Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Costau Byw - Tai

Mae cymorth ar gael i'ch helpu i ddod o hyd i rywle i fyw, eich atal rhag dod yn ddigartref a'ch helpu gyda'ch rhent a biliau eraill.

Mae cynllun Cymorth i Aros - Cymru yn cynnig cymorth i berchnogion tai o Gymru sydd mewn, neu'n wynebu, anhawster ariannol i dalu eu morgais. Mae cymorth ar ffurf benthyciad ecwiti a rennir: Cymorth i Aros - Cymru (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

Mewn perygl o golli'ch cartref

Os ydych yn poeni am fod yn ddigartref neu rydych ar fin colli'ch cartref, cysylltwch â'n tîm Opsiynau Tai cyn gynted â phosib fel y gallwn geisio eich helpu i'ch cadw yn eich llety presennol neu ddod o hyd i rywle newydd i chi.

Help i bobl ddigartref

Os ydych yn ddigartref ac nid oes gennych unman i aros yna cysylltwch â'n tîm Opsiynau Tai cyn gynted â phosib fel y gallwn eich helpu.

Dewch o hyd i gartref

Mae nifer o wahanol opsiynau a mathau o dai ar gael os ydych chi'n chwilio am gartref.

Opsiynau Tai

Rydym yn ceisio atal digartrefedd lle bo'n bosib. Gallwn wneud hyn drwy'ch helpu i aros lle'r ydych yn y tymor hir neu drwy'ch helpu i aros lle'r ydych nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.

Yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid yn darparu cefnogaeth a chyngor sy'n ymwneud â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rheini sy'n rhentu o'r sector preifat.

Gostyngiad Budd-dal Tai a Threth y Cyngor

Os ydych chi ar incwm isel efallai y gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai i'ch helpu gyda chostau rhent a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor er mwyn helpu gyda chostau treth y cyngor.

Taliadau Tai Dewisol

Mae Taliadau Tai Dewisol (TTD) yn daliadau ychwanegol i helpu gyda chostau rhent neu gostau tai. Maent ar gael i bobl sy'n derbyn naill ai Budd-dal Tai neu elfen dai o Gredyd Cynhwysol yn unig.

Grantiau a benthyciadau ar gyfer gwneud addasiadau i'r cartref

Gallwn helpu pobl oedrannus ac anabl i addasu eu cartrefi i weddu'n well i'w hanghenion.

Grantiau a benthyciadau perchen-feddianwyr i adnewyddu neu atgyweirio'ch cartref

Efallai y bydd grantiau a benthyciadau ar gael i'ch helpu i wneud atgyweiriadau i'ch cartref.

Cyngor a chefnogaeth bellach ar dai

Sefydliadau eraill a all helpu gyda materion tai.

Costau ynni a biliau cartref

Cefnogaeth a chyngor ar dalu eich biliau ynni a biliau eraill y cartref.