Toglo gwelededd dewislen symudol

Llyfryn Gwybodaeth i Rieni 2024 / 2025

Gwybodaeth am y gwasanaethau addysg yn Abertawe

Beth os oes gan fy mhlentyn Anghenion dysgu Ychwanegol?

Mae plentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael llawer mwy o anhawster dysgu na'r mwyafrif o blant eraill o'r un oedran a/neu mae ganddo anabledd, sy'n ei rwystro rhag defnyddio cyfleusterau ar gyfer y math o addysg a ddarperir yn gyffredinol i eraill o'r un oedran mewn ysgol brif ffrwd.

Efallai bydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) ar blentyn ag ADY, er mwyn sicrhau bod ei anghenion yn cael eu diwallu a bod unrhyw rwystrau i ddysgu yn cael eu dileu. Mae'n bwysig bod plant ag ADY yn cael eu nodi'n gynnar yn eu gyrfa yn yr ysgol, fel y gellir rhoi ymyriad priodol ar waith cyn gynted â phosib. Mae gan athrawon dosbarth rôl allweddol yn y broses nodi hon.

Bydd anghenion y rhan fwyaf o ddysgwyr ag ADY yn cael eu diwallu drwy gefnogaeth a darpariaeth yn yr ysgol. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, bydd angen mwy o gefnogaeth gan yr Awdurdod Lleol.  Mae seicolegwyr addysg ac athrawon arbenigol (sy'n gweithio mewn sawl ysgol) hefyd ar gael i helpu'r ysgol.  Bydd anghenion y rhan fwyaf o blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu yn eu hysgol leol o adnoddau'r ysgol. Os oes gan eich plentyn CDU a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol, bydd yr Awdurdod Lleol yn ceisio sicrhau bod ei anghenion yn dal i gael eu diwallu yn ei ysgol brif ffrwd leol lle bo hynny'n bosib. Mae ysgolion yn derbyn hyfforddiant ar gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol i sicrhau eu bod yn gallu cefnogi ystod eang o anghenion. Mae gan rai plant anghenion cymhleth, tymor hir, sy'n cael eu diwallu orau mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA) neu ysgol arbennig lle mae addysgu, arbenigedd ac offer arbenigol ychwanegol ar gael. Mae dwy ysgol arbennig yn Abertawe sef Ysgol Crug Glas ac Ysgol Pen-y-bryn.  Mae disgyblion yn mynychu'r Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAAau) hyn ac ysgolion arbennig os cânt eu lleoli yno gan yr Awdurdod Lleol.

Mae gan bob ysgol brif ffrwd a gynhelir yn Abertawe berson dynodedig a fydd yn gyfrifol am gydlynu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ADY. Adwaenir y person hwnnw fel y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu CADY.  Y CADY yw'r unigolyn sydd, ar lefel strategol, yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr ag ADY yn cael eu nodi a'u diwallu.  Os ydych chi'n credu bod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY), dylech siarad â phennaeth ysgol eich plentyn neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn yr ysgol.  Gallwch hefyd gysylltu â Thîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yr awdurdod lleol: ALNIT@abertawe.gov.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, polisi neu weithdrefnau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol, ewch i'n gwefan: www.abertawe.gov.uk/anghenionDysguYchwanegol.

IA oes cefnogaeth arbenigol ar gael ar gyfer anawsterau ymddygiadol?

