Poblogaeth
Ystadegau am boblogaeth ac aelwydydd - amcangyfrifon poblogaeth, tueddiadau diweddar, data ardaloedd bach, dwysedd, nodweddion poblogaeth, amcangyfrifon aelwydydd, rhagamcanion poblogaeth ac aelwydydd.
Yr amcangyfrif swyddogol diweddaraf o boblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 241,300 (amcangyfrif canol blwyddyn 2022, Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Dyma'r ail amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn blynyddol a gyhoeddwyd gan y SYG ers Cyfrifiad 2021. Maent yn cynrychioli amcangyfrif sydd wedi'i gario ymlaen i 30 Mehefin 2022 o ffigur canol 2021, sy'n rhoi cyfrif am enedigaethau, marwolaethau a newidiadau mudo amcangyfrifedig dros y flwyddyn. Mae'r amcangyfrif diweddaraf tua 3,400 (+1.4%) yn uwch na ffigur canol-2021.
Bydd gwybodaeth bellach am yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Abertawe, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl oedran a rhyw, elfennau newid a data ar gyfer awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ar gael mewn nodyn briffio (PDF) [1MB] a ffeil ddata (Excel doc) [46KB] ar y dudalen hon.
Mae mwy o wybodaeth am y boblogaeth a'r ddemograffeg ar y tudalennau canlynol:
- Tueddiadau Poblogaeth Diweddar
- Cyfrifiad 2021: cefndir, canlyniadau cyntaf, ystadegau ar nodweddion poblogaeth ac aelwydydd
- Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach (2022)
- Dwysedd poblogaeth, gan gynnwys ardaloedd bach yn Abertawe
- Amcangyfrifon Aelwydydd (Cyfrifiad 2021)
- Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd (Llywodraeth Cymru, sail-2018)
Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth Abertawe, cysylltwch â ni.