Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Gwybodaeth bwysig i'w hystyried cyn gwneud cais

Dewis lle ysgol ar gyfer mis Medi 2024 (Derbyn a Blwyddyn 7)

Mae'r rhan fwyaf o blant yn mynychu eu hysgol ddalgylch (yr ysgol hon fel arfer, ond nid bob amser, yw'r ysgol agosaf at eich cartref). Gallwch, os dymunwch, wneud cais i ysgol arall o'ch dewis.

Peidiwch â thybio eich bod mewn dalgylch oherwydd eich bod yn byw yn agos at ysgol. E-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk i wirio'ch ysgol ddalgylch.

Rhoddwyd newidiadau i ddalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg ar waith ym mis Medi 2021 ac mae'n bosib bod yr ysgol ddalgylch ar gyfer eich cyfeiriad cartref wedi newid. I wirio'r ysgol ddalgylch cyfrwng Cymraeg ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, e-bostiwch derbyniadau@abertawe.gov.uk.

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.

Mae 62 o ysgolion cynradd Saesneg ac 11 ysgol uwchradd Saesneg yn Abertawe. Mae 10 ysgol gynradd Gymraeg a 2 ysgol uwchradd Gymraeg yn Abertawe. Mae 5 ysgol gynradd (eglwys) a gynorthwyir yn wirfoddol yn Abertawe. Mae un ohonynt yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru a'r pedair arall yn ysgolion Catholig. Mae un ysgol gyfun Gatholig hefyd. Corff Llywodraethu'r ysgol sy'n gyfrifol am dderbyniadau i ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol. Ceir manylion ynghylch sut mae ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol yn derbyn eu disgyblion yn tudalennau: www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynGynorthwyirWirfoddol

Information about education services in Swansea yn dangos yr ysgolion cynradd partner sy'n gysylltiedig â phob ysgol uwchradd , er nad ydynt yn mynychu ysgol gynradd bartner yn sicrhau lle yn yr ysgol uwchradd cysylltiedig.  Mae gwybodaeth fanwl am bob ysgol ar gael gan yr ysgol unigol. Mae'n bosib yr hoffech ymweld ag ysgolion gwahanol cyn penderfynu ar ba ysgol i anfon eich plentyn iddi. I wneud hyn, gwnewch apwyntiad gyda'r pennaeth yn gyntaf. Gallwch hefyd gael copi o brosbectws yr ysgol am ddim gan yr ysgol a bydd hwn yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth i chi ynghylch yr ysgol, er enghraifft lles disgyblion, gwisg ysgol a chlybiau ar ôl ysgol. Mae gwefannau ysgolion hefyd yn ffynonellau gwybodaeth defnyddiol ac mae gwefan Llywodraeth Cymru, Fy Ysgol Leol www.llyw.cymru/fy-ysgol-leol-canllaw yn cyhoeddi data ac adroddiadau am yr holl ysgolion yng Nghymru.

Mae enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn yr holl ysgolion yn tudalennau www.abertawe.gov.uk/CyswlltYrYsgol.

Byddwn yn ceisio bodloni dymuniad rhieni, fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol:

  • Nad yw byw yn y dalgylch yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
  • Nid yw cael brawd neu chwaer o oedran ysgol statudol sydd eisoes yn mynychu'r ysgol yn gwarnatu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
  • Nid yw mynychu'r dosbarth meithrin mewn ysgol gynradd yn rhoi hawl mynediad awtomatig i'ch plentyn i'r dosbarth derbyn ac nid yw'n gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol.
  • Nid yw mynychu ysgol gynradd bartner yn gwarantu lle i'ch plentyn yn yr ysgol uwchardd gysylltiedig.

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus.

Pa gyfeiriad y dylwn ei ddefnyddio?

Rhaid mai cyfeiriad parhaol y plentyn yw'r cyfeiriad ar y ffurflen gais. Ym mhob achos, bydd rhaid darparu tystiolaeth o gyfeiriad preswyl parhaol y plentyn ar adeg gwneud y cais os gofynnir amdani. Efallai bydd yr awdurdod lleol yn gofyn am gadarnhad o gyfeiriad eich cartref, yn enwedig yn achos ysgol lle mae gormod o bobl wedi gwneud cais am le yn y grŵp blwyddyn. Mae cyfeiriad y cartref yn bwysig iawn gan fod lleoedd ysgol yn cael eu dyrannu ar sail cyfeiriad cartref pob plentyn. Ystyrir mai cyfeiriad y plentyn yw'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser gyda'i rieni neu ei ofalwyr.

