Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Storfa - cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin am Y Storfa.

Pam mae'r Storfa'n cael ei chreu?

Mae'n rhan o gynllun parhaus y cyngor i adfywio'r ddinas sy'n werth £1bn. 

Rydym am i'r Storfa fod yn ardal gyffrous newydd yng nghanol y ddinas a fydd yn helpu i wella gwasanaethau yn unol ag anghenion modern, er mwyn cynnig mynediad gwych at wasanaethau hanfodol, rhoi hwb i fusnesau yng nghanol y ddinas trwy annog rhagor o ymwelwyr a chyflwyno defnydd newydd i adeilad mawr yng nghanol y ddinas nad oedd yn cael ei ddefnyddio at ddibenion manwerthu bellach, yn unol â thueddiadau cenedlaethol.

Bydd yr adeilad newydd ger Sgwâr y Castell ar ei newydd wedd, sy'n cael ei wneud yn wyrddach ac yn fwy croesawgar yn unol â dymuniadau'r cyhoedd, ac ychydig funudau ar droed o Arena Swansea Building Society, sy'n lleoliad newydd gwych, ac yn agos iawn at farchnad arobryn Abertawe, sy'n parhau i gael ei gwella.

Beth fydd Y Storfa?

Mae'r gwasanaethau y cadarnhawyd y byddant yn meddiannu'r Storfa maes o law yn cynnwys prif lyfrgell gyhoeddus y ddinas, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau'r cyngor, canolfan gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor, rhaglen Gyrfa Cymru, Abertawe'n Gweithio a Chyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot.

Bydd gwasanaethau eraill sy'n bwriadu symud yno'n cael eu cyhoeddi fel y bo'n berthnasol.

Bydd Y Storfa'n hwb gwasanaethau cymunedol amlbwrpas newydd a fydd yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol, cyfleoedd ar gyfer hunanddatblygiad a thwf, cynhwysiant digidol, lles, undod a chryfder yng nghymunedau amrywiol Abertawe. 

Bydd Y Storfa'n hygyrch i bawb a bydd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau mewn amgylchedd croesawgar lle gallwch gwrdd â phobl eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, gweithgareddau dysgu a grwpiau cefnogi.

Bydd yn darparu llety ystwyth i sefydliadau'r trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a chwmnïau'r sector preifat sy'n cymeradwyo ethos hwb cymunedol.

Bydd lle swyddfa hyblyg, cydweithredol yn cefnogi'r gymuned i ganfod a darparu atebion i wella ansawdd bywyd lleol.

Pryd fydd gwasanaethau'n dechrau gweithredu o'r Storfa?

Rydym yn rhagweld y bydd rhai gwasanaethau'n dechrau gweithredu o'r Storfa o fis Rhagfyr 2025.

Gallai gwasanaethau eraill hefyd symud i'r lleoliad dros yr wythnosau a'r misoedd dilynol. 
Cadwch lygad ar gyfryngau cymdeithasol y cyngor i gael y newyddion diweddaraf gan ddefnyddio #YStorfa.

Mae'r gwaith adeiladu yno'n cael ei arwain gan The Kier Group.

Beth fydd yn digwydd i leoliadau presennol y gwasanaethau sy'n symud i'r Storfa?

Bydd prif lyfrgell y Ganolfan Ddinesig, gan gynnwys y llyfrgell i blant a'r llyfrgell gyfeirio, yn cau ac yn symud i'r Storfa gyda chyfleusterau modern newydd. Mae staff y llyfrgell yn paratoi'n ofalus i symud trwy gau eu gwasanaethau yn y Ganolfan Ddinesig ym mis Hydref 2025. Bydd eu gwasanaethau yn 16 o lyfrgelloedd cymunedol y ddinas, ac ar-lein, yn parhau fel arfer: Mae'r Llyfrgell Ganolog yn symud i'r Storfa - rhagor o wybodaeth

Bydd Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, y mae'r cyngor yn ei gynnal mewn cydweithrediad â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, yn gadael y Ganolfan Ddinesig dros yr wythnosau nesaf ac yn symud i'r Storfa, gan elwa o leoliad mwy canolog a chyfleusterau newydd, mwy modern. 

Bydd gwasanaeth Opsiynau Tai y cyngor, sy'n ceisio atal digartrefedd lle bynnag y bo modd, yn gadael ei leoliad ar y Stryd Fawr ac yn symud i'r Storfa, gan elwa o leoliad mwy canolog. 

Bydd gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau y cyngor yn gadael y Ganolfan Ddinesig ac yn symud i'r Storfa, gan elwa o leoliad mwy canolog a chyfleusterau newydd, mwy modern.

Bydd Canolfan Gwasanaethau i Gwsmeriaid y cyngor yn gadael y Ganolfan Ddinesig ac yn symud i'r Storfa, gan elwa o leoliad mwy canolog a chyfleusterau newydd, mwy modern.

