Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027
Strategaeth Hygyrchedd - Cyflwyniad
Yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010 a gynhwysir yn Adran 1, bydd y term 'dysgwr anabl' yn cael ei ddefnyddio drwy'r ddogfen hon i gyfeirio at blant a phobl ifanc yn ysgolion Abertawe sydd â nam ac sy'n anabl o'i herwydd.
Mae'r ddogfen hon yn nodi strategaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer cynyddu fesul cam hygyrchedd ysgolion yr awdurdod lleol i ddysgwyr anabl. Bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol a'i ddiweddaru bob tair blynedd. Mae'n bwysig nodi bod y strategaeth hon yn ymwneud yn benodol â gwella mynediad i ddysgwyr anabl fel y'i diffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fel y cyfryw, mae angen gwahaniaethu rhwng anabledd ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae Cyngor Abertawe wedi mabwysiadu'r Model Cymdeithasol o Anabledd sy'n cydnabod mai cymdeithas sy'n creu rhwystrau agweddol a chorfforol sy'n anablu pobl, yn hytrach na'u namau corfforol neu feddyliol nhw eu hunain. Mae'r Model Cymdeithasol yn ddull cadarnhaol o ymdrin ag anabledd, sy'n canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i ecwiti. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddileu pob rhwystr o'r fath i'w wasanaethau.
Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth Addysg yw profiad addysg cynhwysol, teg a chadarnhaol i bob dysgwr anabl. Ategir hyn gan y gred bob pob plentyn yn wahanol, yn dysgu'n wahanol, ac y dylai pob un gael mynediad llawn i'r un cwricwlwm. Ni ddisgwylir i ddysgwyr ag anableddau addasu i strwythur addysg anystwyth. Dylid addasu'r strwythur i sicrhau bod arddulliau ac anghenion dysgu pawb yn cael eu diwallu. Caiff rhwystrau i ddysgu eu dileu er mwyn galluogi pob dysgwr i gymryd rhan lawn yn y cwricwlwm a bywyd yr ysgol, ac i deimlo eu bod yn cael eu gerthfawrogi'n gyfartal.
Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn cydnabod:
- bod dysgwyr anabl yn wynebu heriau penodol sy'n bygwth eu hymyleiddio, gan eu gwthio i gyrion addysg a'u cymuned leol, o gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol ac o fwynhau bywyd cymdeithasol;
- bod gwahaniaethau'n parhau rhwng cyrhaeddiad pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl;
- effaith croestoriadedd, lle mae pobl sy'n rhannu mwy nag un nodwedd warchodedig mewn perygl o anfantais luosog, annhegwch, gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth;
- gall agweddauac ymddygiadau sydd wedi gwreiddio'n ddwfn, yn systemig ac yn wahaniaethol fod yr her fwyaf;
- yr angen am ddull seiliedig ar asedau sy'n gwerthfawrogi gwybodaeth a phrofiad bywyd y plentyn a'r teulu ochr yn ochr ag arbenigedd yr ysgol, lle gellir cyflawni newid cadarnhaol gyda'i gilydd;
- y cysylltiad rhwng anabledd a thlodi;
- bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trosedd.
(Gweler Atodiad 1 am ddata yn ymwneud â'r uchod)
Ein nodau hirdymor:
Mae pob dysgwr anabl yn bwysig, yn bresennol ac yn cael ei werthfawrogi.
Mae pob ysgol eisiau i bob plentyn yn eu dalgylch fod yn eu hysgol ac yn ceisio dileu rhwystrau trwy feddwl 'y tu allan i'r bocs'.
Mae pob pennaeth ac uwch arweinydd yn ysgolion Abertawe yn deall hyn, a hyd yn oed os nad ydynt wedi cyrraedd y sefyllfa hon eto, maent yn meddwl am hygyrchedd i ddysgwyr anabl ym mhob penderfyniad a wnânt.
Mae gan bob dysgwr anabl fynediad teg i bob lleoliad ac amgylchedd dysgu cwbl gynhwysol.