Yn gyffredinol, cefnogir a darperir ar gyfer pobl ifanc ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn yr ysgol, a darperir ar eu cyfer gan athrawon prif ffrwd. Mewn nifer bach o achosion, mae angen mewnbwn arbenigol. Gall ysgolion wedyn alw ar gefnogaeth y Seicolegydd Addysg neu'r Athro Cefnogi Ymddygiad a fydd yn gweithio gyda staff yn yr ysgol i'w helpu i ddatrys unrhyw anawsterau. Os yw'r person ifanc yn parhau i ymddwyn mewn modd arbennig o heriol, er gwaethaf y gefnogaeth ychwanegol, gall yr ysgol wneud cais am le ym Maes Derw sef yr Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD). Cyn cael eu lleoli yn yr UCD, bydd disgyblion fel arfer wedi derbyn cefnogaeth gan y Seicolegydd Addysg a/neu'r Athro Cefnogi Ymddygiad yn yr ysgol. Nid oes gan bob disgybl ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol anghenion dysgu ychwanegol. Penderfynir ar anghenion dysgu ychwanegol pan fydd gan ddysgwr anawsterau dysgu estynedig sylweddol sy'n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Disgwylir i ddisgyblion sy'n cael eu lleoli mewn UCD ddychwelyd i'w hysgolion prif ffrwd, a bydd hyd eu cyfnod yn yr UCD yn amrywio. Gwneir atgyfeiriadau ar gyfer UCD gan yr ysgol i'r Panel Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) neu'r Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

A oes cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer fy mhlentyn sy'n dod o gartref lle na siaredir Cymraeg na Saesneg?

Oes, mae gan y rhan fwyaf o ysgolion gyllid i ddatblygu eu darpariaeth eu hunain ar gyfer plant nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gartref. Os ydych chi'n meddwl y gallai fod angen help ar eich plentyn i ddysgu Cymraeg/Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY/WAL), mae angen i chi siarad ag ysgol eich plentyn. Os oes angen cyngor neu arweiniad ar yr ysgol ar sut i gefnogi eich plentyn gall yr ysgol gysylltu gyda EAL@abertawe.gov.uk.

Sut bydd fy mhlentyn yn cyrraedd yr ysgol?

Mae'r cyngor yn darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol ar sail ei Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol cyhoeddedig. Mae hyn yn unol â gofyniadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Llywodraeth Cymru. Darperir cludiant am ddim i ddisgyblion sy'n byw dwy filltir neu fwy o ysgol gynradd eu dalgylch neu dair milltir neu fwy o ysgol uwchradd eu dalgylch. Mesurir y pellter hwn yn ôl y llwybr cerdded byrraf yn unol â Pholisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y cyngor, Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Ddarpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Teithio gan Ddysgwyr Llywodraeth Cymru (Mehefin 2014). Darperir cludiant am ddim o ddechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r plant yn cael eu pen-blwydd yn bump oed ynddi. Ni ddarperir cludiant am ddim i blant iau/meithrin).

Os ydych yn gwneud cais am le mewn ysgol nad yw'r ysgol ddynodedig ar gyfer eich cyfeiriad cartref, chi fel rhiant/gofalwr sy'n gyfrifol am gost cludo'ch plentyn i'r ysgol ac oddi yno. Ni fydd yr awdurdod lleol yn darparu cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol pan nad yw disgybl yn mynd i'w ysgol ddynodedig. Mae hyn hefyd yn berthnasol os caiff plentyn le mewn ysgol nad yw'n ysgol y dalgylch o ganlyniad i apêl lwyddiannus. Gellir cadarnhau eich ysgol ddynodedig trwy ebostio derbyniadau@abertawe.gov.uk.

Bydd disgyblion sy'n gymwys i dderbyn cludiant am ddim yn derbyn ffurflen gais yn ystod mis Mai/Mehefin ar gyfer y flwyddyn academaidd sy'n dechrau ym mis Medi.

