Toglo gwelededd dewislen symudol

Copi o dystysgrifau geni, priodas, partneriaeth sifil a marwolaeth

Gallwch cael tysytysgrifau genedigaethau, marwolaethau, priodasau neu partneriaethau sifil a gafwyd yn Abertawe'n unig.

Sylwer nad oes angen i chi wneud apwyntiad os ydych yn gwneud cais am gopi o dystysgrif ac nid oes rhaid i chi roi rhoi prawf adnabod.

Os cafwyd mabwysiad cyfreithiol, gallwch gael y dystysgrif geni o'r General Register Office (Yn agor ffenestr newydd) yn unig.

Pa wybodaeth y bydd ei hangen arnaf wrth wneud cais am dystysgrif?

Genedigaethau

  • Enw'r person ar adeg yr enedigaeth
  • Dyddiad a lleoliad yr enedigaeth
  • Enw o leiaf un rhiant

Gwneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein a thalu amdani Gwneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein a thalu amdani

Marwolaethau

  • Enw'r person sydd wedi marw
  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Dyddiad geni neu oedran y person sydd wedi marw
  • Unrhyw wybodaeth arall e.e. cyfeiriad diwethaf/swydd/enw'r priod

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif marwolaeth a thalu amdani ar-lein Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif marwolaeth a thalu amdani ar-lein

Priodasau

  • Enwau'r ddau berson yn y briodas
  • Dyddiad a lleoliad y briodas

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif priodas a thalu amdani ar-lein Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif priodas a thalu amdani ar-lein

Partneriaeth sifil

  • Enwau a chyfeiriadau'r ddau berson yn y bartneriaeth sifil
  • Dyddiad a lleoliad y bartneriaeth sifil

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif partneriaeth sifil a thalu amdani ar-lein Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif partneriaeth sifil a thalu amdani ar-lein

 

Sut gallaf wneud cais am dystysgrif, faint bydd yn ei chostio a pha mor hir bydd yn ei chymryd?

Ar-lein

Gallwch archebu tystysgrif ar-lein am ffi o £11.00 y dystysgrif. Bydd y cais yn cael ei brosesu o fewn 15 niwrnod gwaith.  Os ydych yn dewis i gael eich tystysgrif wedi ei bostio byddwn yn ei danfon trwy post ail ddosbarth.

Am ein gwasanaeth flaenoriaeth byddwn yn prosesu'r cais o fewn 24 awr.  Bydd y tystysgrif yn cael ei danfon trwy post dosbarth cyntaf.

Mae'r ffioedd ac amseri brosesu wedi eu gosod gan Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Lloegr a Chymru.

Post

I wneud cais drwy'r post, gallwch anfon llythyr atom sy'n cynnwys yr wybodaeth berthnasol.

£11.00 yw cost pob tystysgrif.  Mae tystysgrifau'n cael ei danfon drwy post ail ddosbarth.  Os hoffech dderbyn eich tystysgrif drwy post dosbarth cyntaf, dylech amgáu amlen hunangyfeiriedig â stamp arni. Gallwch dalu â siec neu archeb bost, yn daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe'.

Fel arfer, bydd ceisiadau drwy'r post eu prosesu o fewn 15 niwrnod gwaith o'u derbyn.

Gwasanaeth blaenoriaeth yr un diwrnod - £35.00 fesul tystysgrif.

Gallwn ond gyflwyno tystysgrifau hanes teulu fel blaenoriaeth os darperir yr union wybodaeth.

Tystysgrif i'w phostio - £11.00 fesul tystysgrif. Fel arfer, prosesir y ceisiadau hyn o fewn 15 niwrnod gwaith.  Bydd tystysgrifau yn cael eu danfon drwy post ail ddosbarth.

Dros y ffôn

Gallwch archebu tystysgrif dros y ffôn am £35.00 fesul tystysgrif. Byddwn yn cwblhau eich ffurflen gais dros y ffôn ac yn prosesu'ch taliad gyda cherdyn debyd neu gredyd.  Bydd y tystysgrif yn cael ei danfon allan drwy post dosbarth cyntaf.

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif partneriaeth sifil a thalu amdani ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif partneriaeth sifil.

Gwneud cais am gopi o dystysgrif geni ar-lein a thalu amdani

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif geni.

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif priodas a thalu amdani ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif priodas.

Cyflwyno cais am gopi o dystysgrif marwolaeth a thalu amdani ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ofyn am gopi o dystysgrif marwolaeth.