Colli clyw
Gwybodaeth i bobl fyddar a phobl sy'n drwm eu clyw.
Nodyn am derminoleg:
Mae'n bosib y byddwch yn gweld y term 'byddar' wedi'i sillafu gyda neu heb y briflythyren 'B'. Defnyddir llythrennau bras i wahaniaethu rhwng modelau meddygol a diwylliannol o bobl â nam ar y clyw. Mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn diffinio'r gwahaniaeth fel a ganlyn:
'Byddar' (gyda'r briflythyren B) - Rhywun sy'n uniaethu'n gryf o safbwynt diwylliannol â phobl Fyddar eraill, ac Iaith Arwyddion Brydeinig (BSL) yw ei iaith gyntaf neu ei ddewisiaith.
Mae gwahanol fathau o fyddardod. Mae rhai pobl yn cael eu geni'n fyddar a gallai BSL fod eu hiaith gyntaf. Mae rhai pobl wedi colli clyw o ganlyniad i e.e. salwch, cyflwr etifeddol neu henaint.
Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr arbenigol sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli clyw. Maent yn gallu darparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol. Gallwch gael eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan glywedegwr neu gallwch gyfeirio'ch hun neu rywun rydych yn pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau Synhwyraidd.
Mae Gwasanaeth Cyswllt Fideo ar gael yn y Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig i gynorthwyo ymwelwyr byddar sy'n defnyddio IAP (Iaith Arwyddion Prydain). Mae'r gwasanaeth hwn, a gynhelir yn un o'r ystafelloedd cyfarfod, yn darparu cyswllt fideo â dehonglydd IAP. Bydd y dehonglydd yn dweud wrth y staff beth mae'r cwsmer yn sôn amdano fel eu bod yn gallu deall ei ymholiad, yna defnyddio iaith arwyddion i gyfleu ymatebion y staff i'r cwsmer, er mwyn iddynt allu cael sgwrs go iawn..
Gall y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch:
- Budd-daliadau.
- Fformatau cyfathrebu.
- Materion Tai.
- Cyfeirio at Wasanaethau Addysg/Cyflogaeth Oedolion.
- Tocyn bysus.
- Consesiynau rheilffordd a chonsesiynau teithio eraill.
- Cefnogaeth bersonol pan fydd ei hangen.
- Gwybodaeth ar iaith arwyddion, dosbarthaidau darllen gwefusau (lle byddant ar gael).
- Larymau cymunedol (lifelines) a ffonau gyda botymau mawr.
- Asesiadau o anghenion gofalwr.
- Asesiad swyddogaethol.
- Gwybodaeth am Ddehonglwyr BSL Siaradwyr gwefusau a Chyfathrebwyr i bobl Fyddar/Ddall.
Mae gwasanaethau penodol ar gael dim ond os byddwch yn bodloni'r meini prawf cymhwyster. Byddai Rheolwr Gofal yn asesu'ch amgylchiadau a nodi anghenion.
Contact the Sensory Services Team Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd
Gwasanaethau ailsefydlu i bobl sydd wedi colliu clyw
Gellid cynnig y mathau canlynol o wasanaethau i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.
- Rhoi cyfarpar i wella annibyniaeth. Byddai hwn yn cael ei osod gan ein Swyddog Technegol.
- Gwasanaethau therapi galwedigaethol.
- Taliad uniongyrchol, a all eich galluogi i drefnu eich cefnogaeth eich hun, efallai drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol.
- Gofal seibiant.
- Cyfleoedd dydd.
- Gwasanaethau cartref gofal preswyl.
- Cefnogaeth gartref.
Mae gennym ganolfan adnoddau sy'n cynnwys cyfarpar i bobl â nam synhwyraidd gan roi cyfle i dreialu cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.
Cofrestru fel person byddar neu drwm ei glyw
Mae'r Awdurdod yn cadw cofrestr o bobl sydd wedi colli eu clyw.
Mae cofrestru'n F/fyddar neu'n drwm eich clyw yn hollol wirfoddol. Os byddwch yn dewis peidio â chofrestru bydd yr un gwasanaethau ar gael ar eich cyfer.
Pam ddylwn i gofrestru?
Mae'n hwyluso'r broses o dderbyn gwasanaethau a budd-daliadau penodol.
Mae'n caniatáu i'ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr sy'n cynorthwyo eich Awdurdod Lleol wrth gynllunio gwasanaethau ar gyfer chi a phobl F/fyddar eraill yn y dyfodol.