Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol - Uwchradd

Os dymunwch i'r plentyn fynychu Ysgol Gyfun Babyddol yr Esgob Vaughan, dyrennir lleoedd gan ddefnyddio meini prawf y mae corff llywodraethu'r ysgol wedi cytuno arnynt. Ceir y meini prawf hyn ar www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynEsgobVaughan. Dylech wneud cais ar-lein o hyd gan ddefnyddio'r amserlen uchod, ac argymhellir eich bod hefyd yn gwneud ail a thrydydd dewis rhag ofn na fydd Ysgol Gyfun Babyddol yr Esgob Vaughan yn gallu cynnig lle i'ch plentyn.