Toglo gwelededd dewislen symudol

System Rheoli Llyfrgelloedd newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Abertawe - diweddariad

Bydd Llyfrgelloedd Abertawe'n trosglwyddo i system rheoli llyfrgelloedd newydd ym mis Rhagfyr 2024.

Dyma'r system gyfrifiadurol sy'n cadw cofnodion ar gyfer pethau fel gwybodaeth am aelodaeth llyfrgell a chyfrifon cwsmeriaid, ein catalog stoc, cofnodion o fenthyciadau ac archebion ac unrhyw ffioedd a godir mewn perthynas â'r rhain. Mae hefyd yn cefnogi mynediad i rai o'n gwasanaethau digidol fel ap y llyfrgell, y catalog ar-lein, defnydd o gyfrifiaduron personol yn y llyfrgell a rhai gwasanaethau digidol fel e-lyfrau a gwasanaethau a ddefnyddir drwy wefannau.

Bydd y llyfrgell yn trosglwyddo i system newydd rhwng 6 a 13 Rhagfyr.

Bydd angen i chi wybod rhif eich cerdyn llyfrgell er mwyn benthyca llyfrau, a'ch PIN er mwyn defnyddio'r gwasanaethau digidol sydd ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Os nad ydych yn gwybod eich rhif neu'ch PIN, holwch aelod o staff y llyfrgell cyn 6 Rhagfyr.

Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwch yn gallu chwilio drwy'r catalog, newid manylion eich cyfrif na rhoi llyfrau ar gadw.

Wrth i ni drosglwyddo i'n system rheoli llyfrgelloedd newydd, gallwch barhau i gael mynediad am ddim at yr adnoddau gwerthfawr hyn gan ddefnyddio dolenni uniongyrchol: Adnoddau ar-lein y llyfrgell

Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Cwestiynau cyffredin

Pam rydym wedi newid systemau?

Mae'r contract gyda chyflenwr ein system gyfrifiadurol bresennol yn dod i ben ac roedd yn ofynnol i ni ail-dendro ar gyfer y contract hwn. Gwnaed hyn ar draws Cymru gyfan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i hyn bydd cyflenwr gwahanol yn darparu'r System Rheoli Llyfrgelloedd pan ddaw'r contract presennol i ben.

Beth fydd yn digwydd?

  • Bydd y system bresennol yn dod i ben ym mis Rhagfyr
  • Am ychydig ddiwrnodau bydd  llyfrgelloedd yn defnyddio system dros dro'r cyflenwr newydd i reoli'r broses o fenthyca a dychwelyd llyfrau wrth i'r system newydd gael ei rhoi ar waith
  • Yna bydd y llyfrgelloedd yn dechrau defnyddio'r system newydd

Hoffai'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ddiolch i gwsmeriaid am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i ni drosglwyddo systemau. Bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn cael ei diweddaru wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'n cyflenwr newydd a llyfrgelloedd cyhoeddus eraill ledled Cymru a fydd yn rhannu'r un system i gyflwyno'r newid hwn ac yn lleihau'r effaith ar wasanaethau i gwsmeriaid lle bo modd.

A fydd y gwaith trosglwyddo'n cael effaith ar oriau agor y llyfrgell?

Does dim cynlluniau i gau unrhyw lyfrgelloedd er mwyn cwblhau'r gwaith hwn.

A fyddaf yn gallu benthyca llyfrau ac eitemau eraill (fel e-lyfrau ac e-bapurau newydd) wrth i'r system gael ei throsglwyddo?

Byddwch, bydd cwsmeriaid yn gallu parhau i fenthyca llyfrau drwy gydol y cyfnod hwn.

Fodd bynnag, bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell er mwyn benthyg unrhyw lyfrau yn ystod y cyfnod trosglwyddo gan na fydd cyfleuster ar gael i chwilio am eich aelodaeth ac mae angen hwn arnom ar gyfer y system dros dro.

Mae'n bosib y llwyfannau fel Borrowbox yn profi rhywfaint o darfu yn ystod y cyfnod trosglwyddo oherwydd y ffordd y maent yn cysylltu â'r gronfa ddata aelodaeth. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd hyn yn achosi cyn lleied o darfu â phosib.

A fyddaf yn gallu dychwelyd llyfrau ac eitemau eraill yn ystod y cyfnod trosglwyddo?

Byddwch. Ni chodir unrhyw ffïoedd sydd fel arfer yn berthnasol i eitemau hwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo ar ddechrau mis Rhagfyr.

A fyddaf yn gallu adnewyddu llyfrau yn ystod y cyfnod trosgwlyddo?

Os hoffech adnewyddu unrhyw eitemau rydych wedi'u benthyca, bydd yn rhaid i chi eu 'dychwelyd' a'u benthyca unwaith eto. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi fynd â'ch eitemau a'ch cerdyn aelodaeth i'r llyfrgell, neu gallwch wneud hyn dros y ffôn os oes gennych eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell a rhifau côd bar y llyfr wrth law pan fyddwch yn ffonio.