Mae'r cyngor yn gweithredu Cynllun Gwerthu Seddi Sbâr dewisol ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol am ddim.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio Uned Cludiant Integredig y cyngor ar 01792 636347 neu ar-lein o wedudalennau Cludiant Ysgol y cyngor: www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol

I blant â Chynlluniau Datblygu Unigol (CDUau), mae'r polisi cludiant cyffredinol a ddisgrifir uchod yn berthnasol. Bydd y cyngor yn darparu cludiant am ddim i blant ag anghenion addysgol arbennig, lle cânt eu lleoli gan yr Adran Addysg mewn ysgol brif ffrwd yn hytrach nag yn ysgol eu dalgylch lleol, mewn Cyfleuster Addysgu Arbenigol yn hytrach na'u hysgol leol, neu mewn ysgol arbennig, ar yr amod eu bod yn byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol yn achos disgyblion cynradd a 3 milltir neu fwy yn achos disgyblion uwchradd. Gall yr awdurdod lleol ddarparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim yn ôl ei ddisgresiwn gan ddibynnu ar natur anghenion dysgu ychwanegol y plentyn.  Os yw'r Adran Addysg yn credu y gellir diwallu anghenion plentyn yn ei ysgol brif ffrwd leol ond mae'r rhieni'n dewis ysgol brif ffrwd wahanol, y rhiant fydd yn gyfrifol am unrhyw drefniadau a chostau cludiant.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am gludiant ysgol trwy ffonio Uned Cludiant Integredig y Cyngor ar 01792 636347 neu ar-lein ar we-dudalennau Cludiant i'r Ysgol y Cyngor: www.abertawe.gov.uk/cludiantirysgol.

Mae'r awdurdod lleol yn adolygu ei drefniadau cludiant i'r ysgol ar hyn o bryd. Pe byddai unrhyw newidiadau yn cael eu cynnig, cynhelir ymgynghoriad priodol a chaiff y llyfryn hwn ei ddiweddaru yn unol â hynny.

Gall newidiadau i argaeledd llwybrau cerdded yn y dyfodol, a allai arwain at ddileu cludiant am ddim, effeithio ar Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Ysgol Gyfun Pontarddulais ac Ysgol Gyfun Gŵyr. Yr ardaloedd sy'n destun adolygiad yw: Pontybrenin i Dre-gŵyr, Pengelli i Bontarddulais a Chlun i Landeilo Ferwallt.

Beth yw'r Gwasanaeth Lles Addysg?

Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) yn cefnogi'r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) gyda dyletswyddau statudol i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yn Abertawe fynediad at ddarpariaeth addysg addas a pherthnasol sy'n eu galluogi i ddysgu. Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn bwysig iawn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn yr addysg orau bosib. Mae gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg a enwir (SLlA). Mae hefyd SLlA a enwir sy'n cydweithio gyda'r Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae'r GLlA yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc y mae prydlondeb, presenoldeb afreolaidd, absenoldeb o'r ysgol a materion lles yn effeithio ar eu haddysg. Asesu problemau ac edrych ar atebion trwy weithio'n agos gydag ysgolion, disgyblion, eu rhieni a gofalwyr. Mae SLlA yn gefnogol iawn ac yn gweithio o safbwynt ataliol fel y gellir gwneud pob ymdrech i osgoi cosbau cyfreithiol. Mae SLlA yn gweithio'n galed i gynnwys plant, pobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn adeiladu perthnasoedd gwaith cadarnhaol i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a gweithio gyda nhw i ddatrys problemau yn hytrach na chymryd camau gweithredu cyfreithiol. Fodd bynnag, mae gan SLlA gyfrifoldeb i sicrhau presenoldeb ysgol rheolaidd a gallant ddefnyddio Hysbysiad o Gosb Benodol a/neu brosesau erlyn yn y llys i gefnogi hyn. Mae'r gwasanaeth wedi dynodi swyddogion er mwyn mynd i'r afael â dyletswyddau penodol ar gyfer Cyflogaeth Plant (CP), addysg ddewisol yn y cartref a Phlant sy'n Colli Addysg.

