Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybuddion ac adroddiadau am weithredoedd twyllodrus

Os ydych wedi gweld gweithred dwyllodrus yn ddiweddar gallwch roi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch hefyd weld y rhybuddion am y weithredoedd twyllodrus diweddaraf.

Byddwn bob amser yn darparu'r rhybuddion diweddaraf wrth i ni eu derbyn, er mwyn i bobl eraill ddiogelu eu hunain. Cofiwch fod gweithredoedd twyllodrus newydd yn ymddangos yn aml, felly nid yw'r ffaith eich bod heb weld rhybudd yn golygu nad yw'n weithred dwyllodrus.

Gallwn gynnig cyngor os ydych yn credu eich bod wedi dioddef gweithred dwyllodrus ond ni allwn adennill unrhyw arian neu nwyddau i chi. 

Byddwn yn cyhoeddi rhybuddion am weithredoedd twyllodrus ar ein tudalen Facebook Safonau Masnach Abertawe.

Adrodd am weithred dwyllodrus bosib Adrodd am weithred dwyllodrus bosib

Rhybudd i drigolion lleol - Masnachwyr twyllodrus yn Abertawe

Mae Safonau Masnach Abertawe wedi cyhoeddi rhybudd am fasnachwr twyllodrus y gwyddys ei fod yn gweithredu nawr mewn sawl ardal yn Abertawe.

Twyll cardiau banc

Roedd preswylydd o Abertawe gartref pan dderbyniodd alwad ffôn ar ei linell dir. Dywedodd llais gwrywaidd wrtho mai'r heddlu oedd yno a'i fod wedi bod yn destun gweithred dwyllodrus gyda swm o arian wedi'i dynnu o'i fanc.

12 sgam y Nadolig

Dyma'r tymor i ddathlu, ond ydych chi wir am roi anrheg i seiber-droseddwyr?

Rhybydd sgam - cynllun cymorth

Mae pobl yn derbyn negeseuon testun digymell sy'n ymddangos fel pe baent yn dod oddi wrth cyngor, Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU yn gofyn am fanylion banc pobl fel y gellir talu grant iddynt. Sgam ydyw, felly anwybyddwch e'.

Sgam ad-daliad OFGEM

Mae sgam ad-daliad ynni yn mynd ar led ar hyn o bryd lle mae twyllwyr yn anfon e-byst ffug yn esgus taw Ofgem (Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan) sydd wedi'u hanfon.

Gweithredoedd twyllodrus Coronafeirws

Manylion gweithredoedd twyllodrus sy'n ymwneud â COVID-19. Mae nifer o weithredoedd twyllodrus i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i ni gael gwybod am weithredoedd twyllodrus newydd.

Rhybudd: mae twyllwyr yn esgus eu bod yn aelodau'r teulu ar WhatsApp

Mae twyllwyr sy'n defnyddio WhatsApp yn esgus eu bod yn aelodau'r teulu er mwyn dylanwadu ar y dioddefwr i drosglwyddo arian iddynt.

Twyll ad-daliadau treth cerbyd y DVLA

Dywedir wrthym yn aml am e-byst, negeseuon testun a galwadau ffôn sy'n honni eu bod o'r DVLA. Mae gweithredoedd twyllodrus amrywiol wedi bod yn digwydd ers dros 4 blynedd. Maent yn cynnwys negeseuon testun sy'n honni na wnaed taliad ar dreth cerbyd neu bod ad-daliad am ordaliad yn aros. Mae'r gweithredoedd twyllodrus wedi'u cynllunio i'ch twyllo i anfon eich manylion banc neu daliad i'r twyllwyr.

Twyll Gostyngiad Treth y Cyngor

Byddwch yn wyliadwrus o dwyll dros e-bost sy'n dweud wrthych y gallwch wneud cais am ostyngiad Treth y Cyngor. Bydd yn gofyn i chi am eich manylion banc a allai arwain atoch yn cael eich twyllo i roi arian.