Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiadau i'r wasg Chwefror 2022

Cynnig bysus am ddim y ddinas yn dychwelyd y penwythnos hwn

Mae cynnig bysus am ddim ein dinas yn dychwelyd ar gyfer penwythnosau hir hanner tymor mis Chwefror.

Oes newydd i hwb cymunedol poblogaidd Abertawe

Mae oes newydd ar fin dechrau ar gyfer cyfleuster cymunedol allweddol yng Nghwm Tawe.

Y Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer cyllideb fwyaf erioed y cyngor

Mae cynlluniau i roi degau o filiynau o bunnoedd o gyllid ychwanegol i wasanaethau Cyngor Abertawe sy'n cyffwrdd â bywydau pobl leol bob dydd wedi'u cymeradwyo gan Gabinet yr awdurdod.

Buddsoddiad mawr ar y gweill ar gyfer tirnod yng nghanol y ddinas

Bydd gerddi Sgwâr y Castell, ysgolion y ddinas a chyfleusterau cymunedol ar draws Abertawe yn destun buddsoddiad mawr yn y 12 mis nesaf.

Gallai'r cyngor fabwysiadu isafswm cyflog staff uwchben y cyflog byw gwirioneddol

Gallai Cyngor Abertawe ddod y cyngor cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu isafswm cyflog staff o £10 yr awr.

Nodweddion newydd wedi'u hychwanegu at barc arfordirol newydd Abertawe

Mae gwyrddni, meinciau, ardaloedd chwarae meddal a chyfleusterau eraill bellach wedi'u cyflwyno ym mharc arfordirol newydd Abertawe.

Y ddinas yn parhau i chwifio'r faner ar gyfer diogelwch gyda'r hwyr

Mae bywyd nos Abertawe'n parhau i chwifio'r faner borffor dros y ddinas am yr wythfed flwyddyn yn olynol.

Cymunedau'n dathlu ardaloedd chwarae newydd

Mae dwy gymuned yn Abertawe wedi bod yn mwynhau trît hanner tymor arbennig diolch i gynllun £5m y cyngor i greu neu wella ardaloedd chwarae'r ddinas.

Mae gŵyl ddeuddydd yn dod i Abertawe gyda rhai pen-cogyddion enwog, cerddoriaeth fyw a llawer o hwyl

Bydd Gŵyl Croeso'n codi hwyliau pawb yng nghanol y ddinas gyda'i rhaglen o adloniant amrywiol.

Fideo newydd yn eich tywys o gwmpas Arena Abertawe

Mae fideo newydd yn dangos sut olwg sydd ar Arena Abertawe, sydd â lle i 3,500 o bobl, wrth i'r lleoliad trawiadol gynnal digwyddiadau prawf allweddol yr wythnos hon.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i hawlio grant tanwydd gaeaf gwerth £200

Mae miloedd o deuluoedd ar draws y ddinas wedi elwa o grant tanwydd gaeaf annisgwyl gwerth £200 sydd ar gael i'w helpu i ymdopi â chost prisiau cynyddol.

Heno ac yn diwrnodau sy'n dod byddwn yn goleuo Neuadd y Ddinas yn las a melyn, lliwiau cenedlaethol gwlad Wcráin.

Bydd yr Hysbysiad o Gynnig ar y cyd isod, a gytunwyd gan grŵp arweinwyr gwleidyddol Cyngor Abertawe, yn cael ei gyflwyno i'r cyngor ar 3 Mawrth i'w gymeradwyo.
Close Dewis iaith