Mae gwasanaethau eraill y cyngor y disgwylir iddynt symud i'r Storfa'n cynnwys Cyllid Cleientiaid, Cyflogadwyedd, Dysgu Gydol Oes, Ymgysylltu â'r Gymuned a Chefnogaeth i Denantiaid.

Sut bydd y cyhoedd yn gallu cael mynediad i'r Storfa?

Mae'r Storfa yng nghanol dinas Abertawe, yn agos at lwybrau bysus, llwybrau cerddwyr, llwybrau beicio, safleoedd tacsis ac mae cannoedd o leoedd parcio ceir ychydig o funudau i ffwrdd ar droed.

Map meysydd parcio

Meysydd parcio canol y ddinas

Gwybodaeth am fysus

Wefan NCP

Pryd fydd Y Storfa ar agor i'r cyhoedd?

Y cynllun ar gyfer yr adeilad yw iddo fod ar agor saith niwrnod yr wythnos fel a ganlyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os bydd hyn yn newid. Gall pob gwasanaeth yn yr adeilad weithredu oriau agor annibynnol.  Bydd staff sy'n gweithio yn yr adeilad yn gallu cael mynediad iddo awr cyn i'r adeilad agor i'r cyhoedd ac am awr ar ôl iddo gau.

Oriau agor Y Storfa i'r cyhoedd:

  • Dydd Llun - 9.00am - 5.30pm
  • Dydd Mawrth - 9.00am - 5.30pm
  • Dydd Mercher - 9.00am - 7.00pm
  • Dydd Iau - 9.00am - 5.30pm
  • Dydd Gwener - 9.00am - 5.30pm
  • Dydd Sadwrn - 10.00am - 4.00pm
  • Dydd Sul - 10.00am - 4.00pm 

A fydd gan Y Storfa doiledau cyhoeddus?

Bydd.

A fydd gan Y Storfa rywle i fwyta ac yfed?

Bydd. Rydym yn bwriadu cael gweithredwr caffi ar waith yn fuan. Byddwn yn cyhoeddi hyn pan fydd y gweithredwr yn cael ei gadarnhau.

Sut bydd y cyngor ac eraill yn paratoi'r Storfa i agor i'r cyhoedd?

Bydd gan bob gwasanaeth sy'n symud i'r Storfa gynlluniau manwl ar gyfer symud i'r lleoliad. Mae hyn yn cynnwys cyfres o sesiynau sefydlu staff cyn y dyddiad agor. Bydd y rhain yn rhoi'r cyfle i staff ymgyfarwyddo â'r adeilad. Byddant yn derbyn cardiau adnabod er mwyn rhoi mynediad iddynt i'r ardaloedd ar gyfer staff yn unig. Mae gan reolwyr yr adeilad arweiniad manwl ar gyfer y Storfa. Bydd yr arweiniad yn cynnwys manylion am ddiogelwch tân, rheoli gwres a goleuadau, trefniadau diogelwch a gwasanaethau cyfleusterau. 

Ble mae'r lleoedd parcio agosaf ar gyfer ymwelwyr anabl?

Ger Y Storfa mae meysydd parcio a reolir gan y cyngor sydd â lleoedd parcio i'r anabl. Mae hefyd leoedd tebyg ar ymyl y ffordd mewn strydoedd cyfagos fel Castle Street, Christina Street, Craddock Street, De-La Beche Street, Stryd Rhydychen a Plymouth Street. Bydd gwasanaeth Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yn parhau i fod ar agor yn orsaf fysus y Cwadrant ar gyfer y rheini sydd am ddefnyddio sgwteri a chadeiriau olwyn â motor a chadeiriau olwyn arferol.

Map meysydd parcio

Chwilio am faes parcio

A fydd yr adeilad yn hygyrch ar gyfer ymwelwyr anabl?

Bydd! Dyluniwyd yr adeilad i fod mor groesawgar â phosib i bawb. Mae mynediad gwastad i'r mynedfeydd ar Stryd Rhydychen a Princess Way - ac oddi arnynt - ac mae lifftiau hygyrch i bob llawr. Mae lleoedd parcio ar y stryd ar gael gerllaw ar gyfer pobl anabl yn ogystal â lleoedd parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas ym meysydd parcio canol y ddinas.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth am Y Storfa?

Y Storfa

Bydd hysbysiadau'n cael eu cyhoeddi yn lleoliadau'r gwasanaethau sy'n bwriadu symud i'r Storfa a bydd eitemau newyddion yn ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio stwnshnod #YStorfa, ar ​​​​​​​dudalennau newyddion gwefan y cyngor ac yn y cyfryngau lleol. 

Mae gan wasanaethau unigol sy'n symud i'r Storfa eu hadnoddau ar-lein eu hunain sy'n cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Maent yn cynnwys:

Sut mae'r Storfa'n cael ei hariannu?

Gan eich cyngor a thrwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Medi 2025