyrchedd - Adran 2: Y Fframwaith Deddfwriaethol
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2010/15/contents) yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol, y mae anabledd yn un ohonynt:
- Oedran;
- Anabledd;
- Ailbennu Rhywedd;
- Priodas a Phartneriaeth Sifil (amddiffyn rhag gwahaniaethu uniongyrchol yn unig);
- Beichiogrwydd a Mamolaeth;
- Hil;
- Crefydd neu ddim cred;
- Rhyw;
- Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli'r holl ddeddfwriaeth flaenorol ar wahaniaethu ar sail anabledd. Cafodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 ei diddymu a'i disodli gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r Awdurdod Lleol yn ddarostyngedig i'r dyletswyddau cyffredinol a phenodol a nodir yn Neddf 2010. Mae'r rhain yn cwmpasu pob agwedd ar gydraddoldeb, gan gynnwys anabledd. Ceir rhagor o fanylion am y dyletswyddau cyffredinol a phenodol a sut y maent yn berthnasol i awdurdodau lleol ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Haawliau Dynol (https://www.equalityhumanrights.com/guidance/public-sector-equality-duty/public-sector-equality-duty-specific-duties-wales)
Gwahaniaethu
Gall gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
- Mae gwahaniaethu uniongyrchol ar ddysgwr anabl yn digwydd pan fydd y disgybl anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol nag un arall oherwydd ei nam neu ei anabledd.
- Nid yw'n wahaniaethu i drin dysgwr anabl yn fwy ffafriol nag un nad yw'n anabl.
- Gall dysgwyr anabl brofi gwahaniaethu anuniongyrchol lle mae polisi penodol, fel y caiff ei gymhwyso, yn eu rhoi dan anfantais (neu y byddai, pe bai'n cael ei gymhwyso, yn eu rhoi dan anfantais).
- Mae gwahaniaethu'n codi pan fydd disgybl anabl yn cael ei drin yn llai ffafriol nid oherwydd yr anabledd ei hun, ond am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd ef/hi ac na ellir cyfiawnhau'r driniaeth.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149 o Ddeddf 2010)
Mae gan bob awdurdod lleol ac ysgol ddyletswydd gyffredinol o dan Ddeddf 2010 i roi sylw dyledus i'r angen i:
►ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan neu o dan y Ddeddf hon;
► hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu; a
► meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phobl nad ydynt yn ei rhannu.
Yn benodol, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ac ysgolion gyhoeddi gwybodaeth ar ffurf Cynllun Cydraddoldeb Strategoli ddangos cydymffurfiaeth â'r ddyletswydd gyffredinol, a gallai hwn gynnwys gwybodaeth ynghylch sut y caiff y ddyletswydd ei chyflawni mewn perthynas â dysgwyr anabl.
O ran pobl ag anabledd, mae Deddf 2010 yn ailddatgan dyletswyddau blaenorol ynghylch cynllunio hygyrchedd a'r angen i wneud addasiadau rhesymol.
Bu gan ysgolion ac awdurdodau lleol ddyletswydd ers 2002 i ddarparu addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr anabl, yn wreiddiol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac yn awr o dan Ddeddf 2010.
Nodir y dyletswyddau hyn isod.
Addasiadau Rhesymol (Atodlen 13 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010)
Mae Deddf 2010 yn nodi tri gofyniad mewn perthynas ag addasiadau rhesymol:
► Mae'r gofyniad cyntaf yn nodi lle mae darpariaeth, maen prawf neu arfer ysgol yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais.
► Mae'r ail ofyniad yn nodi lle mae nodwedd ffisegol yn rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i osgoi'r anfantais.
► Mae'r trydydd gofyniad yn nodi lle byddai person anabl, oni bai am ddarparu cymorth ategol, yn cael ei roi o dan anfantais sylweddol mewn perthynas â mater perthnasol o'i gymharu â phersonau nad ydynt yn anabl, y dylid cymryd camau rhesymol i ddarparu'r cymorth ategol.
Mae ysgolion yn ddarostyngedig i'r gofyniad cyntaf a'r trydydd gofyniad. Cydymffurfir â'r ail ofyniad trwy ddatblygu cynlluniau hygyrchedd (Gweler isod).
Cynlluniau/Strategaethau Hygyrchedd (Atodlen 10 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010)
Nodir Canllawiau Statudol i awdurdodau lleol ac ysgolion ar gynhyrchu strategaethau a chynlluniau hygyrchedd yn y ddogfen Cynllunio i Gynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion Anabl, Llywodraeth Cymru 2018 (https://www.gov.wales/sites/default/files/publications/2018-04/planning-to-increase-access-to-schools-for-disabled-pupils.pdf).
