Nam ar y golwg
Gwybodaeth i bobl sy'n ddall, rhannol ddall neu'n colli eu golwg.
Mae problemau sy'n deillio o nam ar y golwg i'w cael ar sawl ffurf gydag effeithiau gwahanol iawn. Y cyflyrau mwyaf cyffredin yw cataractau, glawcoma a dirywio mannog.
Gall nam ar y golwg gynnwys dallineb, golwg rhannol a golwg gwael.
Mae gan Wasanaethau Cymdeithasol Abertawe Dîm Gwasanaethau Synhwyraidd sy'n cynnwys gweithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli golwg. Gall ddarparu amrywiaeth o wybodaeth a chefnogaeth ymarferol. Efallai y cewch eich cyfeirio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Clinig Llygaid yn Ysbyty Singleton neu gallwch gyfeirio'ch hunan neu rywun rydych yn pryderu amdano drwy gysylltu â Thîm Gwasanaethau Synhwyraidd.
Gall y Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd gynnig cyngor a gwybodaeth ynghylch:
- Cynllun Bathodynnau Glas.
- Larymau cymunedol (lifelines) a ffonau gyda botymau mawr.
- Budd-daliadau lles.
- Tocynnau bws a thrên consesiyno.
- Consesiynau trwydded deledu.
- Llyfrau a phapurau newydd llafar.
- Materion tai.
- Gwasanaethau therapi galwedigaethol.
- Asesiad gofalwr.
- Fformatau cyfathrebu.
- Cymdeithas Cŵn Tywys.
- Sefydliadau gwirfoddol.
Mae gennym ganolfan adnoddau sy'n cynnwys cyfarpar i bobl â nam synhwyraidd gan roi cyfle i dreialu cyfarpar i asesu ei addasrwydd cyn ei brynu gan ddarparwyr.
Yn dibynnu ar eich anghenion, mae'n bosibl y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu gwasanaethau eraill. Gall y rhain ymwneud yn benodol â nam ar y golwg, neu ag anghenion eraill y gallai fod gennych y mae angen i chi gael cefnogaeth ar eu cyfer. Yn gyntaf, bydd rhaid i chi .
Cysylltwch â'r Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd Tîm Gwasanaethau Synhwyraidd
Gwasanaethau Ailsefydlu i bobl â nam ar y golwg
Gellid cynnig y mathau canlynol o wasanaethau i bobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.
- Ymwybyddiaeth o leoliad, teithio'n ddiogel ac yn annibynnol, sy'n cynnwys hyfforddiant a chyfarpar i'ch helpu i symud o amgylch eich cartref, i fynd i'r siopau lleol neu ymhellach.
- Rhaglenni sgiliau byw'n annibynnol a fydd yn eich helpu i barhau i fod yn annibynnol mewn meysydd megis coginio, glanhau a gweithgareddau hamdden.
- Hyfforddiant i gyfathrebu, a allai gynnwys amrywiaeth o fformatau hygyrch megis TG/ hyfforddiant teipio cyffwrdd, Braille, ymwybyddiaeth sylfaenol o gyfrifiaduron a'r defnydd o becynnau arbenigol. Y meini prawf ar gyfer yr hyfforddiant hwn yw eich bod mewn addysg neu gyflogaeth neu'n chwilio am gyflogaeth, yn siopa ar-lein neu'n cadw mewn cysylltiad â'ch teulu mewn amgylchiadau o ynysiad eithafol.
- Hyfforddiant arbenigol i'ch helpu i ddefnyddio'ch golwg i'r graddau gorau posib.
Fel rhan o'ch asesiad, bydd y Swyddog Ailsefydlu'n trafod â chi sut y gallwch ddiwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaeth a ble.
Bydd cyfyngiad amser ar y gwaith y byddwn yn ei wneud gyda chi. I'r rhan fwyaf o bobl mae hyn yn golygu ni fydd angen ein cefnogaeth arnoch unwaith i chi gyflawni eich nod penodol.
Cefnogaeth ar gyfer anghenion eraill
Gan ddibynnu ar eich anghenion a'ch cymhwyster unigol, gall y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig y mathau canlynol o gefnogaeth i chi:
- Taliadau uniongyrchol, a all eich galluogi i drefnu eich cefnogaeth eich hun, efallai drwy gyflogi Cynorthwy-ydd Personol.
- Cefnogaeth gartref os bydd angen help arnoch i allu byw yn eich cartref eich hun.
- Gofal seibiant, sy'n rhoi cyfle i chi a'ch gofalwr gael egwyl o'r drefn ddyddiol.
- Gwasanaethau cartref gofal preswyl.
Rôl yr optegydd a'r offthalmolegydd
Er mwyn darganfod unrhyw broblem bosib ar gam cynnar, mae'n bwysig mynd am brofion golwg rheolaidd. Os bydd eich optegydd yn darganfod problem gyda'ch llygaid a all fod yn broblem iechyd, bydd yn eich cyfeirio at eich meddyg teulu, offthalmolegydd (arbenigwr llygaid) mewn ysbyty lleol neu Optometrydd arbenigol a all gynnig cyngor a chyfarpar o dan y Cynllun Golwg Gwael.
Yn y Clinig Llygaid yn Ysbyty Singleton, mae Swyddog Cyswllt y Clinig Llygaid a all gynnig cefnogaeth a chyngor.
Gall offthalmolegydd gwblhau Tystysgrif Nam ar y Golwg (TNG) gan gategoreiddio eich cyflwr naill ai'n nam ar y golwg neu nam difrifol ar y golwg. Trwy lofnodi'r dystysgrif hon, byddwch wedi cytuno i gopïau ychwanegol gael eu hanfon at eich meddyg teulu a'r awdurdod lleol (y Gwasanaethau Cymdeithasol). Bydd hyn yn eich galluogi i gofrestru y nam ar eich golwg ar gofrestr yr awdurdod lleol ar gyfer pobl â nam ar y golwg, a gedwir yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014).
Cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol
Er mwyn cofrestru'n ddall neu â golwg rhannol bydd angen i chi gael CVI (Tystysgrif Nam ar y Golwg) gan arbenigwr offthalmig.
Ydy cofrestru'n orfodol?
Nac ydy, mae gwneud cais i gofrestru'n ddall neu â golwg rhannol yn hollol wirfoddol. Drwy beidio â chofrestru, ni fydd mynediad i wasanaethau'n cael ei wrthod i chi.
Pam dylwn i gofrestru?
Mae'n haws i chi hygyrchu gwasanaethau a budd-daliadau penodol.
Mae hefyd yn caniatáu i'ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr sy'n cynorthwyo eich Awdurdod Lleol wrth gynllunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.