Pobl ifanc oedran ysgol sy'n gweithio

Os yw eich plentyn am gael unrhyw waith rhan-amser pan fydd yn dal i fod yn yr ysgol, mae nifer o reolau sy'n berthnasol. Mae'r gofynion cyfreithiol hyn yn sicrhau bod y bobl ifanc yn cael eu cofrestru a'u trwyddedu gan Swyddog Cyflogaeth Plant yr awdurdod lleol, ac nad ydynt yn ymgymryd â gwaith a allai niweidio eu hiechyd, eu rhoi mewn perygl corfforol neu gael effaith andwyol ar eu haddysg. Y dyddiad swyddogol ar gyfer gadael yr ysgol yw dydd Gwener olaf mis Mehefin yn y flwyddyn ysgol mae'r disgybl yn 16 oed.

Cyn y dyddiad hwn, gall pobl ifanc dros 13 oed wneud cais am drwydded waith ar gyfer gwaith rhan-amser. Rhaid cwblhau ffurflen gais wedi'i llofnodi gan y rhieni a'r cyflogwr. Os yw'r math o waith yn addas a'r oriau gwaith o fewn y terfynau penodol, bydd trwydded waith yn cael ei chyflwyno.  I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch child.employment@abertawe.gov.uk

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Rhwydwaith Cenedlaethol Cyflogaeth ac Adloniant Plant (NNCEE) yn www.nncee.org.uk/

Cysylltiadau defnyddiol:

Gwasanaeth Lles Addysg: educationwelfareservice@abertawe.gov.uk

Gwybodaeth am gyflogaeth plant: child.employment@abertawe.gov.uk

Addysg Ddewisol yn y Cartref: electivehomeeducation@abertawe.gov.uk

Beth os yw fy mhlentyn am fod yn rhan o gynhyrchiad adloniant?

Bydd rhai plant yn cael y cyfle i gymryd rhan ym myd adloniant, megis ar lwyfan neu mewn ffilm a theledu. Mae angen trwydded ar gyfer hyn, ac fel gyda chyflogaeth ran-amser, mae amodau i'w dilyn. Y person sy'n trefnu'r cynhyrchiad sy'n gyfrifol am wneud cais am drwydded berfformio, ac mae angen i hyn gael ei wneud o leiaf 21 diwrnod cyn diwrnod cyntaf y perfformiad. Mae adran o'r ffurflen gais i'r rhieni ei chwblhau, ac os yw eich plentyn yn rhan o gynhyrchiad adloniant, bydd angen i chi sicrhau bod trwydded wedi'i rhoi.

Mae ffurflenni cais am drwyddedau ar gael gan yr Tîm Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr.  Cyswllt: childperformancelicence@abertawe.gov.uk

Diolgelu

Mae Adran Addysg yr Awdurdod Lleol yn cyflogi Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Addysg amser llawn. Mae'r swyddog yn rhoi cyngor, arweiniad a chefnogaeth ar faterion amddiffyn a diogelu plant ar gyfer staff ysgolion, rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill ac mae hefyd yn darparu hyfforddiant i staff ysgolion, staff addysg a llywodraethwyr. Mae'r swyddog hefyd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ddiogelu gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu ac iechyd fel rhan o Hwb Ddiogelu Integredig.Mae pob ysgol wedi penodi person dynodedig - fel arfer y pennaeth mewn ysgolion cynradd, sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant. Mae corff llywodraethu pob ysgol wedi pennu Llywodraethwr sy'n gyfrifol am amddiffyn a diogelu plant.

Bydd gan bob ysgol ei Pholisi Amddiffyn a Diogelu Plant ei hun sy'n pennu ei dyletswyddau ar gyfer diogelu disgyblion yn ei hysgolion.

Yn ogystal â'r ddyletswydd i ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru 2019 (https://diogelu.cymru/cy/) mae'n ofynnol iddynt weithio gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill o dan y ddeddfwriaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) -VAWDASV (Wales) Act 2015 yn ogystal â chanllawiau'r Swyddfa Gartref o dan Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 lle dylid ystyried plant sy'n byw gyda cham-drin domestig yn ddioddefwyr. Rydym yn cydnabod y gall disgyblion sy'n byw mewn sefyllfaoedd sy'n sarhaus yn y cartref fod yn debygol o fod yn dioddef trawma, yn teimlo'n ofnus neu'n nerfus ac yn llai tebygol o gyflawni yn yr un modd â disgyblion nad ydynt yn byw mewn amgylchiadau o'r fath. Mae ein hysgolion wedi ymrwymo i ymateb i ddisgyblion o'r fath gyda pholisïau amddiffyn a diogelu plant.