Mae Atodlen 10 o Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol baratoi cynllun hygyrchedd a rhaid i bob awdurdod lleol baratoi strategaeth hygyrchedd mewn perthynas ag ysgolion y mae'n gorff cyfrifol iddynt. Mae strategaethau hygyrchedd a chynlluniau hygyrchedd yn helpu i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cynnwys yn llawn mewn amgylchedd ysgol.
Mae gwella mynediad i addysg i blant anabl yn golygu ystyried y tair dyletswydd gynllunio sydd hefyd yn ofyniad statudol yn Atodlen 10 Deddf 2010:
► y cwricwlwm a sut mae'n cael ei addysgu;
► hygyrchedd adeiladau ysgol a'u hamgylchedd, gweithgareddau ysgol gan gynnwys teithiau ysgol a chludiant; a
► gwybodaeth a gweithgareddau a ddarperir gan ysgolion a pha mor hawdd yw hi i ddisgyblion anabl a/neu eu rhieni anabl eu deall.
Rhaid i strategaethau a chynlluniau gwmpasu cyfnod o dair blynedd a chael eu hadolygu a'u diwygio yn ôl yr angen, gyda chynlluniau a strategaethau newydd yn cael eu cynhyrchu bob tair blynedd. Dylai cynlluniau nodi amcanion tymor byr, canolig a hir. Wrth baratoi strategaethau a chynlluniau hygyrchedd, rhaid cynnal ymgynghoriad llawn ac effeithiol i nodi gwelliannau priodol gan sicrhau yr ystyrir barn disgyblion anabl a'u rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol priodol.
Rhaid i addasiadau rhesymol i ddarparu ar gyfer disgyblion anabl yn y dyfodol gael eu hymgorffori mewn strategaethau a chynlluniau hygyrchedd - mae angen cynllunio ymlaen llaw a gwella'n barhaus, p'un a yw disgyblion anabl yn mynychu'r ysgolion dan sylw ar hyn o bryd ai peidio.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (CCUHP)
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (https://www.ohchr.org/en/instruments-mechanisms/instruments/convention-rights-persons-disabilities) yw'r cytundeb hawliau dynol rhyngwladol sy'n nodi hawliau dynol pobl anabl. Mae'r cytundeb yn diffinio pobl ag anableddau fel:
'y rhai sydd â namau corfforol, meddyliol, deallusol neu synhwyraidd hirdymor a all, wrth ryngweithio â rhwystrau amrywiol, eu hatal rhag cymryd rhan lawn ac effeithiol mewn cymdeithas ar sail gyfartal ag eraill.'
N.B. Ystyrir bod hyn yn ddiffiniad ffafriol o anabledd gan ei fod yn cyd-fynd â'r Model Cymdeithasol o Anabledd tra ystyrir diffiniad Deddf Cydraddoldeb (2010) yn 'fodel meddygol', gan edrych ar yr hyn sy'n 'anghywir' gyda'r person yn hytrach na'r hyn sydd ei angen ar y person.
Mae CCUHP ac UNCRPD yn ymdrin yn benodol â'r angen i amddiffyn hawliau plant ag anableddau.
Noda Erthygl 7 UNCRPD:
- Rhaid i Bartïon gymryd yr holl fesurau angenrheidiol i sicrhau bod plant ag anableddau yn mwynhau'n llawn yr holl hawliau dynol a'r holl ryddid sylfaenol ar sail gyfartal â phlant eraill.
- Ym mhob gweithred sy'n ymwneud â phlant ag anableddau, lles pennaf y plentyn fydd y brif ystyriaeth.
- Rhaid i Bartïon sicrhau bod gan blant ag anableddau yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ar bob mater sy'n effeithio arnynt, gan roi pwys dyladwy i'w barn yn unol â'u hoedran a'u haeddfedrwydd, ar sail gyfartal â phlant eraill, ac i gael darpariaeth o gymorth anabledd sy'n briodol i oedran i wireddu'r hawl honno.
Erthygl 9 - Hygyrchedd
- Er mwyn galluogi pobl ag anableddau i fyw'n annibynnol a chymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau priodol i sicrhau bod pobl ag anableddau yn cael mynediad, ar sail gyfartal ag eraill, i'r amgylchedd ffisegol, i drafnidiaeth, i wybodaeth a chyfathrebu, gan gynnwys technolegau a systemau gwybodaeth a chyfathrebu, ac i gyfleusterau a gwasanaethau eraill sydd ar agor neu'n cael eu darparu i'r cyhoedd, mewn ardaloedd trefol a gwledig. Bydd y mesurau hyn, a fydd yn cynnwys nodi a dileu rhwystrau i hygyrchedd, yn berthnasol i, ymhlith pethau eraill:
a) Adeiladau, ffyrdd, cludiant a chyfleusterau eraill dan do ac awyr agored, gan gynnwys ysgolion, tai, cyfleusterau meddygol a gweithleoedd;
b) Gwybodaeth, cyfathrebu a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau electronig a gwasanaethau brys.
