Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Gwneud cais am le ysgol yng nghanol y flwyddyn (ysgolion cynradd ac uwchradd)

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod y gall symud o un ysgol i ysgol arall yn nghanol tymor neu yn ystod blwyddyn ysgol fod yn arbennig o anodd i rai disgyblion a'u teuluoedd. Efallai bydd amrywiaeth o resymau gennych dros deimlo mai symud yng nghanol y flwyddyn i ysgol newydd fyddai'r opsiwn gorau i'ch plentyn.

Cyn i chi benderfynu gwneud cais am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, am resymau ac eithrio symud tŷ, dylech ystyried eich opsiynau'n ofalus iawn a thrafod ein rhesymau ac unrhyw faterion gyda phennaeth ysgol bresennol eich plentyn. Nid yw newid ysgol bob amser yn datrys problem, ac mewn rhai amgylchiadau, gall symud beri anawsterau, yn enwedig lle bydd disgybl hanner ffordd drwy astudiaethau arholiadau h.y. yn ystod Blwyddyn 10 ac 11.

Gellir datrys llawer o faterion yn llwyddiannus heb orfod newid ysgol. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried y canlynol cyn i chi benderfynu a'i symud ysgol yw'r opsiwn gorau i'ch plentyn:

  • Ydych chi dweud wrth yr ysgol am unrhyw broblem arwyddocaol sydd gan eich plentyn? Bydd hyn yn caniatáu iddi archwilio'r mater a cheisio datrys yr anawsterau.
  • Ydych chi wedi gwneud digon o ymchwil eich hun ac a ydych yn hyderus y gall yr ysgol newydd ddiwallu anghenion penodol eich plentyn?
  • A yw'r ysgol newydd yn gallu cynnig y dewis o bynciau a chyrsiau y mae eich plentyn wedi bod yn eu hastudio? Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 sy'n dewis eu hopsiynau o ran pynciau TGAU ac yn fwy felly i'r rheini sydd am symud ym mlynyddoedd 10 ac 11. Wedi i'r cyrsiau TGAU ddechrau nid yw bob amser yn bosib parhau i astudio'r un ystod o bynciau mewn ysgol arall. Gallai hyn effeithio ar nifer yr arholiadau TGAU y llwyddir ynddynt y bydd modd eu cyflawni ar ôl symud ysgol. Mae posibilrwydd hefyd, hyd yn oed os yw'r ysgol newydd yn cynnig y cyrsiau gofynnol, efallai na fydd mewn sefyllfa i gynnig lle i'ch plentyn os yw'r cyrsiau'n llawn. Gallai hyn fod yn arbennig o broblemus mewn pynciau ymarferol megis arlwyo, adeiladu neu gyfrifiadura sy'n dibynnu ar nifer arbennig o orsafoedd gwaith fesul disgybl.
  • Ydych chi wedi ystyried sut bydd eich plentyn yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol newydd bob dydd?
  • A yw'r amser y mae ei angen ar eich plentyn i addasu i amgylchedd newydd, gwneud ffrindiau newydd a chyfarwyddo ag arferion newydd at ei gilydd yn werth yr holl dryblith sy'n gysylltiedig â symud ysgol?

Os, ar ôl ystyried y pwyntiau uchod, ydych chi'n dymuno bwrw ymlaen i symud eich plentyn i ysgol arall, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Fe'ch gwahoddir i restru hyd at 3 ysgol mewn trefn blaenoriaeth, a chwblhau pob rhan yn llawn gyda manylion perthnasol.  Os yw eich dewis cyntaf wedi'i ordanysgrifio ac nad ydym yn gallu neilltuo lle i'ch plentyn byddwn yn ystyried eich ail ac yna eich trydydd dewis.

Bydd meini prawf derbyn arferol yn berthnasol gyda phol cais.

Os ydych yn dymuno i'ch plentyn symud o ysgol cyfrwng Saesneg i ysgol cyfrwng Cymraeg, mae cymorth ar gael iddynt gynyddu eu sgiliau Cymraeg er mwyn gallu trosglwyddo i leoliad iaith wahanol.  Am fwy o wybodaeth ewch i www.abertawe.gov.uk/addysgGymraegynAbertawe neu e-bostiwch addysg@abertawe.gov.uk

Rydym yn eich cynghori'n gryf i wneud cais hefyd gyda'ch awdurdod lleol eich hun (yr awdurdod lleol yr ydych yn talu eich Treth Cyngor) gan os nad ydym yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol (ion) yn Abertawe yr ydych wedi gwneud cais amdanynt ni fyddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol arall yn Abertawe.

Os ydych yn symud i ardal yn ystod y flwyddyn ysgol neu am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol arall, efallai y byddwch am drefnu ymweld â'r ysgol arfaethedig i drafod y symud a'r opsiynau sydd ar gael.

Os ydych yn penderfynu bwrw ymlaen â'r trosglwyddo, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd i'r Tîm Derbyniadau yn y Ganolfan Ddinesig.

Gellir cael gafael ar ffurflen gais yn y ffyrdd canlynol:

  • Lawrlwytho ffurflen o'n gwefan - dyma'r opsiwn cyflymaf: www.abertawe.gov.uk/trosglwyddo
  • Gofyn i'r ysgol yr hoffech i'ch plentyn ei mynychu am ffurflen.
  • Ymweld â'r Ganolfan Gyswllt yn y Ganolfan Ddinesig, Abertawe.
  • E-bostio derbyniadau@abertawe.gov.uk i ofyn am ffurflen.
  • Ffonio'r Tîm Derbyniadau yn y Ganolfan Ddinesig. i ofyn am ffurflen drwy'r post.

Os oes gennych fwy nag un plentyn sydd angen lle mewn ysgol, llenwch gais ar wahân ar gyfer pob plentyn.

Mae ffurflenni cais yn cael eu prosesu yn nhrefn dyddiad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag sydd gyntaf) ar ôl i'r Awdurdod Lleol dderbyn y cais. Os oes lle yn y grŵp blwyddyn priodol, rhoddir lle i'ch plentyn. Os yw'r grŵp blwyddyn yn llawn, h.y. maent wedi derbyn hyd at eu rhif derbyn (AN) yna cysylltir â chi yn ysgrifenedig a dywedir wrthych nad yw'r Awdurdod Lleol yn gallu rhoi lle i'ch plentyn. Byddwch yn cael yr opsiwn i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â dyfarnu lle yn yr ysgol a ddewiswyd. Anfonir manylion ar sut i apelio gyda'r llythyr. Os na chynigir lle i chi oherwydd bod yr ysgol rydych chi'n gwneud cais amdani yn llawn yna bydd enw'ch plentyn yn cael ei roi ar y rhestr aros a'i gadw ar y rhestr am weddill y flwyddyn academaidd. Os daw unrhyw leoedd ar gael tra bydd enw eich plentyn ar y rhestr aros yna cynigir y lle i blant gan ddefnyddio'r meini prawf gordanysgrifio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r broses dderbyn, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau yn y Ganolfan Ddinesig: derbyniadau@abertawe.gov.uk

Os yw eich plentyn ar y rhestr aros, cofiwch y gall ei sefyllfa newid oherwydd gall ceisiadau sydd â mwy o flaenoriaeth dan y meini prawf.