Cymorth Costau Byw - dyled a phryderon ariannol
Y peth pwysicaf i'w ystyried os ydych yn ei chael hi'n anodd yn ariannol yw a ydych yn derbyn yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Nid yw pawb sy'n gymwys ar eu cyfer yn hawlio budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol: yn aml nid yw pobl sy'n gweithio yn sylweddoli bod ganddynt hawl i fudd-daliadau mewn gwaith; nid yw pobl â phroblemau iechyd hirdymor yn ymwybodol y gallent fod yn gymwys i gael budd-daliadau anabledd; nid yw pobl sy'n derbyn pensiwn y wladwriaeth yn meddwl bod ganddynt hawl i gymorth sy'n dibynnu ar brawf modd hefyd.
Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio beth y gallech fod â hawl iddo.
Gall siarad ag asiantaeth gynghori yn bersonol eich helpu i drafod eich sefyllfa bersonol a gallant hefyd roi cyngor ynghylch p'un a oes gennych hawl i fudd-daliadau a pha gymorth arall y gallech ei gael: Dod o hyd i gyngor a chymorth ar fudd-daliadau
Mae'r elusen Independent Food Aid Network wedi llunio gwefan gyfeirio cam wrth gam, a llyfryn lawrlwythadwy sydd hefyd yn gallu'ch cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol: www.worryingaboutmoney.co.uk/cy/swansea