Mae ein hysgolion yn gweithio'n agos gyda swyddogion Heddlu De Cymru i ymateb i ddisgyblion a all fod wedi profi cam-drin domestig gartref dan brosesau Ymgyrch Encompass. Os yw swyddogion heddlu'n mynd i eiddo lle nodir cam-drin domestig ac mae plant yn bresennol neu'n cael eu cofnodi fel rhai sy'n byw yn y cyfeiriad, byddant yn cyflwyno adroddiad cynhwysfawr i ysgol y plentyn y bore canlynol. Mae'r adroddiad yn cynnwys manylion y cyflawnwr honedig a'r dioddefwr honedig ochr yn ochr â chrynodeb byr o'r rheswm dros gysylltu â'r heddlu. Diben yr adroddiad hwn yw caniatáu i ysgolion ddeall pam y gall disgyblion fod yn teimlo'n bryderus ac/neu'n isel a darparu cymorth lles priodol ar yr adeg pan fo'i angen fwyaf. I gael rhagor o wybodaeth am Ymgyrch Encompass cliciwch: www.operationencompass.org/

Cosb gorfforol

Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 i rym ar 21 Mawrth 2022. Nid yw'n creu trosedd newydd, ond mae'n diddymu amddiffyniad o "gosb resymol" yn y troseddau presennol o ymosod ar blentyn neu guro plentyn.  Mae cosbi corfforol yn cynnwys taro, bwrw, slapio, ysgwyd neu gosbi plentyn fel arall gan ddefnyddio grym corfforol. Mae'r newid yn golygu y bydd unrhyw ffurf ar gosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru, gan gynnwys gan rieni, gofalwyr ac unrhyw un sy'n gweithredu in loco parentis mewn unrhyw leoliad yng Nghymru.

Mae'n ofynnol i bob un o'n hysgolion weithio o fewn y gyfraith drwy adrodd am unrhyw achosion a welwyd o gosb gorfforol a gweithio gyda gwasanaethau statudol a'r heddlu lle bo hynny'n briodol i gefnogi teuluoedd pan dderbynnir datgeliad yn ymwneud â chosb gorfforol neu fathau eraill o niwed.

Rhif ffôn y Swyddog Amddiffyn a Diogelu Plant Addysg yw 01792 637148 / 07827 822700

A fydd fy mhlentyn yn cael prydau ysgol?

Mae'r cinio ysgol gynradd yn cynnwys pryd dau gwrs wedi'i baratoi'n ffres gyda diod a darperir hwn ym mhob ysgol. Mae'r prydau hyn yn bodloni'r canllawiau maeth fel sy'n ofynnol gan "Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013" a'n nod yw gwneud y rhain yn ddeniadol ac yn flasus i blant.

Mae bwydlen tair wythnos ar gael ar wefan Cyngor Abertawe: www.abertawe.gov.uk/bwydlenPrydauYsgolion am bris o £2.40 y dydd. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu y gall bwyta'n iach yn rheolaidd drwy gyfuno brecwast yn y bore gyda chinio ysgol am hanner dydd helpu plant i ddysgu'n well. Gellir darparu ar gyfer gofynion dietegol arbennig ar gais. Mae pob ysgol gynradd yn cynnig system heb arian drwy dalu ar-lein neu bwynt taliadau yn eich siop leol.

Mae gan ysgolion uwchradd gaffiterias sydd yn darparu prydau bwyd sydd ar gael am £2.40. Mae gan y rhan fwyaf o ysgolion system fiometrig a gefnogir gan system heb arian drwy dalu ar-lein.