Erthygl 24 Addysg
Mae Partïon Gwladwriaethau yn cydnabod hawl personau ag anableddau i addysg. Gyda'r bwriad o wireddu'r hawl hon heb wahaniaethu ac ar sail cyfle cyfartal, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau sicrhau system addysg gynhwysol ar bob lefel a dysgu gydol oes a gyfeirir at:
a) Datblygiad llawn potensial dynol ac ymdeimlad o urddas a hunan-werth, a chryfhau parch at hawliau dynol, rhyddid sylfaenol ac amrywiaeth ddynol;
b) Datblygiad gan bobl ag anableddau o'u personoliaeth, eu doniau a'u creadigrwydd, yn ogystal â'u galluoedd meddyliol a chorfforol, i'w llawn botensial;
c) Galluogi pobl ag anableddau i gymryd rhan effeithiol mewn cymdeithas rydd.
Yn yr un modd, mae'r CCUHP, yn Erthygl 23 yn datgan bod gan blant ag anabledd yr hawl i fwynhau 'bywyd llawn a gweddus'. Yn ogystal, mae'r CCUHP yn datgan bod gan bob plentyn hawl i wybodaeth (erthygl 13), addysg (erthyglau 28 a 29) ac i fynegi eu barn (erthygl 12). Mae'r hawliau hyn wedi'u hymgorffori yng Nghyfraith Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Mae'r CCUHP hefyd yn datgan bod gan blant yr hawl i ddefnyddio eu hiaith eu hunain. Iaith gyntaf llawer o blant a phobl ifanc byddar yw Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET)
Fel y nodwyd yn flaenorol, ni fydd gan bob dysgwr anabl ADY. Yn achos y dysgwyr anabl hynny sydd ag ADY, bydd ALNET hefyd yn berthnasol.
Mae Deddf ADY yn gosod ei nod a'i phwrpas trwy bum egwyddor greiddiol:
► Dull gweithredu seiliedig ar hawliau lle mae barn, dymuniadau a theimladau'r person ifanc (a lle bo'n briodol, ei riant) yn ganolog i gynllunio a darparu cymorth.
► Adnabyddiaeth gynnar, ymyrraeth a chynllunio trosglwyddo effeithiol.
► Cydweithio lle mae pawb sy'n gysylltiedig yn gweithio gyda'i gilydd er lles gorau'r person ifanc.
► Addysg gynhwysol sy'n cefnogi cyfranogiad llawn mewn addysg bellach prif ffrwd, lle bynnag y bo'n ymarferol, a dull lleoliad cyfan i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY.
► System ddwyieithog lle mae pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i ddarparu DDdY yn y Gymraeg lle gofynnir am hynny.
Nod Deddf ALNET 2018 yw creu:
► Fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i gefnogi pobl ifanc ag ADY sydd mewn ysgol neu Addysg Bellach (AB).
► Proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro amlasiantaethol sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol.
► System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac i ddatrys pryderon ac apeliadau.
Bydd y system wedi'i thrawsnewid yn:
► Sicrhau bod pob dysgwr ag ADY yn cael ei gefnogi i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni ei lawn botensial;
► Gwella'r gwaith o gynllunio a chyflwyno cymorth i ddysgwyr ag ADY rhwng 0 a 25 oed, gan roi anghenion, barn, dymuniadau a theimladau dysgwyr wrth wraidd y broses;
► Canolbwyntio ar bwysigrwydd adnabod anghenion yn gynnar a rhoi ymyriadau amserol ac effeithiol ar waith sy'n cael eu monitro a'u haddasu i sicrhau eu bod yn cyflenwi'r canlyniadau dymunol.
Dylid nodi hefyd:
Nid oes gan bersonanhawster dysgu neu anabledddim ond oherwydd bod yriaith(neu'r ffurf ar iaith) y mae'n cael ei addysgu ynddi neu y bydd yn cael ei addysgu ynddiyn wahanol i iaith (neu ffurf ar iaith) a ddefnyddir, neu a ddefnyddiwyd, gartref.
Fodd bynnag, cydnabyddir y gall rhai dysgwyr anabl ag ADY fod yn amlieithog ac efallai bod ganddynt hefyd angen Saesneg / Cymraeg fel iaith ychwanegol (SlY/CIY). Gall hyn fod â goblygiadau o ran nodi anawsterau dysgu yn ogystal â strategaethau perthnasol ar gyfer addysgu a dysgu ac ystyriaethau ehangach o ran cyfathrebu â rhieni/gofalwyr a dysgwyr.