Toglo gwelededd dewislen symudol

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Mae amrywiaeth o gymorth bwyd ar gael yn Abertawe i'r rheini mewn angen, o fanciau bwyd a rhannu bwyd i brydau cludfwyd parod, prydau y gallwch eu bwyta wrth y bwrdd a siopau cymunedol.

Mae'r rhan fwyaf o'r banciau bwyd yn gweithredu yn ôl system talebau a/neu atgyfeirio: peidiwch â gadael i hwn eich rhwystro rhag cael help pan mae ei angen arnoch. Efallai y gall yr asiantaethau sy'n gallu'ch helpu i gael taleb neu atgyfeiriad hefyd eich helpu drwy ddarparu cymorth ychwanegol, gan gynnwys cael gafael ar gyngor ar fudd-daliadau a dyledion.

Gall unrhyw un wynebu argyfwng, felly peidiwch â theimlo cywilydd os ydych yn gofyn am help. Mae'r ap 'Hope in Swansea' yn ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i'r help sydd ar gael er mwyn cael gafael ar fwyd ar y diwrnod y mae ei angen arnoch.

Y gwahaniaeth rhwng banciau bwyd a rhannu bwyd

Mae banciau bwyd ar gael fel darpariaeth brys i bobl nad ydynt yn gallu fforddio bwyd. Mae'r mwyafrif o fanciau bwyd yn gweithredu yn ôl system taleb a/neu atgyfeirio.

Mae rhannu bwyd yn ffordd o atal bwyd rhag mynd i wastraff neu i safle tirlenwi, nid yw ar gyfer y rheini sy'n profi diffyg diogeled bwyd yn unig ac mae'n ffordd o gael mynediad at fwyd rhad / am ddim os oes ei angen arnoch neu os ydych am atal gwastraff bwyd. Does dim angen taleb nac atgyfeiriad, ac efallai y gofynnir am gyfraniad tuag at y gost o drefnu'r digwyddiad rhannu bwyd os ydych yn gallu fforddio rhoi rhywbeth.

Rhoddion

Croesewir rhoddion bob tro. Cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol i weld sut gallwch chi helpu.

Safonau hylendid bwyd

Gallwch ddod o hyd i sgoriau hylendid bwyd ar gyfer sefydliadau sy'n darparu bwyd ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Yn agor ffenestr newydd)

Sylwer: Ni chaiff y sefydliadau a restrir, a'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hynny, eu rheoli na'u llywodraethu gan Gyngor Abertawe ac nid oes gan Gyngor Abertawe unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys neu argaeledd y safleoedd hynny.  Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni'n golygu ein bod yn argymell neu'n cefnogi'r sefydliad hwnnw. Nid yw'r Cyngor yn atebol am unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred gan y sefydliadau a restrir.

Map o leoliadau banc bwyd a chymorth bwyd

Rhestr o fanciau bwyd a chymorth bwyd arall

Amserlen banciau bwyd

Am ddarpariaeth bwyd brys, cymerwch gip ar yr amserlen banciau bwyd i weld beth sydd ar gael bob dydd.

Banc Bwyd Gogledd Gŵyr

Ardal Gŵyr yn unig. Dosbarthu parseli bwyd (dydd Gwener), dim gwasanaeth casglu.

Banc bwyd annibynnol SOS Shelters Wales a mwy, Gorseinon

Banc bwyd annibynnol a lleoliad rhannu bwyd ar gyfer Gorseinon a'r ardal gyfagos.

Byddin yr Iachawdwriaeth - Treforys

Eglwys ac elusen Gristnogol yn Nhreforys sy'n darparu banc bwyd a Lle Llesol Abertawe croesawgar.

CIC Canolfan Galw Heibio Blaen-y-maes

Sefydliad cymunedol nid-er-elw yng nghanol Blaen-y-maes yw'r ganolfan galw heibio. Mae'n cynnwys banc bwyd a lleoliad rhannu bwyd.

Canolfan Gymunedol De Pen-lan

Heol Frank, Pen-lan, Abertawe, SA5 7AH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.

Canolfan Gymunedol Gellifedw

Lôn Gwestyn, Gellifedw, Abertawe, SA7 9LD. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.

Canolfan Gymunedol Mayhill

Heol Mayhill, Mayhill, Abertawe, SA1 6TD. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan Gymunedol y Clâs

Heol Longview, y Clâs, Abertawe, SA6 7HH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Canolfan y Bont

Canolfan gymunedol sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a chefnogaeth i gymuned Pontarddulais. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.

Canolfan y Ffenics

Y ganolfan gymunedol ar gyfer Townhill, Mayhill a'r Gors. Gwneud y bryn yn lle cyfoethocach, iachach, hapusach a mwy diogel i fyw ynddo - siop dan yr unto ar gyfer datblygu ein cymuned leol. Cynigir cymorth bwyd trwy'r siop gymunedol.

