Toglo gwelededd dewislen symudol

Dewch o hyd i gartref

Mae nifer o wahanol opsiynau a mathau o dai ar gael os ydych chi'n chwilio am gartref.

Gwybodaeth am dai a thenantiaethau'r cyngor

Mae tai awdurdod lleol neu dai cyngor yn llety tymor hir, cost isel. Bydd rhaid i chi gyflwyno cais i ymuno â'n cofrestr anghenion tai.

Cymdeithasau tai

Landlordiaid cymdeithasol sy'n debyg i'r Cyngor yw cymdeithasau tai ac maent yn cynnig tai tymor hir ac am gost gymharol isel mewn sawl ardal ledled Abertawe.

Byw'n annibynnol (tai lloches)

Bydd llety byw'n annibynnol yn darparu eiddo hunangynhwysol i chi i'ch galluogi i barhau i fyw'n annibynnol, ond gyda warden dynodedig y gallwch gysylltu ag ef drwy system intercom heb adael yr eiddo.

Cartrefi â chymorth

Os oes angen cefnogaeth weddol uchel arnoch er mwyn byw yn eich eiddo'ch hunan, efallai y bydd cartrefi â chymorth yn fwy addas i chi am y tro na byw ar eich pen eich hunan.

Tai wedi'u haddasu

Mae cymorth ar gael er mwyn addasu eich llety presennol, neu i ddod o hyd i lety addas newydd os ydych chi'n hŷn neu os oes gennych anabledd.

Tai rhentu preifat

Mae'r galw am lety gan y cyngor a chymdeithasau tai yn drwm ac mae'r amserau aros am gartrefi mewn sawl ardal yn hir iawn. Felly, byddai'n syniad i chi ystyried rhentu yn y sector preifat.

Perchentyaeth cost isel a pherchnogaeth a rennir

Mae cynlluniau perchentyaeth cost isel a pherchnogaeth a rennir yn rhoi'r cyfle i chi brynu eich cartref eich hun am gost is.

Tai fforddiadwy

Cartrefi sydd ar gael i'w rhentu neu eu prynu am brisiau is na phrisiau'r farchnad.

Trosglwyddo a chyfnewid cartref - tenantiaid y cyngor

Gallwch drosglwyddo i dai eraill y cyngor neu gyfnewid cartref os ydych am symud tŷ.

Mewn perygl o golli'ch cartref

Os ydych yn poeni am fod yn ddigartref neu rydych ar fin colli'ch cartref, cysylltwch â'n tîm Opsiynau Tai cyn gynted â phosib fel y gallwn geisio eich helpu i'ch cadw yn eich llety presennol neu ddod o hyd i rywle newydd i chi.
Close Dewis iaith