Datganiadau i'r wasg Mawrth 2022
Datblygiad tai newydd wedi'i gwblhau mewn hen ganolfan addysg
Mae gwaith wedi'i gwblhau ar gynllun tai newydd Cyngor Abertawe.
Rhagor o gartrefi cyngor yn cael eu cwblhau ar gyfer pobl Abertawe
Mae pump ar hugain o gartrefi ynni effeithlon newydd sy'n cael eu hadeiladu gan Gyngor Abertawe bron â bod yn barod i bobl fyw ynddynt.
Ymweliad â Ffordd y Brenin i ddangos y cynnydd yn y cynllun swyddfeydd
Mae arweinwyr prosiect sy'n gyfrifol am ddatblygiad newydd yng nghanol dinas Abertawe wedi ymweld â'r safle adeiladu i weld y cynnydd cynnar sydd eisoes wedi'i wneud yno.
Gweinidog yr Economi yn mynd ar daith i weld adfywiad y ddinas
Roedd Theatr y Palace a Gwaith Copr yr Hafod-Morfa ar yr amserlen deithio pan ddaeth Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, i Abertawe i weld â'i lygaid ei hun faint o waith adfywio sy'n digwydd yn y ddinas.
Caniatâd i wireddu gweledigaeth ynni a datblygiad economaidd rhanbarthol
Rhoddwyd caniatâd i roi cynlluniau a strategaethau rhanbarthol ar waith a fydd yn hybu ffyniant economaidd ac yn helpu de-orllewin Cymru i gyrraedd ei dargedau ynni sero-net.
Cymunedau'n dathlu ardaloedd chwarae newydd
Mae tair cymuned yn Abertawe wedi bod yn mwynhau trît hanner tymor arbennig diolch i gynllun £5m y cyngor i greu neu wella ardaloedd chwarae'r ddinas.
Gwella mynediad i Bier y Gorllewin Abertawe
Bydd mynediad i Bier y Gorllewin Abertawe yn cael ei wella'n sylweddol er mwynhad miloedd o bobl o bob gallu yn y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.
Comisiwn Iechyd Meddwl a Hanesion Llafar ar gyfer Abertawe Wledig
Mae prosiect Iechyd Meddwl a Hanesion Llafar, ac adnoddau i gynyddu ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael ar gyfer y sector amaethyddol a gweithwyr ar y tir yn Abertawe Wledig newydd gael ei gomisiynu.
Diffodd goleuadau ar gyfer yr Awr Ddaear
Mae preswylwyr Abertawe yn cael eu hannog i gefnogi digwyddiad diffodd goleuadau Awr Ddaear Cymru'r wythnos nesaf i ddathlu'r blaned a nodi'r angen i'w diogelu.
Gadewch i ni gyfri'r diwrnodau tan hwyl y Pasg
Bydd Abertawe'n cyfri'r diwrnodau tan wyliau'r Pasg gan y bydd Castell Ystumllwynarth a llu o atyniadau eraill yn ailagor ar ôl iddynt fod ar gau dros y gaeaf.
Hanes canoloesol yn dychwelyd i gastell hanesyddol
Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2022.
Arwyr cymunedol di-glod Abertawe'n derbyn clod am eu cefnogaeth yn ystod y pandemig
Cafodd arwyr cymunedol di-glod sydd wedi helpu pobl Abertawe drwy'r pandemig eu hanrhydeddu mewn digwyddiad arbennig.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 24 Chwefror 2023