Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiadau i'r wasg Gorffennaf 2022

Mis i fynd nes y bydd globau Abertawe'n cael eu cyflwyno

Mae pobl Abertawe ar fin mynd ar daith ddarganfod ar hyd llwybr celf gyhoeddus sy'n archwilio'u hanes cyffredin - a sut y gall pob un ohonom helpu i wneud cyfiawnder hiliol yn realiti.

Awgrymiadau gan arbenigwyr mewn siop hunangyflogaeth dan yr unto

Bydd cyngor arbenigol wrth law yr wythnos nesaf i fusnesau newydd dan ddwy flwydd oed ac unrhyw un sy'n ystyried cychwyn ei fenter ei hun.

Awyrluniau newydd yn dangos cynnydd o ran y sylfeini ar safle swyddfeydd newydd

Mae'r datblygiad swyddfeydd newydd blaengar yn Abertawe'n gwneud cynnydd ar safle lle'r oedd dathlwyr gynt yn mynd i gael hwyl gyda'r hwyr.

Y Gwŷr Meirch Cymreig i arfer eu hawl i orymdeithio yn Abertawe.

Bydd milwyr o Warchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines (QDG), 'Y Gwŷr Meirch Cymreig' yn arfer eu hawl i orymdeithio drwy ganol y ddinas ddydd Gwener.

Cymorth i fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe ar ddiwedd y tymor

Mae miloedd o fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe wedi cael cymorth ychwanegol i helpu i sicrhau na fydd sachau du wedi'u gadael yn plagio'u cymunedau.

Y Gwŷr Meirch Cymreig yn arfer eu hawl i orymdeithio yn Abertawe.

Roedd milwyr o Warchodlu Marchfilwyr Cyntaf y Frenhines (QDG), 'Y Gwŷr Meirch Cymreig' wedi arfer eu hawl i orymdeithio drwy ganol y ddinas ddydd Gwener.

Mwynhewch haul y penwythnos

Waw! Mae rhagolygon y penwythnos hwn yn addo tywydd bendigedig yn Abertawe

Gwirfoddolwyr y ddinas yn helpu digwyddiad i dynnu sylw byd-eang at Abertawe

​​​​​​​Bydd mwy na 500 o wirfoddolwyr yn ceisio helpu digwyddiad treiathlon IRONMAN 70.3 cyntaf Abertawe fod yn un o'r goreuon yng nghalendr byd-eang disglair y brand.

Cabanau bwyd a diod newydd ym Mae Copr

Mae nifer o gabanau pren bwyd a diod newydd dros dro bellach ar agor yng nghanol dinas Abertawe.

Ardaloedd chwarae newydd yn agor mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf

Mae ardal chwarae newydd sbon ar gyfer West Cross ac ardal chwarae sydd newydd gael ei huwchraddio ym Mhontarddulais wedi'u cwblhau mewn pryd ar gyfer gwyliau prysur yr haf.

Yr anrhydedd uchaf i Gymdeithas y Llynges Fasnachol

Bwriedir cyflwyno Rhyddid er Anrhydedd y Ddinas i Gymdeithas y Llynges Fasnachol yn Abertawe.

Cynlluniau wedi'u cyflwyno ar gyfer pontŵn ar afon Tawe

Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno i osod pontŵn i gychod ar afon Tawe Abertawe.
Close Dewis iaith