Data, polisïau a strategaethau tai
Data, polisïau a strategaethau sy'n ymwneud â'r gwasanaethau tai a sut maen nhw'n cael eu cynnal.
Cwestiynau cyffredin am dai (Rhyddid Gwybodaeth)
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am dai (Rhyddid Gwybodaeth).
Blociau tŵr Abertawe
Ffeithiau allweddol am flociau tŵr rydym yn berchen arnynt.
Strategaeth Y Rhaglen Cymorth Tai 2022-2026
Ein strategaeth i helpu'n nod o sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac nad yw'n cael ei ailadrodd.
Strategaeth rheoli rhenti tai 2022-2026
Mae'r Strategaeth hon yn nodi'r egwyddorion arweiniol ar gyfer datblygu a darparu Gwasanaeth Rheoli Rhenti Tai Cyngor Abertawe dros y 4 blynedd nesaf.
Polisi Dyrannu Tai
Y polisi hwn yw'r fframwaith ar gyfer asesu ceisiadau am dai cyngor gan gynnwys trosglwyddo tenantiaid, dyrannu tai cyngor ac enwebiadau am denantiaeth a ddelir gan gymdeithas dai.
Strategaeth Rheoli Stadau Tai 2021-2025
Mae'r strategaeth hon yn nodi'r egwyddorion arweiniol ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau rheoli ystadau ar stadau tai Cyngor Abertawe dros y 4blynedd nesaf.
Adnewyddu tai'r sector preifat ac addasiadau i'r anabl: polisi darparu cymorth 2022-2027
Mae Polisi Adnewyddu Tai ac Addasiadau i'r Anabl y Sector Preifat yn manylu ar sut mae Dinas a Sir Abertawe (y cyngor) yn darparu cymorth i helpu perchnogion a thenantiaid preifat i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu eu cartrefi.
Safon Ansawdd Tai Cymru: Polisi Cydymffurfio
Mae pob awdurdod sy'n berchen ar stoc tai yn gorfod sicrhau bod ei eiddo'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.
Polisi Sipsiwn a Theithwyr
Mae ein Polisi Sipsiwn a Theithwyr yn rhoi cyfle cyfartal i deuluoedd gael mynediad i wasanaethau a ddarperir gan y cyngor ac eraill.
Datganiad ar gyfer Ymchwilio i Ddigartrefedd Bwriadol yn Ninas a Sir Abertawe
Pan fo rhywun sy'n gymwys am help o dan ddarpariaethau digartrefedd Deddf Tai (Cymru) 2014, mewn perygl o ddigartrefedd, mae'n ofynnol i'r cyngor gymryd pob cam rhesymol i gadw'r aelwyd honno gyda'i gilydd yn ei chartref, os yw'n addas.
Asesiad o lety sipsiwn a theithwyr 2022
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol gyflawni asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n preswylio yn ei ardal neu'n cyrchu yno, a gwneud darpariaeth ar gyfer safleoedd lle mae'r asesiad yn canfod angen nad yw wedi'i ddiwallu am leiniau cartrefi symudol.
Addaswyd diwethaf ar 05 Mai 2023