A yw fy mhlentyn yn gwymwys i gael prydau ysgol am ddim?

Mae disgyblion y mae eu rhieni'n derbyn Credyd Cynhwysol a chanddynt enillion net blynyddol o £7,400 neu lai ac yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Treth Plant (gydag incwm trethadwy o hyd at £16,190 y flwyddyn ac, ar yr amod nad ydynt yn derbyn Credyd Treth Gwaith), elfen warantedig Credyd Pensiwn neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno amddiffyniad ar gyfer y rheini sy'n Derbyn Prydau Ysgol am ddim tan Ragfyr 2023 ('amddiffyniad wrth bontio')

Gellir cael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim a'r meini prawf amddiffyn gan ddefnyddio'r manylion isod:

Gwefan: www.abertawe.gov.uk/prydauysgolamddim

E-bost: prydauysgolamddim@abertawe.gov.uk Ffôn: 01792 635353

O fis Medi 2023 dechreuwyd cyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i ddisgyblion ysgolion cynradd yng Nghymru. Yn Abertawe mae pob plentyn oedran derbyn yn derbyn prydau ysgol am ddim.  Does dim angen cyflwyno cais am y prydau hyn, ond rydym yn annog disgyblion i hawlio'r prydau ysgol am ddim oherwydd gallant hefyd elwa o'r grant gwisg ysgol am ddim a chostau is eraill, fel ar gyfer teithiau ysgol.

Clybiau brecwast

Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd yn Abertawe glybiau brecwast am ddim sydd fel arfer yn rhedeg am tua hanner awr cyn dechrau'r diwrnod ysgol.  Mae llawer o ysgolion hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer gofal plant cyn y clwb brecwast ac yn codi tâl bach am y gwasanaeth hwn. Dylech gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael manylion am amseroedd agor, taliadau a sut i gofrestru.

Ymweliadau ysgol

Codir tâl am lety a bwyd i blant sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau lle y maent yn aros dros nos. Mae ysgolion hefyd yn aml yn gofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer gweithgareddau a gwibdeithiau dydd.

Ni chodir tâl am unrhyw gwrs preswyl neu wersyll y cytunwyd arno (sy'n rhan o'r cwricwlwm) os yw rhieni'r disgyblion yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm, Credyd Treth Plant (gydag incwm trethadwy o hyd at £16,190 y flwyddyn, ac ar yr amod nad ydych yn derbyn Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio), elfen warantedig y Credyd Pensiwn Gwladol neu lwfans cyflogaeth a chefnogaeth ar sail incwm.

Os yw disgybl yn teithio o'i gartref i weithgaredd a anogir ond nas darperir gan y Gyfarwyddiaeth Addysg neu'r ysgol (er enghraifft, profiad gwaith), gofynnir i chi dalu am y tocynnau bws.  Gallwch gael gwybodaeth am yr hyn a ddarperir am ddim a phryd y disgwylir i chi dalu trwy gael manylion am y polisïau hyn oddi wrth yr ysgol neu'r Gyfarwyddiaeth Addysg. 

Gwisg ysgol

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig Grant Gwisg Ysgol blynyddol i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (nid y rheini sydd ag amddiffyniad wrth bontio). Ym mis Medi 2023, roedd y grant hwn ar gael i blant sy'n dechrau dosbarth Derbyn  hyd at flwyddyn 11 yn ogystal â phlant sy'n derbyn gofal. Os yw'r grant ar gael yn y dyfodol, bydd y cyngor yn cysylltu â rhieni cymwys yn uniongyrchol o gwmpas mis Mehefin/Gorffennaf i roi gwybod iddynt sut i gyflwyno cais.

Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.abertawe.gov.uk/grantGwisgYsgol

E-bost: GrantGwisgYsgol@abertawe.gov.uk Ffôn: 01792 636611

Pa arholiadau y bydd fy mhlentyn yn eu sefyll?

