Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Derbyn - Polisïau derbyn a meini prawf goralw

I gael manylion llawn polisiau derbyn Abertawe cyfeiriwch at dudalennau: www.swansea.gov.uk/schooladmissionarrangements. Mae'r meini prawf gor-alw ar gyfer ysgolion Abertawe hy pob sgol ar wahân i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir fel a ganlyn:
 
Os cafwyd mwy o geisiadau mewn ysgol na'r lleoedd sydd ar gael, bydd y drefn flaenoriaeth ganlynol yn berthnasol: 

  1. Plant y mae'r Awdurdod Lleol yn gofalu amdanynt, h.y. Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal*. 
  2. Plant sy'n byw yn nalgylch penodol yr ysgol. Ni ellir gwarantu lle yn y dalgylch.  Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.** 
  3. Plant y mae eu brawd neu eu chwaer yn mynd i'r ysgol ar adeg eu derbyn.*** Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf at yr ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.** 
  4. Plant eraill y gwnaed cais am le drostynt nad yw meini prawf 1 i 3 uchod yn berthnasol iddynt. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd, caiff y lleoedd eu dyrannu yn ôl pellter, gyda'r rhai sy'n byw agosaf i'r ysgol (y daith gerdded fyrraf) yn cael blaenoriaeth.** 

* Plant sy'n Derbyn Gofal (PDG), neu a oedd yn arfer derbyn gofal - mae plentyn sy'n derbyn gofal yn cyfeirio at blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn Nghymru neu Loegr, (yn ôl diffiniad Adran 22 Deddf Plant 1989 ac Adran 74 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant [Cymru] 2014) ar yr adeg y cyflwynir cais i ysgol ac y mae'r awdurdod lleol wedi cadarnhau y bydd yn parhau i dderbyn gofal pan fydd yn cael mynediad i'r ysgol. Plant a oedd yn arfer derbyn gofal: plant nad ydynt yn derbyn gofal bellach gan eu bod wedi cael eu mabwysiadu, wedi bod yn destun gorchymyn preswyl neu orchymyn gwarcheidwadaeth arbennig yn syth ar ôl derbyn gofal (yn ôl diffiniad Côd Derbyniadau Ysgolion Llywodraeth Cymru, dogfen rhif 005/2013). Bydd angen darparu tystiolaeth ar gyfer holl geisiadau meini prawf PDG.

**Mesurir y pellter o'r tu allan i fynedfa'r eiddo (tŷ neu fflat) i fynedfa swyddogol agosaf yr ysgol. Defnyddir rhaglen gyfrifiadur GIS yr awdurdod lleol i fesur y pellter. 

***Diffinnir brawd neu chwaer fel plentyn naturiol neu blentyn sydd wedi'i fabwysiadu'n gyfreithlon gan y naill riant neu'r llall sy'n byw yn yr un cyfeiriad.  Mewn unrhyw sefyllfa pan fydd un lle ar gael ac mae'r plant cymwys nesaf ar gyfer y lle hwnnw'n efeilliaid/tripledi, bydd yr ALl yn derbyn y ddau/tri phlentyn. Diffinnir oedran ysgol statudol fel disgyblion sydd rhwng 5 ac 16 oed (h.y. disgyblion mewn unrhyw grŵp blwyddyn rhwng ac yn cynnwys y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 11.) 

Ysgolion a Gynorthwyir yn Wirfoddol - Cynradd

Os ydych yn dymuno gwneud cais am le mewn ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol, bydd angen i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r ysgol. Mae manylion am sut mae ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn derbyn ei disgyblion ar dudalen www.abertawe.gov.uk/trefniadauDerbynGynorthwyirWirfoddol.