Caiff unrhyw le a gymeradwywyd ar sail preswylfa ei ddiddymuos nad yw'r disgybl bellach yn byw'n barhaol yn y cyfeiriad ar ddechrau'r tymor ysgol y mae'r cais yn cyfeirio ato. Ystyrir mai cyfeiriad y cartref yw prif breswylfa'r plentyn a'r rhiant, a'u cartref gwirioneddol h.y. lle maent yn byw fel arfer ac yn rheolaidd. Os yw plentyn yn byw gyda ffrindiau neu berthnasau (am resymau eraill ar wahân i warcheidwadaeth), ni chaiff cyfeiriad y ffrindiau na'r perthnasau ei ystyried at ddibenion dyrannu lle. I blant teuluoedd sy'n byw mewn dau gyfeiriad am fod y rhieni'n byw ar wahân yn barhaol, ystyrir mai'r cyfeiriad lle mae'r plentyn yn treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos ysgol yw prif gyfeiriad y plentyn wrth ystyried cais am le mewn ysgol. Efallai gofynnir am dystiolaeth o drefniadau. Y prif gyfeiriad preswylio'n unig a ddefnyddir i ddyrannu lleoedd.  Ni ellir defnyddio cyfeiriadau sy'n cyfyngu ar deiliadaeth, megis cabanau gwyliau a charafannau mewn parciau gwyliau â chyfyngiadau tymhorol, fel cyfeiriad parhaol.

Mae'r ffurflen ar-lein yn gofyn i chi gynnwys eich cyfeirnod Treth y Cyngor. Os methir gwneud hyn, bydd angen i'r awdurdod lleol wirio'r wybodaeth hon.  Bydd cyflenwi rhifau cyfeirnod y dreth gyngor neu ddefnyddio cyfeiriadau teidiau a neiniau, perthnasau eraill, ffrindiau teuluol neu fusnesau yn cael ei weld fel gwybodaeth dwyllodrus, gamarweiniol neu anghywir a gallai arwain at y lle yn eich dewis ysgol yn cael ei dynnu yn ôl.  Os na allwch ddarparu gwybodaeth Treth y Cyngor, gallai fod angen prawf arall o breswyliaeth.

Ni chaiff cyfeiriad dros dro ei ddefnyddio at ddibenion dyrannu lle ond nid yw'n eich atal rhag cyflwyno cais i ysgol. Os nad oes gennych gyfeiriad parhaol, dylech gysylltu â'r Tîm Ysgolion a Llywodraethwyr am gyngor ychwanegol ar gwblhau'r ffurflen. Ceir manylion dogfennau derbyniol isod

Prawf preswylio - dogfennau derbyniol (rhaid i ddogfennau fod yn ddiweddar - o fewn y 3 mis diwethaf)

  • Trwydded gyrru / polisi yswiriant car
  • Dogfen talu morgais / cytunedb tenantiaeth
  • Bil nwy / trydan neu gyfleustod arall a dalwyd yn ddiweddar
  • Bil cerdyn credyd / cerdyn siop a dalwyd yn ddiweddar.

Yr Awdurdod Lleol yw'r awdurdod derbyn, ac mae'n rhaid ei hysbysu ynghylch unrhyw newid cyfeiriad yn ystod y weithdrefn dderbyn.