Bydd pob ysgol uwchradd yn rhoi manylion i chi am ganlyniadau eu harholiadau cyhoeddus os gofynnwch amdanynt. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll arholiadau, ar y lefel briodol, yn y pynciau maent yn eu hastudio. Bydd yr ysgol yn talu'r ffi arholiad pan fydd y disgybl yn sefyll yr arholiad am y tro cyntaf. Os bydd disgybl yn colli arholiad heb reswm meddygol dilys, gofynnir i rieni'r disgybl hwnnw dalu'r ffi.    Os paratowyd y disgybl ar gyfer yr arholiad yn rhywle arall neu os yw'n dewis sefyll arholiad nad yw'r ysgol wedi ei gynnig na'i argymell, gofynnir i rieni'r disgybl hwnnw dalu'r ffi. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y polisi arholiadau gan yr ysgol.

Llywodraethwyr ysgol

Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy'n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol. Mae gan lywodraethwyr gyfrifoldeb dros wella ysgolion, polisïau ysgol a rheolaeth yr ysgol. Maent yn gofalu am faterion pwysig megis cyllid yr ysgol a phenodi staff. Mae cyrff llywodraethu'n cynnwys pobl leol sy'n fodlon rhoi o'u hamser yn wirfoddol oherwydd eu diddordeb yn yr ysgol. Ymhlith y bobl hyn bydd rhieni, pobl a benodir gan yr awdurdod lleol, athrawon, y pennaeth, aelodau staff nad ydynt yn addysgu, pobl fusnes ac aelodau eraill o'r gymuned leol.

Mae'n rhaid i bob llywodraethwr newydd ei benodi fynd ar gwrs sefydlu dwy awr ar ddata perfformiad ysgol. Yn ogystal â hyn, mae rhaglen hyfforddiant i lywodraethwyr ar amrywiaeth o destunau i'w helpu i gyflawni eu rôl yn effeithiol. Mae'r Awdurdod Lleol yn darparu'r hyfforddiant hwn ar gyfer llywodraethwyr am ddim. Mae'n rhaid i bob corff llywodraethu lunio adroddiad blynyddol i rieni sy'n disgrifio gweithgareddau'r llywodraethwyr. Mae'r llywodraethwyr yn trefnu cyfarfod gyda'r rhieni lle y gall rhieni drafod yr adroddiad a gofyn cwestiynau am weithrediad yr ysgol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol, cysylltwch â'r Tîm Cefnogi Ysgolion a Llywodraethwyr yn y Ganolfan Ddinesig schoolandgovernorunit@abertawe.gov.uk

Gwybodaeth ac arweiniad a yrfaoedd

Wrth i ddisgyblion ddechrau ar y blynyddoedd hollbwysig o ran penderfyniadau am yrfaoedd - sef blynyddoedd 9, 11 a 12 - bydd Gyrfa Cymru wrth law i helpu rhieni yn ogystal â disgyblion. Gallant hefyd drefnu i rieni ddod i gyfweliad gyrfaoedd, naill ai gyda'ch plentyn neu ar wahân. Mae ymgynghorwyr gyrfaoedd hefyd yn dod i nosweithiau rhieni a digwyddiadau gyrfaoedd mewn ysgolion neu golegau, ac mae croeso i rieni ymweld â nhw yn un o'u canolfannau gyrfaoedd. Pan fydd disgyblion yn yr ysgol neu goleg, byddant yn cynnig trafodaethau grŵp i ddisgyblion/myfyrwyr ar bynciau gyrfaoedd perthnasol a chyfweliadau unigol i drafod eu dewisiadau a'u syniadau am yrfaoedd.

Mae mwy o wybodaeth a chyngor ar gael o Ganolfan Gyrfaoedd Abertawe, Grove House, Grove Place, Abertawe SA1 5DF Ffôn  0800 028 4844 neu https://careerswales.gov.wales/

Pa addyg fydd ar gael pan fydd fy mhlentyn dros 16 oed?

Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael i ddisgyblion sydd am aros mewn addysg amser llawn ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed. Gall myfyrwyr ddewis i barhau â'u hastudiaethau mewn ysgol uwchradd lle mae chweched dosbarth neu mewn coleg addysg bellach (AB). Yr ysgolion yn Abertawe sydd â chweched dosbarth yw Ysgol Gyfun Esgob Gore, Ysgol Gatholig Esgob Vaughan, Ysgol Gyfun Tregŵyr, Ysgol Gyfun Treforys ac Ysgol Gyfun yr Olchfa.

Mae Ysgol Gyfun Gymreag Bryn Tawe ac Ysgol Gyfun Gŵyr yn cynnig darpariaeth chweched dosbarth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r coleg AB, Coleg Gŵyr Abertawe, yn annibynnol o'r Awdurdod Lleol.

Oes modd i'm plentyn gael cymorth ariannol os bydd yn mynd ymlaen i addysg bellach neu uwch?

Lwfans Cynhaliaeth Addysg - Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau ôl-16 amser llawn mewn chweched dosbarthiadau neu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Gall teuluoedd ar incwm isel gyflwyno cais am y grant a bydd uchafswm o £40 yr wythnos, sy'n daladwy bob pythefnos, yn cael ei dalu i fyfyrwyr cymwys. Dylai gwybodaeth gyffredinol am y cynllun a'r pecynnau cais angenrheidiol fod ar gael yn yr ysgol neu'r coleg. Neu gallwch gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru LCA: www.studentfinancewales.co.uk/ Ffôn: 0300 200 4050

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, cyllid ar gyfer Addysg Bellach - Grant a gaiff ei asesu ar sail incwm yw Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), y bwriedir iddo annog pobl 19 oed a hŷn i barhau ag addysg bellach.

Gallai myfyrwyr o aelwydydd incwm isel sy'n 19 oed neu'n hŷn fod yn gymwys ar gyfer Grant Addysg Bellach Llywodraeth Cymru (GABLlC) (a elwir gynt yn Grant Addysg Bellach y Cynulliad) ar gyfer cyrsiau amser llawn neu ran-amser mewn colegau chweched dosbarth a thrydyddol. Gallwch gael yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch yn uniongyrchol o'ch coleg neu drwy gysylltu â chanolfan gyswllt Cyllid Myfyrwyr Cymru Gwasanaethau Cwsmeriaid AB Cyllid Myfyrwyr Cymrudrwy: www.studentfinancewales.co.uk/further-education-funding/welsh-government-learning-grant/ Ffôn: 0300 200 4050

Beth gallaf ei wneud os bydd cwyn gennyf neu os wyf yn anfodlon ar addysg fy mhlentyn?

Gwneir pob ymgais gan ysgolion i drafod a datrys problemau a chwynion a wneir gan rieni. Yn gyntaf, dylech wneud apwyntiad i siarad â phennaeth eich plentyn am y broblem. Gall y rhan fwyaf o gwynion gael eu datrys trwy wneud hyn. Ond os nad yw'ch cwyn yn cael ei datrys, gallwch holi yn ysgol eich plentyn am gopi o bolisi cwynion yr ysgol. Mae gan bob ysgol bolisi cwynion ysgrifenedig a fydd yn esbonio sut i fwrw ymlaen â chwyn sydd heb ei datrys. Os oes gennych unrhyw ymholiad am y weithdrefn i'w dilyn, ffoniwch y Tîm Cefnogi Ysgolion a Llwodraethwyr: schoolandgovernorunit@abertawe.gov.uk

Beth allaf wneud os nad yw'r wybodaeth rwyf ei eisiau yn y llyfryn hwn?

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gyngor, siaradwch â phennaeth yr ysgol neu cysylltwch â'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn y Ganolfan Ddinesig ar 01792 636000