Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Blwyddyn 7 - Polisïau derbyn a meini prawf gorymgeisio

I gael manylion llawn am bolisïau derbyn Abertawe cyfeiriwch at dudalennau: www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbyn. Mae'r meini prawf gordanysgrifio ar gyfer ysgolion Abertawe hy pob ysgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir fel a ganlyn: 

Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol:

  1. Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth** 
  3. Plant y mae ganddynt frawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sy'n mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn***. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**  
  4. Plant sy'n mynd i ysgol gynradd bartner ddynodedig ond sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol honno. Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle yn yr ysgol uwchradd gysylltiedig.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**  
  5. Plant eraill nad yw meini prawf 1 i 4 yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael) yn cael blaenoriaeth**  

*Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter.

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.).