Ni ellir dyrannu lleoedd ar sail cyfeiriad a fwriedir yn y dyfodol, oni ellir cadarnhau symud tŷ trwy brawf ffurfiol bod contractau wedi cael eu cyfnewid neu fod cytundeb tenantiaeth chwe mis ar y lleiaf wedi cael ei lofnodi. Ni chaiff newid cyfeiriad oherwydd symud i fyw gydag aelodau'r teulu neu ffrindiau ei ystyried nes bod y symud wedi digwydd a bod prawf preswylio priodol wedi cael ei dderbyn. Hefyd efallai bydd prawf i ddangos eich bod wedi symud o'r cyfeiriad blaenorol yn ofynnol e.e. prawf bod contractau wedi cael eu cyfnewid, cytundeb tenantiaeth sy'n dangos y dyddiad pan ddaw'r denantiaeth i ben, rhybudd o fwriad i adael gan y landlord neu hysbysiad adfeddiannu. Derbynnir cyfeiriad personél lluoedd arfog y DU os caiff llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n cadarnhau dyddiad dychwelyd pendant ac sy'n rhoi cyfeiriad newydd, ei anfon gyda'r ffurflen gais. Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i geisio tystiolaeth ddogfennol ychwanegol i gefnogi hawl preswylio a allai gynnwys cysylltu â'r gwerthwr tai, y cyfreithiwr, y landlord neu'r gweithiwr proffesiynol perthnasol.

Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i gysylltu ag adrannau Awdurdodau Lleol eraill neu sefydliadau neu unigolion eraill i ddilysu'r manylion a gyflwynwyd ar ffurflenni cais derbyniadau.

Os wyf yn byw yn Ninas a Sir Abertawe, a all fy mhlentyn fynd i ysgol y tu allan i Abertawe?

Os ydych yn dymuno anfon eich plentyn i ysgol y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe, dylech gysylltu ag adran addysg yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am dderbyniadau i'r ysgol.  Ni fydd Cyngor Abertawe fel arfer yn darparu cludiant nac yn gwneud unrhyw gyfraniad tuag at gostau cludiant disgyblion sy'n mynd i ysgol y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe.   Ni fydd yr Adran Addysg yn cyfrannu tuag at gostau cludiant i ddisgyblion fynychuysgolion arbenigol e.e. Ysgolion Drama a Dawns.

Os wyf yn byw y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe a all fy mhlentyn fynd i ysgol yn Abertawe?

Gall plant sy'n byw y tu allan i ddinas a Sir Abertawe wneud cais am le mewn ysgol yn Abertawe.  Os ydych yn gwneud cais am le yn y Derbyn neu Blwyddyn 7 ar gyfer Medi 2024, cyfeiriwch at y meini prawf derbyn a nodir ar dudalennau: www.abertawe.gov.uk/TrefniadauDerbyn

Rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais hefyd gyda'ch awdurdod lleol eich hun (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich Treth Cyngor) gan os nad ydym yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol (ion) yn Abertawe yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ni fyddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.  Bydd plant rhieni sy'n byw y tu allan i Ddinas a Sir Abertawe yn gallu cael addysg amser llawn yn ysgolion Dinas a Sir Abertawe os oes lleoedd ar gael. Os nad oes lleoedd ar gael, mae gan rieni'r hawl i apelio yn yr un modd â phlant rhieni sy'n byw yn Abertawe. Dylech ddilyn y prosesau cais perthnasol a nodir yn y ddogfen hon.  

Plant Personél Gwasanaeth y DU a Gweision y Goron

Gellir gwneud ceisiadau ysgol heb gyfeiriad wedi'i gadarnhau yn Abertawe. Os gwneir cais cyn y flwyddyn ysgol sy'n agosáu, dylai gael llythyr swyddogol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn neu'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn datgan dyddiad dychwelyd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â threfniadau derbyn yr ALl.

Ceisiadau gan blant o dramor

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae gan blant sy'n cyrraedd o dramor yr hawl i fynychu ysgolion yng Nghymru a ariennir gan y wladwriaeth. Fodd bynnag, nid oes gan y plant canlynol hawl i gael addysg wladol:

  • plant o wledydd nad ydynt yn Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) sydd yma fel ymwelwyr tymor byr - y rhain yw plant sy'n byw dramor ond sydd wedi cael eu derbyn i'r DU am ymweliad byr (er enghraifft fel twristiaid neu i ymweld â pherthnasau), ac i beidio ag astudio.
  • plant o wledydd nad ydynt yn yr AEE sydd â chaniatâd i astudio yn y DU - caniateir i'r plant hyn astudio yn Lloegr ar y sail eu bod yn mynychu ysgol annibynnol, sy'n talu ffioedd.

Ni wrthodir ceisiadau dim ond oherwydd amheuon am statws mewnfudo plentyn. Fodd bynnag, gellir gofyn am gyngor gan y Swyddfa Gartref i wirio hawl plentyn i addysg a ariennir gan y wladwriaeth.