Grŵp ffocws Rhiant-ofalwyr
Nod trosfwaol y strategaeth hon felly yw gwella lefelau presenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad plant a phobl ifanc ag anableddau yn Abertawe. Mae hyn yn cyd-fynd â Gweledigaeth Cyngor Abertawe a'r amcan llesiant cysylltiedig ar gyfer addysg https://www.swansea.gov.uk/corporateimprovementplan
Gweledigaeth Cyngor Abertawe:
Yn 2028 mae Abertawe yn lle sydd â chanol dinas ac economi leol defnydd cymysg ffyniannus. Mae'n fan lle gall pobl ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd, lle gall pawb gyflawni eu potensial a lle mae cymunedau'n gydnerth ac yn gydlynol. Mae Abertawe yn fan lle mae hawliau dynol yn cael eu parchu, a lle mae pobl yn cael eu diogelu rhag niwed a chamfanteisio. Mae'n fan lle mae natur a bioamrywiaeth yn cael eu cynnal a'u gwella, a lle mae allyriadau carbon yn gostwng.
Amcan Llesiant:
Gwella Addysg a Sgiliau - fel bod pawb yn Abertawe yn ennill y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn bywyd.
Mae cydberthynas agos rhwng Cynllun Corfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor a Chynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ac Amcanion Cydraddoldeb. Cyhoeddwyd Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol (https://www.swansea.gov.uk/sep) newydd gan awdurdodau lleol yn 2024. Mae datblygu a chyflawni'r Strategaeth Hygyrchedd hon, i wneud ein hysgolion yn fwy hygyrch i ddysgwyr anabl, yn un o'r blaenoriaethau.
Yn ogystal, wrth wneud penderfyniadau strategol ar flaenoriaethau neu amcanion, rhoddir ystyriaeth i sut y gallai penderfyniadau helpu i leihau'r anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol (https://www.gov.wales/socio-economic-duty-guidance)
Mae datblygiad y Strategaeth Hygyrchedd (y Strategaeth) yn seiliedig ar y dull hawliau dynol a hawliau plantsy'n ymgorffori'r egwyddorion allweddol canlynol:
- Ymgorffori Hawliau Dynol:
Dylai hawliau dynol/plant fod wrth wraidd cynllunio a darparu gwasanaethau. - Cydraddoldeb a Pheidio â gwahaniaethu: Sicrhau bod dysgwyr anabl yn cael cyfle cyfartal i wneud y gorau o'u bywydau a'u doniau, ac nad oes rhaid iddynt ddioddef cyfleoedd bywyd gwael oherwydd gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb yn golygu trin pob dysgwr anabl yn deg a darparu cyfleoedd ac adnoddau iddynt yn unol â'u hanghenion, yn gyfartal ag eraill, a sicrhau eu bod yn gallu datblygu a ffynnu i'w llawn botensial. Mae hybu cydraddoldeb yn golygu cymryd camau i fynd i'r afael â gwahaniaethu.
- Grymuso pobl: gwella galluoedd dysgwyr anabl fel unigolion fel eu bod yn gallu manteisio'n well ar hawliau.
- Cyfranogiad: gwrando ar ddysgwyr anabl a'u rhieni/gofalwyr ac ystyried eu barn yn ofalus.
- Atebolrwydd: Mae angen i benderfyniadau effeithiol fod yn dryloyw a rhoi rhesymau dros benderfyniadau a chamau gweithredu.
Mae datblygiad y strategaeth hon hefyd yn rhoi sylw dyledus i'r pum ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (https://www.gov.wales/well-being-of-future-generations-wales) ac yn benodol, i'r nod llesiant: Cymru fwy cyfartal: Cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a'u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd).
Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cydnabod yr argymhellion yn yr adroddiad Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal Adroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru (https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2018/03/Full-Lives-Equal-Access.pdf) (Comisiynydd Plant Cymru, 2018) (Gweler Atodiad 2).
Datblygwyd y Strategaeth hon drwy wrando ar safbwyntiau: dysgwyr anabl; eu rhiant ofalwyr; dysgwyr yn gyffredinol; swyddogion addysg ac awdurdodau lleol eraill; grwpiau sydd â diddordeb penodol; a'r cyhoedd yn ehangach.Cynhaliwyd ymarfer cwmpasu cychwynnol i lywio drafft cyntaf y Strategaeth. Roedd y Strategaeth ddrafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ehangach cyn ei chyhoeddi'n derfynol.