A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy fy aelodaeth llyfrgell?

Efallai y bydd ychydig o darfu wrth ddefnyddio rhai gwasanaethau ar-lein sydd ar gael i gwsmeriaid drwy eu haelodaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gall hyn gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-bapurau newydd ac e-gylchgronau, gwefannau achyddiaeth a chronfeydd data cyfeirio, yn dibynnu ar sut maent yn cysylltu drwy eich aelodaeth llyfrgell. Fodd bynnag, mae'r cyflenwr yn gweithio gyda'r darparwyr trydydd parti hyn i leihau unrhyw darfu.

A fyddaf yn gallu gwneud cais am eitemau yn ystod y cyfnod trosglwyddo?

Na fyddwch. Byddwn yn atal ceisiadau i gadw eitemau dros dro yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Bydd ceisiadau a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw'n cael eu cario drosodd.

A fydd ap y llyfrgell yn gweithio?

Na fydd. Ni fydd ap y llyfrgell, Pori, yn gweithio ar gyfer cwsmeriaid Abertawe, ond bydd ap ar gyfer y system newydd yn ei ddisodli.

A fyddaf yn parhau i dderbyn hysbysiadau i ddweud bod fy llyfrau'n hwyr?

Na fyddwch. Ni fydd hysbysiadau drwy negeseuon testun ac e-byst ar gael dros dro nes y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei roi ar waith i ni unwaith y bydd y system newydd yn fyw. Unwaith y bydd y system newydd ar waith, bydd y negeseuon hyn yn edrych yn wahanol a byddant yn dod o 'gyfeiriadau' gwahanol'.

A fyddaf yn gallu gweld porth y llyfrgell a'r catalog ar-lein a rheoli fy nghyfrif ar-lein yn https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/swan_cy yn ystod y broses drosglwyddo?

Na fyddwch. Ni fydd y porth llyfrgell presennol yn (https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/en_GB/swan_cy) ar gael yn ystod y cyfnod trosglwyddo, felly bydd cyfnod pan nad yw cwsmeriaid yn gallu rheoli eu cyfrif, chwilio yn y catalog, adnewyddu llyfrau neu wneud cais am eitemau ar-lein. Bydd ceisiadau am aelodaeth ar-lein hefyd yn cael eu hatal nes eu bod ar gael drwy'r porth newydd. Gweler hefyd 'A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy fy aelodaeth llyfrgell?'

Bydd y porth newydd yn fyw cyn gynted â phosib ar ôl y cyfnod trosglwyddo a bydd ganddi gyfeiriad newydd a gwedd newydd.

A fydd Wi-Fi y llyfrgell yn dal i weithio?

Bydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y Wi-Fi.

A fyddaf yn gallu defnyddio cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell?

Byddwch. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy'n defnyddio'r cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell cyn y cyfnod trosglwyddo, a bydd trefniadau dros dro ar waith ar gyfer defnyddwyr newydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo.

A fyddaf yn gallu defnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth yn y Llyfrgell Ganolog?

Na fyddwch. Ni fydd peiriannau hunanwasanaeth y Llyfrgell Ganolog ar gael nes bod y cyfnod trosglwyddo wedi'i gwblhau.

Ydy hi'n bosib ymuno â'r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo?

Ydy. Gallwch ddod yn aelod newydd o'r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo drwy ymweld â'r llyfrgell yn bersonol. Yn anffodus ni fydd cwsmeriaid newydd yn gallu ymuno ar-lein nes bod y wefan newydd ar gael.

A fydd unrhyw newidiadau i'r ffordd y caiff fy nata personol ei drin gyda'r System Rheoli Llyfrgelloedd newydd?

Rydym yn newid darparwr gwasanaeth o'r system bresennol sy'n gweithredu ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru, i ddarparwr gwasanaeth sy'n gweithredu yn yr un ffordd, fwy neu lai.

Mae data cofnodion cwsmeriaid yn cael ei ddiogelu dan gytundebau diogelu data priodol a phrotocolau diogeled systemau yn ystod y cyfnod trosglwyddo i'r darparwr gwasanaeth newydd. Bydd datganiadau ar gyfer sut y caiff eich data ei ddiogelu ar gael i gwsmeriaid wrth i'r system newydd gael ei rhoi ar waith.

Beth os oes gennyf ragor o gwestiynau?

Mae staff y llyfrgell wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am y newid hwn:

Adnoddau ar-lein y llyfrgell

Wrth i ni drosglwyddo i'n system rheoli llyfrgelloedd newydd, gallwch barhau i gael mynediad am ddim at yr adnoddau gwerthfawr hyn gan ddefnyddio dolenni uniongyrchol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 28 Tachwedd 2024