Cefnogi Ceiswyr Lloches Abertawe

Yn darparu cefnogaeth, pryd poeth a gwersi Saesneg i geiswyr lloches a ffoaduriaid newydd yn Abertawe yn ystod sesiynau galw heibio pythefnosol.

Eglwys Fedyddwyr Mount Zion

Fe'i lleolir yn ardal Bôn-y-maen ac mae'n gartref i Fanc Bwyd Eastside.

Eglwys Gymunedol Bont Elim

Mae Eglwys Gymunedol Bont Elim yn estyn croeso cynnes i bawb, waeth beth bynnag fo'ch cefndir, o ble rydych chi'n dod a beth bynnag rydych chi'n ei gredu. Mae modd rhannu bwyd yn yr eglwys hefyd.

Eglwys Lifepoint

Mae'r eglwys, a leolir yn Uplands, hefyd yn lleoliad Banc Bwyd.

Eglwys Linden

Fe'i lleolir yn West Cross, ac mae'r eglwys yn gartref i Brosiect Cymunedol Red, sy'n cynnal amrywiaeth o brosiectau i bobl ar draws y ddinas. Mae hefyd yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe croesawgar.

Eglwys Parklands

Fe'i lleolir yn Sgeti ac mae'r eglwys yn gartref i Fanc Bwyd Sgeti. Mae hefyd yn Lle Llesol Abertawe.

Eglwys San Steffan, Port Tennant

Wedi'i leoli yn Port Tennant ac yn gartref i 'Community Grocery' Abertawe - pont rhwng banc bwyd ac archfarchnad, sy'n golygu y gall aelodau ddod a siopa ar gyfer y teulu cyfan a thalu llawer llai nag y byddent yn ei dalu mewn archfarchnad.

Eglwys St Catherine, Gorseinon

Mae'r eglwys, a leolir yn ardal Gorseinon, yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe.

Eglwys St Thomas

Eglwys yn ardal St Thomas yn nwyrain y ddinas. Mae'n cynnig pryd cymunedol wythnosol a Lle Llesol Abertawe croesawgar.

Eglwys y Ddinas Abertawe

Mae Eglwys y Ddinas Abertawe'n deulu o bobl o bob oedran a chefndir. Mae'n darparu help ar gyfer pobl mewn angen, gan gynnwys rhannu bwyd.

Eglwys y Santes Fair, Canol Abertawe

Eglwys yng nghanol y ddinas. Mae croeso i bawb. Mae'r eglwys hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe ac mae'n cynnig prydau'n wythnosol.

GROW Cymru (Growing Real Opportunities for Women)

Yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, mentora ac arweiniad i fenywod o bob cefndir ac oed ar draws de Cymru. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth banc bwyd wythnosol.

Goleudy

Elusen tai sy'n helpu i atal digartrefedd, darparu tai a chreu cyfleoedd. Mae hefyd yn darparu oergell gymunedol ym Marina Abertawe.

Hwb Tŷ Fforest

Yn darparu amrywiaeth eang o gymorth ar gyfer pobl ar draws ardal Abertawe, gan gynnwys rhannu bwyd.

Missionaries of Charity of Mother Teresa Trust

Fe'i lleolir yng nghanol y ddinas, ac mae'n darparu prydau wedi'u coginio ar gyfer y rheini sydd mewn angen.

Mosg Abertawe

Fe'i lleolir yng nghanol Abertawe ac mae ganddo gymuned amrywiol ac amlddiwylliannol iawn. Mae'r mosg mwyaf yng Nghymru hefyd yn gartref i fanc bwyd i bobl mewn angen.

Neuadd Eglwys Illtud Sant, Dan-y-graig

Lleoliad Banc Bwyd Abertawe yn ardal St Thomas.

Ogof Adullam yn Eglwys Fethodistaidd Pen-lan

Canolfan galw heibio sy'n cynnig lloches i unigolion sy'n profi digartrefedd a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â darparu pwynt cyswllt ar gyfer y rheini sy'n gadael y carchar a cheiswyr lloches. Gweinir prydau poeth a lluniaeth hefyd.

Tŷ Croeso

Prosiect sy'n canolbwyntio ar y gymuned yng nghanol Clydach, sy'n gartref i gangen Banc Bwyd Abertawe.

Tŷ Matthew

Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe. Darperir prydau twym ar gyfer y rheini sydd mewn angen.

Undod mewn Amrywiaeth

Yn darparu bwyd, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ardal Abertawe.

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE)

Mae'r CEA yn grymuso ac yn cefnogi cymunedau sy'n amrywiol o ran ethnigrwydd. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth dosbarthu banc bwyd ar gyfer y rheini sydd mewn angen.

Zac's Place

Prosiect Cristnogol sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sydd wedi'i leoli yn Neuadd yr Efengyl yng nghanol y ddinas. Mae'n darparu prydau cludfwyd ar gyfer y rheini y mae angen cymorth arnynt.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024