Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae'r Llyfrgell Ganolog yn symud i'r Storfa - rhagor o wybodaeth

Bydd y Llyfrgell Ganolog bresennol yn y Ganolfan Ddinesig yn cau o ddydd Llun 20 Hydref er mwyn rhoi'r cyfle i staff baratoi cyn symud.

Bydd hyn yn cynnwys adleoli mwy na 60,000 o lyfrau a miloedd o eitemau eraill fel mapiau a rholiau microffilm, yn ogystal â sefydlu gwasanaethau a mannau'r llyfrgell yn Y Storfa.

Bydd yr adeilad a adeiladwyd at y diben yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen yn darparu llyfrgell fodern yn ogystal ag archifau, Opsiynau Tai, Gyrfa Cymru, mannau cymunedol, canolfan gyswllt y cyngor a gwasanaethau eraill.

Pryd bydd y llyfrgell newydd yn agor yn Y Storfa? 

Bydd y llyfrgell newydd yn Y Storfa'n agor yn ddiweddarach eleni. Caiff yr union ddyddiad ei gyhoeddi'n fuan. 

Beth sy'n digwydd i safle'r Ganolfan Ddinesig?

Mae safle'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei ailddatblygu gan y cyngor mewn partneriaeth â'r arbenigwyr adfywio, Urban Splash. Byddwch yn gallu rhoi adborth ar gynigion ar gyfer y safle cyn gynted ag y byddant wedi'u cwblhau. 

Beth sy'n digwydd i aelodau'r llyfrgell a benthyciadau yn ystod y broses o symud?

Caiff yr holl aelodau presennol eu trosglwyddo'n awtomatig i'r llyfrgell newydd. Gallwch ddychwelyd eitemau a fenthycwyd i lyfrgelloedd eraill Abertawe wrth i'r llyfrgell fod ar gau.

Ble gallaf fenthyca a dychwelyd llyfrau wrth i'r llyfrgell ganolog fod ar gau?

Gallwch barhau i fenthyca a dychwelyd llyfrau yn unrhyw un o'r 16 o lyfrgelloedd cymunedol eraill yn Abertawe. Bydd gwasanaethau ar-lein Llyfrgelloedd Abertawe'n parhau i fod ar gael 24/7 ar gyfer e-lyfrau, llyfrau llafar a chylchgronau digidol. Byddwn yn rhoi dyddiad dychwelyd hirach ar lyfrau, gallwch eu hadnewyddu ar-lein a benthyca mwy o eitemau. Gallwch hefyd fynd i unrhyw lyfrgell gymunedol arall i ddefnyddio cyfrifiaduron personol ac argraffwyr.

Llyfrgelloedd yn Abertawe

Beth fydd yn digwydd i ddigwyddiadau a grwpiau sy'n cael eu cynnal yn y llyfrgell ganolog ar hyn o bryd?

Bydd digwyddiadau fel amser rhigwm, grwpiau darllen a sesiynau cefnogaeth ddigidol ar gael yn ein llyfrgelloedd cymunedol.

Ble gallaf weld y newyddion diweddaraf?

Caiff gwybodaeth gyfredol am y symudiad, dyddiadau agor a gwasanaethau dros dro ei rhannu ar wefan Cyngor Abertawe a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Llyfrgelloedd Abertawe.  

Beth am wasanaethau eraill y cyngor a fydd yn Y Storfa?

Nid effeithir ar wasanaethau eraill y cyngor a fydd yn Y Storfa am y tro. Rhoddir yr wybodaeth ddiweddaraf i bobl.

Y Storfa

Mae canolfan gwasanaethau cymunedol amlbwrpas newydd o'r enw Y Storfa yn cael ei datblygu yn hen uned BHS ar Stryd Rhydychen.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2025